This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Medr/2024/08: Cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) 2024/25

Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru

1. Mae datblygu a chynaliadwyedd diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil iach mewn prifysgolion yn ganolog i gefnogi ymchwil ragorol. Mae cyrff cyllido ymchwil yn y DU yn cefnogi diwylliannau cadarnhaol trwy ystod eang o weithgareddau meithrin capasiti a gwella, ochr yn ochr â pheilota asesiad o Bobl, Diwylliant a’r Amgylchedd o fewn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029.

2. Rydym yn uchelgeisiol ar gyfer ein sector ymchwil yng Nghymru. Mae arnom eisiau i Gymru fod yn adnabyddus fel lle gwych i gynnal ymchwil a honno’n ymchwil sydd, trwy gydweithio, yn sicrhau manteision cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.

3. Ni allwn wneud hyn heb gefnogi’r gweithlu amrywiol sy’n cyfrannu at ymchwil. Mae arnom eisiau hybu amgylcheddau ymchwil sy’n cefnogi uniondeb, amrywiaeth, cynwysoldeb, llesiant a pharch, gan ddenu a chadw pobl ddawnus o Gymru, y DU a phob rhan o’r byd.

4. Yn 2023 fe gychwynnodd CCAUC Gronfa WREC gan gydnabod yr angen i wella gweithgareddau diwylliant ymchwil a oedd eisoes ar y gweill mewn prifysgolion, a oedd yn cael eu cefnogi â dyraniadau cyllid QR. Mae Medr wedi adolygu ffurflenni monitro WREC a gafwyd gan brifysgolion ym mis Gorffennaf 2024 sy’n dynodi bod y gronfa wedi cael ei gwerthfawrogi ac wedi cyfrannu at weithgareddau newydd neu well. Rydym yn cynnig parhau i gefnogi’r cyllid tan 2027/28 yn amodol ar gyllidebau yn y dyfodol.

5. Bydd y cyllid hwn yn rhoi cymorth pwrpasol i wella diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil. Fodd bynnag, mae Medr yn disgwyl y dylai diwylliant iach gael ei drin fel rhan annatod o weithgarwch ymchwil ac arloesi a chael ei gefnogi’n strategol trwy gyllid ymchwil ac arloesi craidd hefyd.

6. Dyrennir cyllid o £200,000 i brifysgolion Cymru i gefnogi prosiectau, rhaglenni a gweithgareddau sy’n cyfrannu’n weithredol at gefnogi neu ddatblygu diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil cadarnhaol ac iach.

7. Mae Medr yn disgwyl i’r cyllid ddangos cynnydd a gwelliant mewn gweithgarwch sy’n gysylltiedig â diwylliant ymchwil. Gellid defnyddio’r cyllid hwn i estyn prosiectau presennol, a hefyd ar gyfer gweithgareddau a seilwaith newydd.

8. Ar gyfer yr ail flwyddyn hon o gyllid, byddem yn annog sefydliadau i ystyried sut y byddant yn mesur ac yn gwerthuso effeithiau eu gweithgareddau diwylliant ymchwil. Y rheswm dros hyn yw er mwyn sicrhau bod y gweithgareddau’n gwneud newidiadau pendant i ddiwylliant ymchwil neu’n esgor ar wersi ynglŷn â’r hyn sy’n gweithio. Rydym yn cydnabod ei bod yn bosibl bod y gweithgareddau gwella hyn yn dal yn y cyfnod cynnar o ran eu datblygiad; felly, yn y flwyddyn academaidd hon mae gennym ddiddordeb mewn sut y mae sefydliadau’n rhoi gweithgareddau gwerthuso cyfnod cynnar ar waith.

9. Wrth benderfynu sut i ddefnyddio dyraniadau, dylai sefydliadau gyfeirio at y tair thema a amlinellir yn y tabl isod. Mae’r rhain yn seiliedig ar themâu a ddatblygwyd trwy ymgysylltu â sectorau ymchwil Cymru a’r DU. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac anogir sefydliadau i ddefnyddio’r cyllid yn hyblyg gan roi cyfrif am eu blaenoriaethau strategol, ac egwyddorion ehangach sy’n ymwneud â gwella diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil.

ThemâuIs-feysydd a allai gyd-fynd â hynny
Creu Diwylliant/ Diwylliannau Ymchwil Cadarnhaol* Gwobrwyo a chydnabod ymddygiadau cadarnhaol
* Nodi sut y mae diwylliant ymchwil cadarnhaol yn edrych gan gynnwys llesiant
* Gwerthfawrogi gweithgarwch ymchwil amrywiol
* Datblygu gyrfa ymchwilwyr a phroffesiynau cysylltiedig
* Datblygu fframweithiau diwylliant ymchwil
* Gwella seilwaith a chapasiti i roi cymorth i ennill mwy o grantiau ymchwil
* Mynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu
* Colegoldeb a pherthyn
* Gwerthfawrogi’r ystod lawn o brofiadau, sgiliau a chyfraniadau gan bawb sy’n cyfrannu at ymchwil
Ymgorffori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)* Deall ac ymdrin â rhwystrau i gynhwysiant ar gyfer ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y cyflenwad o dalent ymchwil gyda golwg ar sicrhau bod yr amgylchedd ymchwil yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn deg i bawb
* Cydnabod cyfraniadau gan yr holl staff
* Gwella mynediad at ymchwil, a chyfranogiad ynddi, gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
Ymchwil Gyfrifol* Uniondeb, bod yn agored a moeseg
* Gwella ymddygiad ac atgynyrchioldeb ymchwil
* Asesu a diwygio ymchwil
* Cydweithio a chynnull sefydliadau i rannu arfer
* Atgynyrchioldeb metrigau

10. Mae Medr yn disgwyl i gyllid WREC gael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â rhwystrau i gynhwysiant grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y cyflenwad o dalent ymchwil ac i ddatblygu amgylchedd ymchwil cefnogol a chynhwysol, sy’n gwerthfawrogi cyfraniad staff academaidd, staff sy’n galluogi ymchwil ac yn rhoi cymorth, a staff gwasanaethau proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith eraill, technegwyr, archifwyr, a pheirianwyr meddalwedd.

11. Mae Medr yn rhoi anogaeth i ddefnyddio’r Gymraeg mewn ymchwil i fynd ati’n llawn i feithrin amgylchedd cyfoethog a chynhwysol sy’n adlewyrchu treftadaeth ddiwylliannol Cymru, gan gyfoethogi’r gymuned ymchwil.

Rhannu gwersi ac arferion da

12. Mae Medr yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio ar draws y sector i ddatblygu diwylliannau ymchwil cadarnhaol a rôl sefydliadau fel Rhwydwaith Arloesi Cymru (WIN), Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a Prifysgolion Cymru. Rydym wedi darparu £50,000 ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2024-25 i WIN i roi cymorth i rannu arferion da ar draws sefydliadau addysgol yng Nghymru. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru i barhau i gynorthwyo cymunedau amrywiol i weithredu newid. Anogir prifysgolion cymwys yn gryf i gydweithio ac adeiladu ar weithgareddau presennol sy’n cefnogi diwylliannau ymchwil cadarnhaol er enghraifft: Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr – Cymdeithasddysgedidg. Rydym yn croesawu syniadau ac adborth ar gyfleoedd pellach i gefnogi dysgu ar y cyd a chydweithio.

Dyraniadau Sefydliadol

13. Mae’r dull a ddefnyddir i ddyrannu cyllid ar gyfer 2024/25 yn seiliedig ar ddata staff a myfyrwyr HESA 2022/23:
* Nifer y cyflogeion CagALl ar gontractau ymchwil-yn-unig yn y sefydliad addysg uwch
* Nifer y cyflogeion CagALl ar gontractau addysgu ac ymchwil yn y sefydliad addysg uwch
* Nifer y myfyrwyr ymchwil ôl-radd yn y sefydliad addysg uwch

14. Mae isafswm o £5k wedi cael ei gynnwys i sicrhau bod yr holl brifysgolion yn cael dyraniad y gellir ei ddefnyddio i wella eu diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil. Mae data HESA a ddefnyddiwyd wedi cael ei ddilysu gan brifysgolion.

SefydliadCagALl Contractau YmchwilCagALl Contractau Addysgu ac YmchwilCagALl Myfyrwyr PGRCyfanswmDyraniad
Prifysgol De Cymru707162261012£20,042
Prifysgol Aberystwyth1182872571012£13,120
Prifysgol Bangor2242616101095£21,683
Prifysgol Caerdydd909131216043825£75,722
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant38343448830£16,442
Prifysgol Abertawe4385496761663£32,994
Prifysgol Metropolitan Caerdydd27559171757£14,996
Prifysgol Wrecsam318449236£5,000
Cyfanswm1,8274,2134,04110,080£200,000

15. Defnyddiwyd y dull hwn gan CCAUC ar gyfer dyraniadau yn 2023/24 ac fe’i cefnogwyd yn fras gan sefydliadau yn yr ymgynghoriad ym mis Rhagfyr 2023. Mae Medr yn nodi nad yw’r fethodoleg ar gyfer dyrannu cyllid WREC yn cynnwys staff sy’n cefnogi ymchwil, megis rhai o’r gymuned dechnegol, a staff gwasanaethau proffesiynol, yn benodol. Mae Medr yn cydnabod cyfraniadau hollbwysig yr aelodau hyn o staff i ddiwylliannau ymchwil a’r amgylchedd ymchwil.

Trefniadau Monitro Cronfa WREC

16. Bydd dyraniadau sefydliadol ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2024/25 yn cael eu gwneud ym mis Tachwedd 2024. Mae Medr yn disgwyl sicrwydd ynghylch y prosiectau a’r gweithgareddau a gyflawnir trwy’r gronfa hon. Dylai dyraniadau gael eu gwario’n llawn ym Mlwyddyn Academaidd 2024/25.

17. Dylai sefydliadau gwblhau’r ffurflen fonitro ar gyfer cyllid WREC yn Atodiad A erbyn 26 Medi 2025:
* Rhan 1 – Cyd-destun Strategol: dylai hyn ddynodi cyd-destun strategol diwylliant ymchwil yn eich sefydliad.
* Rhan 2 – Meysydd Thematig: dylai hyn ddynodi sut y mae’r gweithgareddau/prosiectau’n
cyd-fynd â’r meysydd thematig yn yr adran Cyllid Wrec sefydliadol o’r cyhoeddiad hwn, a pha un: 1 a fyddai gweithgareddau wedi digwydd heb y cyllid, 2. a ddigwyddodd gweithgareddau trwy ddarparu cyllid WREC yn unig, neu 3. a allai gweithgareddau fod wedi digwydd heb y cyllid, ond i raddau llai helaeth.
* Rhan 3 – Gwerthusiad: dylai hyn egluro sut yr ydych yn bwriadu mesur effeithiolrwydd y prosiectau/gweithgareddau.
* Rhan 4– Cadarnhad: cadarnhewch fod y cyllid WREC wedi cael ei wario yn unol â’r wybodaeth a amlinellir yn y cyhoeddiad hwn.

18. Bydd gwybodaeth a gyflwynir gan sefydliadau yn eu hadroddiadau’n sail i dystiolaeth i ategu penderfyniadau ynghylch cyllidebau a chymorth ar gyfer diwylliant ymchwil a’r amgylchedd ymchwil ledled Cymru yn y dyfodol.

Rhagor o Wybodaeth

19. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Hayley Moss [email protected].

Asesiad Effaith

20. Rydym wedi cynnal asesiad effaith i helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hybu cydraddoldeb. Rydym yn rhagweld effaith gadarnhaol ar hil, rhyw, anabledd, oedran, crefydd a chred. Fe wnaethom hefyd ystyried effaith y polisi hwn ar y Gymraeg, darpariaeth Gymraeg o fewn y sector AU yng Nghymru, nodweddion economaidd-gymdeithasol ac effeithiau posibl tuag at y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

21. Rydym yn croesawu cyflwyno adroddiadau monitro yn Gymraeg.

Medr/2024/08: Cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) 2024/25

Dyddiad: 20 Tachwedd 2024

Cyfeirnod: Medr/2024/08

At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru

Ymateb erbyn: 26 Medi 2025

Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu manylion dyraniadau sefydliadol cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2024/25.

Cychwynnwyd y gronfa gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ym Mlwyddyn Academaidd 2023/24 i gefnogi gweithgareddau newydd a phresennol sy’n gwella diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil cadarnhaol.

Bydd cyllid WREC yn cael ei ddyrannu i brifysgolion Cymru sy’n cael cyllid Ymchwil o Ansawdd (QR) (fel a nodir yn W24/13HE: Dyraniadau Cyllid CCAUC ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2024/25). Disgwylir i’r cyllid barhau tan 2027/28, yn amodol ar gyllidebau yn y dyfodol. Bydd dyraniadau Blwyddyn Academaidd 2024/25 yn seiliedig ar ddata o gofnod staff a myfyrwyr HESA 22/23.

Medr/2024/08 Cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) 2024/25

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio