Deio Owen
Deio Owen
Aelod cyswllt o’r Bwrdd, cynrychiolydd dysgwyr addysg drydyddol
Daw Deio Owen yn wreiddiol o Bwllheli, Pen Llŷn, ble roedd yn Lywydd Undeb Myfyrwyr yng Ngrŵp Llandrillo Menai tra’n astudio ei lefelau A.
Mynychodd Brifysgol Caerdydd gan astudio BA Cymraeg a Gwleidyddiaeth cyn mynd yn ei flaen i for yr Is Lywydd Iaith, Diwylliant a Chymuned Cymru llawn amser cyntaf Undeb Myfyrwyr y Brifysgol. Ef bellach yw Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru wedi iddo gael ei ethol fis Mawrth 2024 gan gychwyn yn y rôl fis Gorffennaf 2024. Mae’n siaradwr Cymraeg rhugl ac yn edrych ymlaen i fanteisio ar ei brofiad mewn addysg Uwch a Phellach er mwyn gwella bywydau Myfyrwyr ar draws Cymru.