Ansawdd
Mae gennym gyfrifoldeb i asesu, neu wneud trefniadau i asesu, ansawdd yr addysg a ddarperir yng Nghymru gan neu ar ran ddarparwyr a reoleiddir. Byddwn yn gwneud hyn drwy ein prosesau asesu ansawdd. Mae gennym hefyd gyfrifoldeb i fonitro a hyrwyddo gwelliant i ansawdd addysg drydyddol.
Bydd Medr yn datblygu Fframwaith Ansawdd a fydd yn cynnwys gwybodaeth am:
- y dull o asesu ansawdd ar draws pob rhan o addysg drydyddol
- rolau darparwyr
- sut y caiff safbwyntiau dysgwyr eu hystyried, a
- datblygiad proffesiynol staff.
Addysg bellach
Mae Estyn yn arolygu colegau addysg bellach, partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned, a darparwyr prentisiaethau. Y mae hefyd yn arolygu’r chweched dosbarth mewn ysgolion yn rhan o arolwg ysgol gyfan. Yn ogystal â hynny, mae’n arolygu gwasanaethau addysg yr awdurdod lleol, sy’n cynnwys y gefnogaeth a roddir ganddynt i ysgolion (gan gynnwys y chweched dosbarth).
Mae gan Estyn ddyletswydd i roi gwybodaeth a chyngor i Medr o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.
Mae gwybodaeth am brosesau Estyn, gan gynnwys beth mae’n ei arolygu a sut mae’n arolygu pob agwedd, ar gael ar ei wefan.
Addysg Uwch
Mae’n rhaid i Medr asesu, neu wneud trefniadau i asesu, ansawdd yr addysg a ddarperir yng Nghymru gan neu ar ran pob sefydliad addysg uwch a reoleiddir..
Derbyniodd Medr gyfrifoldebau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ar 1 Awst 2024. Yn unol â hynny, mae canllawiau diweddaraf CCAUC yn berthnasol ar hyn o bryd.
Mae’r Gweithdrefnau ar gyfer asesu ansawdd addysg (cylchlyhtyr CCAUC W19/05HE) yn esbonio sut y bydd Medr yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol yn gysylltiedig ag ansawdd addysg.
Yn rhan o’r Fframwaith Asesu Ansawdd i Gymru, mae’n rhaid i sefydliadau a reoleiddir dderbyn adolygiadau sicrhau ansawdd allanol. Cynhelir yr adolygiadau hyn drwy ddefnyddio’r Adolygiad Gwella Ansawdd a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.
O 1 Awst 2025, bydd fersiynau diwygiedig o’r Fframwaith Asesu Ansawdd a’r dogfennau adolygiadau sicrhau ansawdd allanol yn dod i rym i ystyried newidiadau i’r Cod Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch, a Chyngor Ansawdd y DU.
Mesurau perfformiad ôl-16 cyson ar gyfer addysg bellach a’r chweched dosbarth
Caiff cyfraddau cwblhau a chyrhaeddiad dysgwyr sy’n astudio mewn sefydliadau addysg bellach a’r chweched dosbarth mewn ysgolion eu cyhoeddi’n flynyddol.
Mae’r mesurau perfformiad cyson yn dangos cyfran y dysgwyr sy’n ennill y cymwysterau y maen nhw’n anelu atynt, fel cyfran o’r rhai sy’n dechrau rhaglen astudio.
Mae ystadegau cenedlaethol ar gyfer cyrhaeddiad dysgwyr ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Adroddiadau ar ddeilliannau dysgwyr ar gyfer darparwyr ôl-16
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dau adroddiad sy’n mesur llwyddiant y canlynol:
- darparwyr dysgu seiliedig ar waith
- partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned
Mae’r adroddiadau’n cynnwys gwybodaeth am:
- ganran yr holl gymwysterau a enillwyd gan ddysgwyr dros y 3 blynedd diwethaf
- y gyfradd gyfartalog a enillwyd ar draws yr holl ddarparwyr tebyg yng Nghymru
Bagloriaeth Cymru ôl-16: cofnodi a mesur deilliannau
Canllawiau hunanasesu ar gyfer darparwyr ôl-16
Ystadegau Myfyrwyr Addysg Uwch: Y DU, 2021/22
Quality Assessment framework for higher education providers
Yn rhan o’r Fframwaith Asesu Ansawdd i Gymru, mae’n rhaid i sefydliadau a reoleiddir dderbyn adolygiadau sicrhau ansawdd allanol rheolaidd. Cynhelir yr adolygiadau hyn drwy ddefnyddio’r Adolygiad Gwella Ansawdd a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch.
Goruchwyliaeth addysgol mewn addysg uwch
Mae’r ddogfen hon yn egluro’r rôl a etifeddodd Medr (gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru) o ran goruchwyliaeth addysgol.
Gweithdrefnau ar gyfer asesu ansawdd addysg uwch
Mae’r cylchlythyr hwn yn amlinellu ein gweithdrefnau ar gyfer asesu ansawdd addysg, a etifeddwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Canllawiau ar drefniadau partneriaeth ar gyfer addysg freiniol a ddarperir ar ran sefydliadau addysg uwch a reoleiddir yng Nghymru
Mae’r canllawiau hyn ar drefniadau partneriaeth ar gyfer addysg freiniol yng Nghymru yn ystyriol o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, ac wedi’u hetifeddu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Fframwaith rheoleiddio
Mae ansawdd yn elfen allweddol o reoleiddio, yn unol â Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, a bydd yn amod cofrestru a chyllido.
Adroddiadau ansawdd
Rhoddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gomisiwn i’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) gynnal Ymchwiliad i Bryderon ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam (Prifysgol Wrecsam bellach) i ymchwilio i faterion a oedd yn ymwneud â systemau sicrhau ansawdd, diwallu anghenion myfyrwyr, partneriaethau a llywodraethu ansawdd. Fe ymwelodd tîm yr adolygiad â’r sefydliad ym mis Ionawr 2023. Casgliad yr adroddiad terfynol gan dîm ymchwilio QAA, a ddaeth i law CCAUC ym mis Mawrth 2023, oedd bod materion difrifol wedi’u canfod.
Adroddiad i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru am Ymchwiliad i Bryderon (Cymru): Prifysgol Wrecsam (Ionawr 2023)
Lle canfyddir materion difrifol mewn ymchwiliad i bryderon, mae’n ofynnol i’r darparwr ddatblygu cynllun gweithredu i gael ei gymeradwyo gan CCAUC. Roedd yn ofynnol bod y broses o roi’r cynllun gweithredu ar waith yn cael ei monitro’n barhaus fel rhan o fframwaith sicrhau ansawdd CCAUC.
Cynllun Gweithredu Adolygiad Sicrhau Ansawdd 2023 Prifysgol Wrecsam (Gorffennaf 2023)
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio