This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

David Sweeney

Dirprwy Gadeirydd

Dirprwy Gadeirydd | Aelod y Bwrdd

Mae’r Athro David Sweeney yn Athro Polisi Ymchwil ym Mhrifysgol Birmingham. Roedd yn Gadeirydd Gweithredol Research England am bum mlynedd tan 2022. Mae hefyd yn Gadeirydd y Pandemic Institute yn Lerpwl ac yn un o Ymddiriedolwyr The Conversation UK.

Roedd hyn yn dilyn cyfnod o ddeng mlynedd fel Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Sgiliau yng Nghyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE), lle bu’n cydweithio â chyrff cyllido Addysg Uwch eraill y Deyrnas Unedig i oruchwylio ymarfer cyntaf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF). Cyn hynny bu’n Is-Bennaeth (Ymchwil) yn y Royal Holloway, Prifysgol Llundain.

Mae David yn gymrawd gyda’r Gymdeithas Ystadegol Frenhinol. Mae ganddo Ddoethuriaethau er anrhydedd o Brifysgolion Aberdeen a Keele, a dyfarnwyd CBE iddo yn 2022.

Mae David yn chwaraewr gwyddbwyll brwd, ac yn dal tocyn tymor Maidenhead United ers blynyddoedd lawer. Nid yw treulio ei fywyd ar y trên yn uchelgais ganddo, ond mae’n teimlo felly ar adegau!