Cyhoeddiadau
Sta/Medr/05/2025: Mesur Cyfranogiad Cychwynnol mewn Addysg Uwch Cymru: 2016/17 i 2022/23
27 Feb 2025
Cyflwyniad
1. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno amcangyfrif o gyfranogiad cychwynnol mewn addysg uwch (AU) ar gyfer y boblogaeth 17 i 30 oed yng Nghymru ar gyfer y blynyddoedd academaidd rhwng 2016/17 a 2022/23.
2. Amcangyfrif yw’r mesur Cyfranogiad Cychwynnol mewn Addysg Uwch (HEIP) o’r tebygolrwydd y bydd person sy’n hanu o Gymru’n cyfranogi mewn AU erbyn y bydd yn 30 oed. Mae’r dadansoddiad hefyd yn bwrw golwg ar y gwahaniaeth yn y mesur HEIP rhwng gwrywod a benywod. Ceir esboniad llawn o’r fethodoleg a’r ffynonellau data yn yr adran ar fethodoleg.
3. Ystadegau Swyddogol sydd Wrthi’n Cael Eu Datblygu yw’r ystadegau yn y cyhoeddiad hwn gan ein bod wrthi’n datblygu’r mesur hwn ac yn cydnabod bod cyfyngiadau i’r fethodoleg a ddefnyddir. Trwy gyhoeddi’r wybodaeth hon fel Ystadegau Swyddogol sydd Wrthi’n Cael Eu Datblygu gall defnyddwyr fod yn rhan o ddatblygu’r ystadegau hyn a chyfrannu at eu gwneud mor ddefnyddiol a pherthnasol â phosibl.
4. Byddem yn croesawu unrhyw adborth ar gynnwys y cyhoeddiad hwn pa un a yw’n ymwneud â’r fethodoleg ynteu â pha wybodaeth allai gael ei chynnwys i’w wneud hwn ddefnyddiol i chi. I ddarparu adborth anfonwch neges e-bost atom yn [email protected].
Pam ein bod yn cyhoeddi’r ystadegau hyn
5. Un o ddyletswyddau strategol Medr fel a nodir yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yw “annog unigolion sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, yn benodol y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, i gymryd rhan mewn addysg drydyddol”. Y bwriad wrth gyhoeddi’r mesur hwn yw darparu peth tystiolaeth ynglŷn â chyfranogiad mewn AU, gan fwydo i mewn i’r wybodaeth ar y cyfan ar gyfer cyfranogiad yn y sector addysg drydyddol ehangach.
6. Un arall o ddyletswyddau strategol Medr yw “hybu cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn addysg drydyddol Gymreig”. Yn ogystal â mesur HEIP cyffredinol ar gyfer Cymru, mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn cynnwys rhaniad yn ôl rhyw i gymharu cyfranogiad cychwynnol mewn AU ymhlith gwrywod a benywod. Er mai hon yw’r unig nodwedd bersonol sydd wedi cael ei chynnwys yma, rhan o ddatblygu’r mesur hwn fydd ymchwilio i weld a allai nodweddion eraill gael eu cynnwys i ddarparu mwy o fewnwelediad i’r gwahaniaethau mewn cyfranogiad mewn AU gan wahanol grwpiau o boblogaeth Cymru.
7. Mae cyfranogiad mewn addysg drydyddol wedi bod yn faes y rhoddir ffocws cynyddol arno yn yr amgylchedd polisi ehangach yng Nghymru. Yn 2022, rhoddodd Llywodraeth Cymru gomisiwn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynnal adolygiad o dystiolaeth ac arfer gorau ar annhegwch mewn addysg drydyddol yng Nghymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad dilynol ym mis Hydref 2024. Ym mis Tachwedd 2024, fe gychwynnodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ymchwiliad i lwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16 gyda ffocws penodol ar gyfranogiad. Mae’r ymchwiliad wrthi’n mynd rhagddo
8. Ni chyhoeddwyd mesur o gyfranogiad cychwynnol mewn AU ar gyfer Cymru ers 2016 pan gyhoeddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ystadegau ar gyfer blwyddyn academaidd 2012/13. Yn ystod y cyfnod hwn fe ddaliwyd i gynhyrchu mesurau cyfranogiad ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gan olygu bod bwlch yn y dystiolaeth ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau methodolegol yn cyfyngu ar y gallu i gymharu’r gwahanol fesurau ledled y DU. Mae gwybodaeth am yr hyn a gyhoeddir yng ngweddill y DU wedi ei chynnwys mewn adran ddiweddarach.
Methodoleg
9. Y mesur HEIP yw swm y cyfraddau cyfranogiad cychwynnol ar gyfer pob oedran o 17 i 30 gan gynnwys yr oedrannau hynny. Y cyfraddau cyfranogiad cychwynnol yw’r gyfran o bob grŵp oedran sy’n cyfranogi mewn AU am y tro cyntaf ac i gyfrifo hyn mae angen dau ddarn o wybodaeth arnom. Y darn cyntaf o wybodaeth yw nifer y myfyrwyr o bob oedran sy’n cyfranogi mewn AU am y tro cyntaf a’r ail yw’r holl boblogaeth o’r oedran hwnnw yng Nghymru.
Cam 1: Amcangyfrif nifer y myfyrwyr sy’n cyfranogi’n gychwynnol mewn AU
10. Rydym yn defnyddio tair ffynhonnell ddata i amcangyfrif nifer y myfyrwyr o bob oedran sy’n cyfranogi mewn AU am y tro cyntaf. Y ffynonellau hyn yw Cofnod Myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), cofnod Amgen Myfyrwyr HESA (ar gyfer y blynyddoedd rhwng 2014/15 a 2021/22) a Chofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) o 2016/17 ymlaen a gesglir gan Lywodraeth Cymru.
11. Ar gyfer cofnodion HESA rydym wedi cysylltu data rhwng 2004/05 a 2022/23 i adnabod pan fo person yn ymddangos nifer o weithiau yn y data. Darperir manylion y cysylltu hwn yn Atodiad A. Gyda’r cofnodion wedi eu cysylltu rydym yn dod o hyd i’r cofnod cynharaf ar gyfer myfyriwr lle gwnaethant astudio, neu lle’r oedd disgwyl iddynt barhau i astudio, am o leiaf 6 mis i sicrhau bod ganddynt ymgysylltiad sylweddol ag AU. Rydym hefyd yn gwirio a ydynt wedi ennill cymhwyster ar lefel AU yn flaenorol ac yn hepgor y rheiny sydd wedi gwneud, gan y byddant wedi cyfranogi mewn AU yn flaenorol.
12. Ar gyfer y data LLWR, rydym yn adnabod y flwyddyn academaidd gyntaf lle mae gan fyfyriwr naill ai rhaglen dysgu neu weithgaredd dysgu sydd ar lefel sy’n gyfwerth â Lefel 4 neu uwch yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCaChC). Fel gyda data HESA rydym yn ei gwneud yn ofynnol bod y rhaglen berthnasol neu’r gweithgaredd perthnasol yn para, neu fod disgwyl iddi/iddo bara, o leiaf 6 mis. Mae myfyrwyr a oedd â chymhwyster ar lefel AU ar adeg mynediad yn cael eu hepgor eto.
13. Caiff cyfranogiad cychwynnol myfyrwyr ei adnabod ar wahân ar gyfer data HESA a LLWR felly mae nifer y cyfranogwyr cychwynnol yn y naill a’r llall yn cael eu cyfuno i roi cyfanswm y cyfranogwyr cychwynnol ym mhob blwyddyn academaidd. Caiff y cyfranogwyr cychwynnol eu rhannu yn ôl eu hoedran ar 31 Awst ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, e.e. ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 cyfrifir oedrannau’r myfyrwyr fel yr oedd ar 31 Awst 2022.
Cam 2: Amcangyfrif yr holl boblogaeth
14. Defnyddir dwy ffynhonnell ddata i amcangyfrif poblogaeth Cymru, sef yr amcangyfrif poblogaeth y tu allan i’r tymor yng Nghyfrifiad 2021 a’r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer Cymru rhwng 2016 a 2022, sydd ill dwy’n cael eu cynhyrchu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
15. Y sail ar gyfer yr amcangyfrif o’r boblogaeth yw’r amcangyfrifon poblogaeth y tu allan i’r tymor yng Nghyfrifiad 2021. Cynhyrchir y boblogaeth y tu allan i’r tymor gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fel rhan o’i hallbynnau o’r cyfrifiad, a’r boblogaeth breswyl arferol ydyw ond gyda phlant ysgol a myfyrwyr amser llawn wedi eu cyfrif yn eu cyfeiriad y tu allan i’r tymor. Mae’r boblogaeth hon wedi cael ei defnyddio fel y sail yn hytrach na defnyddio’r amcangyfrifon canol blwyddyn yn uniongyrchol am bod arnom eisiau cyfrif myfyrwyr yn y lle y maent yn byw fel arfer yn hytrach na’r lle y maent yn astudio.
16. Mae’r boblogaeth y tu allan i’r tymor yn seiliedig ar ddiwrnod Cyfrifiad 2021, sef 21 Mawrth 2021, felly fe wneir addasiad i heneiddio’r boblogaeth i 31 Awst 2021 i gyd-fynd â‘r dyddiad a ddefnyddiwyd yn y data myfyrwyr. Er enghraifft, amcangyfrifir bod nifer y rhai 18 oed yn gyfran o’r bobl 17 oed sydd wedi troi’n 18 oed ers 21 Mawrth a chyfran y bobl 18 oed nad ydynt wedi troi’n 19 oed eto ers 21 Mawrth.
17. Gwneir addasiad tebyg i’r amcangyfrifon canol blwyddyn i heneiddio’r poblogaethau hyn o 30 Mehefin, dyddiad yr amcangyfrifon canol blwyddyn, i 31 Awst. Wedyn rydym yn cyfrifo’r newid canrannol rhwng pob amcangyfrif canol blwyddyn addasedig ac amcangyfrif canol blwyddyn addasedig 2021 ar gyfer pob oedran. Cymhwysir y newidiadau canrannol hyn i’r boblogaeth y tu allan i’r tymor addasedig i gynhyrchu amcangyfrif poblogaeth y tu allan i’r tymor fel yr oedd ar 31 Awst ar gyfer pob blwyddyn.
Cam 3: Cyfrifo’r cyfraddau cyfranogiad cychwynnol a’r mesur HEIP
18. Ar gyfer pob oedran rhwng 17 a 30 oed rydym yn cyfrifo’r gyfradd cyfranogiad cychwynnol ar gyfer yr oedran hwnnw trwy rannu nifer y cyfranogwyr cychwynnol o’r oedran hwnnw o gam 1 â’r boblogaeth a amcangyfrifir o’r oedran hwnnw o gam 2.
19. Cyfrifir y mesur HEIP trwy symio’r cyfraddau cyfranogiad cychwynnol ar gyfer pob oedran. Y syniad y tu ôl i hyn yw bod pob cyfradd cyfranogiad unigol yn cynrychioli’r tebygolrwydd y bydd rhywun o’r oedran hwnnw’n cyfranogi mewn AU am y tro cyntaf a thrwy symio’r rhain rydych yn adeiladu’r tebygolrwydd y bydd rhywun yn cyfranogi mewn AU rhwng 17 a 30 oed os yw’r tebygolrwyddau hyn yn aros yr un fath.
20. Er mwyn eglurder, nid yw’r mesur HEIP yr un fath â rhannu cyfanswm y cyfranogwyr cychwynnol 17 i 30 oed mewn blwyddyn academaidd â holl boblogaeth Cymru o’r oedrannau hynny. Byddai hyn yn cynhyrchu ffigwr is o lawer a byddai’n tybio bod rhywun yr un mor debygol o fod yn gyfranogwr cychwynnol mewn AU mewn unrhyw oedran, nad yw’n wir.
Cyfyngiadau
21. Mae nifer o gyfyngiadau i’w nodi mewn perthynas â’r cyfrifiad o’r mesur HEIP a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn.
a.) Nid yw cyfranogiad cychwynnol mewn AU trwy astudiaethau nas cesglir yng nghofnodion HESA na LLWR yn cael eu cynnwys yn y mesur hwn. Byddai hyn yn cynnwys unrhyw fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru sy’n astudio ar lefel AU mewn colegau addysg bellach yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, rhai sefydliadau AU annibynnol yn y DU neu mewn darparwyr addysg uwch y tu allan i’r DU.
Pe bai rhywun wedi ennill cymhwyster ar lefel AU trwy’r llwybrau uchod yna ni fyddai unrhyw astudiaethau AU pellach a gofnodwyd yn nata HESA neu LLWR yn cael eu cynnwys yn y mesur ychwaith gan y byddent yn cael eu hepgor o ganlyniad i fod yn meddu ar gymhwyster ar lefel AU ar adeg mynediad.
Gallai’r mater hwn gael ei leihau trwy gael ffynonellau data ychwanegol sy’n cwmpasu’r opsiynau eraill hyn ar gyfer astudiaethau ar lefel AU.
b.) Gan nad yw data HESA a data LLWR yn cael eu cysylltu â’i gilydd, byddai’n bosibl i rywun ymddangos fel cyfranogwr cychwynnol yn y ddau pe baent wedi cyfranogi ond heb ennill cymhwyster ar lefel AU. Er enghraifft, gallai rhywun ymddangos yn nata HESA ond ymadael cyn pryd ar ôl blwyddyn heb ennill unrhyw gymwysterau. Gallent ymddangos yn nata LLWR wedyn a dal i gael eu hystyried yn gyfranogwr cychwynnol. Byddai’r mater hwn yn cael ei leihau trwy gysylltu’r setiau data cyn chwilio am gyfranogwyr cychwynnol.
c.) Mae’r mesur yn tybio y bydd y cyfraddau cyfranogiad cychwynnol ar gyfer pob oedran yn parhau; fodd bynnag, nid yw’n rhoi cyfrif am wahaniaethau mewn cyfranogiad rhwng carfannau. Er enghraifft, gallai lefelau cyfranogiad y carfannau o bobl 18 oed yn 2022/23 pan fyddant yn cyrraedd 30 oed fod yn wahanol i rai’r bobl sy’n 30 yn 2022/23 am amrywiaeth o resymau gan gynnwys newidiadau polisi a’r dirwedd economaidd ehangach.
d.) Er bod yr amcangyfrifon poblogaeth a ddefnyddir ar gyfer yr holl boblogaethau i gyd yn ystadegau swyddogol achrededig, fe wnaed nifer o dybiaethau i addasu’r rhain i ateb dibenion y mesur hwn.
Mae’r addasiad cyntaf yn un i heneiddio’r amcangyfrifon i 31 Awst fel bod yr oedran yn debyg i’r oedran a ddefnyddir o’r data myfyrwyr a bod yr oedran yn berthnasol i’r blynyddoedd academaidd. Fodd bynnag, mae’r addasiad hwn yn defnyddio’r dybiaeth bod dyddiadau geni wedi eu dosbarthu’n gyfartal, nad yw’n wir.
Mae’r ail addasiad yn un i ‘dyfu’r’ boblogaeth y tu allan i’r tymor addasedig i greu cyfres amser sy’n seiliedig ar y newidiadau canrannol a welir yn yr amcangyfrifon canol blwyddyn addasedig. Mae hyn yn tybio bod y boblogaeth canol blwyddyn a’r boblogaeth y tu allan i’r tymor yn newid yn ôl yr un gyfradd.
e.) Nid yw’r gwledydd y mae myfyrwyr yn hanu ohonynt yn aros yr un fath. Mae hyn yn golygu nad ydym yn dilyn grŵp penodol o bobl ac yn amcangyfrif faint ohonynt sy’n cyfranogi mewn AU. Yn lle hynny mae’r boblogaeth a gaiff ei hystyried wastad yn newid ac effeithir ar y boblogaeth gan fudo i mewn ac allan.
Er enghraifft, gallai rhywun fyw yng Nghymru nes eu bod yn 24 cyn symud i Loegr, a phe bai’r person yma wedyn yn cyfranogi mewn AU am y tro cyntaf pan fo’n 25 ni fyddai’n cael ei gynnwys yn y cyfrifiad gan y byddai’n hanu o Loegr ar yr adeg honno. I’r gwrthwyneb, byddai rhywun a fu’n byw yn Lloegr cyn symud i Gymru a chyfranogi mewn AU am y tro cyntaf wedyn yn cael ei gynnwys.
f.) Gan nad yw’r fethodoleg hon yn dilyn carfannau penodol o bobl, mae’n anodd cynhyrchu ffigyrau dibynadwy ar nodweddion manylach. Mae hyn yn arbennig o anodd os yw nodweddion yn newid dros amser, er enghraifft pa un a yw rhywun yn byw mewn ardal fwy amddifadus, neu os yw’n anodd cael amcangyfrifon poblogaeth cywir.
g.) Yn niffyg dynodwr cyffredinol i gysylltu cofnodion, defnyddir algorithmau i gysylltu cofnodion myfyrwyr HESA a bydd hyn yn golygu y gwneir rhai cysylltiadau anghywir, neu y gallai cysylltiadau go iawn gael eu colli. Yn achos gwneud cysylltiadau anghywir, yna gallai cyfranogiad cychwynnol unigolyn gael eu ddiystyru gan y byddwn yn credu eu bod wedi cyfranogi mewn AU yn flaenorol. Yn achos colli cysylltiad go iawn yna gallai unigolyn gael ei gyfrif fel cyfranogwr cychwynnol ddwywaith, er y dylai hyn gael ei leihau i’r eithaf trwy hepgor y rhai â chymhwyster blaenorol ar lefel AU a gofnodwyd yn y data.
Gall y cysylltiadau anghywir hyn a wneir neu’r cysylltiadau cywir hyn a gollir ddigwydd oherwydd materion ansawdd data, megis cofnodi gwybodaeth anghywir neu gyfnewid digidau mewn dyddiadau geni. Gallant hefyd ddigwydd pan fo data rhywun yn gywir ond yn amrywio dros amser, er enghraifft defnyddio amrywiadau gwahanol ar eu henw neu os yw rhywun yn newid ei enw.
Canlyniadau
22. Y mesur HEIP yw swm y cyfraddau cyfranogiad cychwynnol ar gyfer pob oedran o 17 i 30 oed mewn blwyddyn academaidd benodol. Nid canran y bobl 17 i 30 oed sy’n cyfranogi mewn AU yn y flwyddyn benodol honno yw’r mesur HEIP. Yn hytrach, amcangyfrif o’r tebygolrwydd y bydd person sy’n hanu o Gymru’n cyfranogi mewn AU erbyn eu bod yn 30 yn seiliedig ar y cyfraddau cyfranogiad cychwynnol yn y flwyddyn honno yw’r mesur HEIP.

23. Roedd y mesur HEIP yn 2022/23 yn 54.6%. Golyga hyn fod y tebygolrwydd amcangyfrifedig y byddai person sy’n hanu o Gymru’n cyfranogi mewn AU erbyn eu bod yn cyrraedd 30 oed yn 54.6% yn seiliedig ar y cyfraddau cyfranogiad cychwynnol ar gyfer pob oedran o 17 i 30 yn 2022/23.
24. Ar ôl gostyngiad rhwng 2016/17 a 2017/18, fe gynyddodd y mesur HEIP bob blwyddyn rhwng 2017/18 a 2020/21 gan gyrraedd uchafbwynt o 58.9%. O’r brig hwn yn 2020/21 bu gostyngiad yn y ddwy flynedd ganlynol i lawr i’r ffigwr o 54.6% yn 2022/23. Bydd pandemig Covid-19 wedi bod yn ffactor ar y lefelau cyfranogiad yn y blynyddoedd mwyaf diweddar.
Yn Ôl Oedran
Tabl 1: Canrannau mynediad cychwynnol yn ôl oedran – 2016/17 i 2022/23
Oedran | 2016/17 | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 |
---|---|---|---|---|---|---|---|
17 | 0.8% | 0.4% | 0.5% | 0.6% | 0.3% | 0.2% | 0.2% |
18 | 27.5% | 27.4% | 27.0% | 28.1% | 28.4% | 29.5% | 29.6% |
19 | 10.4% | 10.1% | 10.3% | 10.7% | 11.0% | 10.2% | 9.4% |
20 | 3.4% | 3.5% | 3.5% | 3.5% | 3.8% | 3.4% | 3.3% |
21 | 1.9% | 1.9% | 2.2% | 2.1% | 2.4% | 2.2% | 1.8% |
22 | 1.4% | 1.5% | 1.6% | 1.6% | 2.0% | 1.7% | 1.6% |
23 | 1.2% | 1.1% | 1.3% | 1.5% | 1.7% | 1.5% | 1.3% |
24 | 1.2% | 1.2% | 1.3% | 1.4% | 1.6% | 1.3% | 1.2% |
25 | 1.1% | 1.1% | 1.2% | 1.3% | 1.5% | 1.3% | 1.1% |
26 | 1.0% | 1.0% | 1.2% | 1.3% | 1.4% | 1.2% | 1.0% |
27 | 1.0% | 1.0% | 1.1% | 1.3% | 1.3% | 1.2% | 1.2% |
28 | 1.0% | 0.9% | 1.1% | 1.1% | 1.3% | 1.1% | 1.0% |
29 | 1.1% | 0.9% | 0.9% | 1.1% | 1.2% | 1.1% | 0.9% |
30 | 0.9% | 0.8% | 1.0% | 1.1% | 1.2% | 1.0% | 1.0% |
Mesur HEIP | 53.9% | 52.8% | 54.2% | 56.6% | 58.9% | 56.8% | 54.6% |
25. Daw’r cyfraniad mwyaf at y mesur HEIP gan bobl 18 ac 19 oed. Yn 2022/23 mae’r cyfraddau cyfranogiad cychwynnol ar gyfer y ddau oedran hyn yn cyfrannu 38.9 pwynt canran at y mesur HEIP ar y cyfan o 54.6%.
26. Mae cyfradd cyfranogiad cychwynnol pobl 18 oed wedi cynyddu ym mhob blwyddyn ers 2018/19.
27. Ar gyfer oedrannau eraill fe gynyddodd y cyfraddau cyfranogiad cychwynnol yn gyffredinol rhwng 2017/18 a 2020/21, cyn gostwng yn y ddwy flynedd ganlynol.
Yn Ôl Rhyw

28. Fel gyda’r mesur HEIP cyffredinol, fe ostyngodd y mesur HEIP ar gyfer gwrywod a benywod rhwng 2016/17 a 2017/18 cyn cynyddu bob blwyddyn tan 2020/21. Wedyn bu gostyngiad yn y naill a’r llall o’r ddwy flynedd ganlynol.
29. Mae’r mesur HEIP yn sylweddol uwch ar gyfer benywod na gwrywod, gyda’r bwlch yn cynyddu ar draws y cyfnod. Yn 2016/17 roedd gwahaniaeth o 16.5 pwynt canran o’i gymharu â gwahaniaeth o 21.6 pwynt canran yn 2022/23.
30. Cyrhaeddodd y mesur HEIP ar gyfer benywod frig o 69.8% yn 2020/21 o’i gymharu â 48.3% ar gyfer gwrywod yn yr un flwyddyn. Ers hynny mae’r HEIP wedi gostwng i 65.3% a 43.7% ar gyfer benywod a gwrywod yn y drefn honno yn 2022/23.
Yn Ôl Oedran a Rhyw
Tabl 2: Canrannau mynediad cychwynnol yn ôl oedran a rhyw – 2021/22 a 2022/23
Oedran | Benywod 2021/22 | Benywod 2022/23 | Gwrywod 2021/22 | Gwrywod 2022/23 |
---|---|---|---|---|
17 | 0.2% | 0.3% | 0.1% | 0.2% |
18 | 35.9% | 35.1% | 23.5% | 24.0% |
19 | 11.8% | 11.4% | 8.5% | 7.4% |
20 | 3.9% | 3.7% | 2.9% | 2.8% |
21 | 2.4% | 2.1% | 2.0% | 1.5% |
22 | 2.0% | 1.8% | 1.4% | 1.3% |
23 | 1.9% | 1.6% | 1.1% | 1.0% |
24 | 1.7% | 1.5% | 1.0% | 0.9% |
25 | 1.6% | 1.4% | 1.0% | 0.8% |
26 | 1.4% | 1.4% | 0.9% | 0.7% |
27 | 1.4% | 1.4% | 0.9% | 1.1% |
28 | 1.3% | 1.3% | 0.8% | 0.7% |
29 | 1.4% | 1.1% | 0.9% | 0.7% |
30 | 1.2% | 1.2% | 0.8% | 0.8% |
Mesur HEIP | 68.0% | 65.3% | 45.8% | 43.7% |
31. Dengys Tabl 2 fod y cyfraddau cyfranogiad cychwynnol yn uwch ar gyfer benywod na gwrywod ym mhob oedran rhwng 17 a 30 oed ar gyfer 2021/22 a 2022/23. Felly y mae hi hefyd wrth edrych yn ôl at 2016/17, ac eithrio pobl 17 oed rhwng 2017/18 a 2019/20 pan oedd y cyfraddau’n gyfartal.
32. Fe gynyddodd y gyfradd cyfranogiad cychwynnol cyffredinol ar gyfer pobl 18 oed rhwng 2021/22 a 2022/23; fodd bynnag, wrth edrych ar y mesur yn ôl rhyw, dim ond ar gyfer gwrywod yr oedd hyn yn wir. Fe ostyngodd y gyfradd cyfranogiad cychwynnol ar gyfer benywod 18 oed 0.8 pwynt canran rhwng 2021/22 a 2022/23 tra bo cynnydd o 0.5 pwynt canran wedi bod ar gyfer gwrywod 18 oed.
Mesurau cyfranogiad yng ngweddill y DU
33. Nid oes un mesur o gyfranogiad ledled y DU sy’n ei gwneud hi’n anodd cymharu. Mae’r adran hon yn ymdrin â’r gwahaniaethau a thebygrwydd mewn mesurau cyfranogiad eraill ledled y DU.
Lloegr
34. Mae gan yr Adran Addysg yn Lloegr (DfE) gyfres ystadegol a elwir yn ‘Participation measures in higher education’. Roedd y fethodoleg ar gyfer y gyfres hon yn debyg i’r hyn a ddefnyddiwyd yma hyd at ddatganiad ystadegol yr Adran Addysg yn Lloegr ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20.
35. Cyflwynwyd methodoleg newydd o’r enw’r Mesur Cyfranogiad mewn Addysg Uwch sy’n seiliedig ar Garfannau (CHEP) ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21. Yn lle amcangyfrif cyfranogiad yn y dyfodol erbyn 30 oed gan ddefnyddio lefelau cyfranogiad cyfredol fel y mae’r fethodoleg HEIP yn ei wneud, mae’r CHEP yn tracio carfannau o ddisgyblion ysgol i fesur cyfranogiad.
36. Er bod CHEP yn dra gwahanol i fethodoleg HEIP, mae datganiad 2021/22 yn cynnwys adran ‘Rhagweld cyfranogiad mewn AU yn y dyfodol’ sy’n defnyddio’r data sy’n seiliedig ar garfannau i gynhyrchu amcanestyniad sy’n debycach i sut y llunnir y mesur HEIP.
37. Roedd y rhesymeg dros newid y fethodoleg fel a ganlyn: er bod y mesur HEIP yn cynhyrchu mesur amserol, roedd rhai cyfyngiadau hysbys megis:
- amcangyfrif cyfradd gyfranogiad uwch na’r gyfradd go iawn ar gyfer carfan fynediad benodol pan geir twf cyson mewn cyfraddau mynediad ar gyfer grwpiau oedran iau.
- peidio â gallu creu ffigyrau dibynadwy yn ôl rhanbarth a demograffeg allweddol
38. Roedd yr Adran Addysg yn Lloegr yn teimlo bod y fethodoleg CHEP yn lleihau effaith llifoedd mudo i mewn ac allan dros amser ac na fyddai diwygiadau i amcangyfrifon poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n digwydd yn dilyn pob Cyfrifiad yn effeithio arni ychwaith.
39. Y fantais arall oedd y byddai’r dull CHEP yn eu galluogi i ddadansoddi cyfranogiad yn ôl nodweddion disgyblion a gymerir o’r cyfrifiad ysgolion megis dadansoddiadau yn ôl rhywedd a rhanbarth yr ysgol a fynychir.
40. Un o anfanteision y fethodoleg newydd yw ei bod yn llai amserol na’r fethodoleg HEIP gan ei bod yn golygu bod angen i bob carfan ysgol 15 oed gyrraedd oedran penodol cyn adrodd arni. Mewn geiriau eraill, ni fyddech ond yn adrodd ar y ganran sy’n cyfranogi mewn AU erbyn 25 oed ar gyfer y rhai sy’n 15 oed ym mlwyddyn academaidd 2024/25, unwaith y mae data blwyddyn academaidd 2034/35 ar gael.
Yr Alban
41. Mae Cyngor Cyllido’r Alban (SFC) yn cynnwys Cyfradd Cyfranogiad Cychwynnol mewn Addysg Uwch (HEIPR) yn nhablau cefndir eu cyhoeddiad ystadegol ‘HE Students and Qualifiers at Scottish Institutions’.
42. Cynhyrchir y gyfradd hon gan ddefnyddio methodoleg debyg i’r hyn a gyflwynwyd ar gyfer Cymru yn y cyhoeddiad hwn, er y bydd gwahaniaethau yn yr union fethodoleg ar gyfer sut y caiff cyfranogiad cychwynnol ei adnabod. Un gwahaniaeth yw ei bod yn cwmpasu’r rhai rhwng 16 a 30 oed yn hytrach na rhwng 17 a 30.
43. Un tebygrwydd i’w nodi yw bod y mesur HEIPR ar gyfer yr Alban hefyd yn cyrraedd brig yn 2020/21. Fodd bynnag, yn wahanol i’r mesur HEIP ar gyfer Cymru, ar ôl gostwng yn 2021/22 fe gynyddodd eto wedyn yn 2022/23.
Gogledd Iwerddon
44. Mae Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) wedi cynhyrchu ‘Age Participation Index for Northern Ireland’ ar gyfer y cyfnod rhwng 1998/99 a 2021/22. Mae hwn yn nodi nifer y newydd-ddyfodiaid ifanc (o dan 21 oed) sy’n hanu o Ogledd Iwerddon a ymunodd ag Addysg Uwch amser llawn yn y DU neu yng Ngweriniaeth Iwerddon fel canran o’r boblogaeth 18 oed yng Ngogledd Iwerddon.
Datblygiadau yn y dyfodol
45. Bydd unrhyw adborth a geir yn helpu i gyfarwyddo sut y gellid gwella’r mesur HEIP. Bydd datblygiadau’n cael eu goleuo gan y trafodaethau yr ydym yn eu cael gyda’r rhai sydd â diddordeb yn y maes hwn, ond mae datblygiadau posibl yn cynnwys:
- Cynnwys mwy o weithgarwch AU trwy gael data ar gyfranogwyr cychwynnol sy’n hanu o Gymru sy’n astudio ar lefel AU mewn Darparwyr Addysg Bellach yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
- Ymchwilio i weld a fyddai’n bosibl adrodd yn gadarn ar ystod ehangach o nodweddion, er enghraifft ethnigrwydd, anabledd a byw mewn ardaloedd mwy amddifadus.
- Ymchwilio i weld a oes posibilrwydd o gynhyrchu cyfraddau cyfranogiad cychwynnol gan ddefnyddio methodoleg sy’n seiliedig ar garfannau fel y mae’r Adran Addysg yn ei wneud ar gyfer Lloegr. Pan ddechreuwyd y gwaith ar y mesur HEIP hwn yng Nghyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) nid oedd methodoleg a oedd yn seiliedig ar garfannau’n ddichonadwy oherwydd diffyg argaeledd data hydredol. Fodd bynnag. gallai sefydlu Medr ddarparu cyfleoedd newydd.
- Ystyried sut y gellid addasu’r mesur ar gyfer y sector addysg drydyddol ehangach yn hytrach na chanolbwyntio ar AU yn unig.
Sta/Medr/05/2025: Mesur Cyfranogiad Cychwynnol mewn Addysg Uwch Cymru: 2016/17 i 2022/23
Ystadegau Medr
Cyfeirnod ystadegau: Sta/Medr/05/2025
Dyddiad: 27 Chwefror 2025
Dynodiad: Ystadegau swyddogol sydd wrthi’n cael eu datblygu
E-bost: [email protected]
Mae’r cyhoeddiad hwn yn cyflwyno’r fethodoleg a’r canlyniadau ar gyfer mesur Cyfranogiad Cychwynnol mewn Addysg Uwch (HEIP) i Gymru. Mae’r mesur hwn yn amcangyfrif y tebygolrwydd y bydd person sy’n hanu o Gymru’n cyfranogi mewn addysg uwch erbyn eu bod yn 30 oed. Mae hyn yn cynnwys y dadansoddiad o gyfranogiad cychwynnol yn ôl oedran a’r gwahaniaethau rhwng gwrywod a benywod.
Gan mai dyma’r tro cyntaf i Medr gyhoeddi’r mesur HEIP mae’r ystadegau hyn wedi cael eu labelu’n Ystadegau Swyddogol Sydd Wrthi’n Cael Eu Datblygu tra’r ydym yn datblygu’r mesur ymhellach i ddiwallu anghenion defnyddwyr. I helpu gyda hyn, byddai unrhyw adborth ar y fethodoleg neu gynnwys yr allbwn hwn yn cael ei groesawu. I ddarparu unrhyw adborth cysylltwch â ni yn [email protected].
Sta/Medr/05/2025 Mesur Cyfranogiad Cychwynnol mewn Addysg Uwch Cymru: 2016/17 i 2022/23Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio