This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cerys Furlong

Aelod y Bwrdd

Cerys Furlong yw Prif Weithredwr GroupEd, cwmni meddalwedd sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd sy’n darparu meddalwedd i ysgolion.

Ymunodd Cerys â GroupEd yn 2022 o Chwarae Teg, lle bu’n Brif Weithredwr o 2017-2022. Asiantaeth datblygu economaidd ar gyfer menywod oedd Chwarae Teg, ac elusen a oedd yn ymgyrchu dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Mae gan Cerys brofiad o bob rhan o’r sector addysg, ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Cymru yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith, yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth Allanol y Brifysgol Agored yng Nghymru ac yn llywodraethwr ysgol ers 2007.

Yn 2018 penodwyd Cerys i Fwrdd Datblygu Economaidd Dinas-ranbarth Caerdydd, sy’n goruchwylio’r cynigion a gyflwynwyd i’r ddinas-ranbarth ac yn cynghori’r cyd-Gabinet. Cyn hynny roedd Cerys yn aelod o Fwrdd Canolfan Gelfyddydau Chapter ac yn Is-Gadeirydd Sefydliad Bevan. Cafodd Cerys hefyd ei phenodi’n flaenorol gan Lywodraeth Cymru i wasanaethu ar y Bwrdd Menywod mewn STEM, y Bwrdd Cryfhau Cydraddoldeb a Hyrwyddo Hawliau Dynol, y Gweithgor Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol a’r Panel Arwain Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae Cerys yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr Tom, a dwy ferch ifanc.