Ar gyfer dysgwyr
Mae Medr wedi’i greu i roi’r dysgwr wrth galon popeth a wnawn.
Os ydych chi’n dysgwr neu fyfyriwr mewn addysg bellach neu uwch, yn ddisgybl chweched dosbarth neu’n brentis, ein nod yw rhoi’r sgiliau i ddysgwyr ddechrau a pharhau â’u taith drwy addysg drydyddol a thu hwnt, er mwyn ichi allu llwyddo mewn bywyd ac mewn gwaith.
Cynnwys dysgwyr
Ein nod yw helpu darparwyr addysg drydyddol i roi’r profiad gorau bosib i ddysgwyr.
Cod Ymgysylltu â Dysgwyr
Bydd Medr yn datblygu Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, gyda’r bwriad o sicrhau bod buddiannau dysgwyr yn cael eu cynrychioli, eu bod yn cael y cyfle i fynegi barn wrth ddarparwyr am yr addysg a’r hyfforddiant y maent yn ei dderbyn, a’u bod yn gallu cymryd rhan mewn penderfyniadau.
Bydd yn ofynnol i ddarparwyr cofrestredig, a’r rhai a gyllidir gan Medr, gydymffurfio â’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, ynghyd â’r chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
Mae’r Rhestr chwarae Ymgysylltu â Dysgwyr ar Hwb yn cyflwyno drafft cychwynnol o’r weledigaeth a’r egwyddorion ar gyfer y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, a luniwyd ar y cyd â’r dysgwyr. Ceir esboniad hefyd o’r cefndir o ran sut y cawsant eu datblygu. Bydd hyn yn sail i ddatblygu’r Cod.
Partneriaeth â’r Myfyriwr / Dysgwr
Roedd Y Bartneriaeth â Myfyrwyr mewn Sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yng Nghymru yn amlygu nifer o agweddau ar arfer da, fel integreiddio’r bartneriaeth â myfyrwyr i benderfyniadau strategol ac ymwreiddio dulliau manylach o gasglu safbwyntiau myfyrwyr.
Mae llais y myfyriwr/dysgwr yn llywio gwaith cyrff llywodraethu ar draws yr holl sefydliadau sy’n darparu addysg uwch a phellach ac yn helpu i sicrhau bod y penderfyniadau a wneir gan gyrff llywodraethu yn ystyried anghenion y corff amrywiol o fyfyrwyr.
Mae myfyrwyr-lywodraethwyr yn gwneud cyfraniad arbennig i brifysgolion a cholegau bob blwyddyn, ac yn cyflwyno cyd-destun a phersbectif hynod werthfawr i’w sefydliadau ac i’r ffordd y cânt eu cynnal. Mae’r Canllaw i fyfyrwyr sy’n llywodraethwyr yng Nghymru, a luniwyd gan AU Ymlaen wedi’i anelu at fyfyrwyr-lywodraethwyr i’w cefnogi yn eu rôl.
Mae’r blaenoriaethau strategol ar gyfer Medr, fel y’u nodwyd gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys rhoi’r dysgwr wrth galon y system, drwy ganolbwyntio ar brofiadau a llesiant dysgwyr mewn addysg drydyddol. Bydd Medr yn bwrw ymlaen â hyn yn ei gynllun strategol, a fydd yn cynnwys ei waith ar fframwaith ansawdd ar gyfer addysg drydyddol a hyfforddiant, a’r cod ymgysylltu â dysgwyr.
Mae ymgysylltu â myfyrwyr yn rhan allweddol o adolygiadau ansawdd allanol ar gyfer darparwyr addysg uwch, ac mae’r elfen honno wedi’i chynnwys yn rhan o arolygiadau Estyn ar gyfer yr holl sectorau trydyddol eraill.
Diogelu dysgwyr
Cynlluniau Diogelu Dysgwyr
Bydd disgwyl i ddarparwyr addysg drydyddol greu Cynllun Diogelu Dysgwyr, yn esbonio sut y byddant yn diogelu buddiannau dysgwyr os bydd rhywbeth yn terfynu neu’n tarfu ar gwrs, a sut y byddant yn trefnu i drosglwyddo dysgwyr i gyrsiau eraill.
Cwynion
Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol yw’r corff sy’n gyfrifol am adolygu cwynion myfyrwyr am ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru ac yn Lloegr.
Gall dysgwyr hefyd wneud cwyn i Medr am broblemau systematig yn gysylltiedig ag ansawdd a safonau o fewn eu darparwr, fel arfer ar ôl mynd drwy weithdrefnau cwyno’r darparwr hwnnw.
Gwybodaeth i fyfyrwyr addysg uwch
Siarteri Myfyrwyr
Dylai sefydliadau addysg uwch weithio gyda’r corff o fyfyrwyr i baratoi Siarteri Myfyrwyr (cylchlythyr CCAUC W22/20HE) sy’n nodi disgwyliadau, hawliau a chyfrifoldebau sefydliadau a’u myfyrwyr y naill i’r llall. Dylai’r rheiny fod wedi’u cynllunio i gefnogi profiad dysgu’r myfyriwr, gan gynnwys dolenni priodol i wybodaeth bellach. Cyhoeddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ganllawiau ar sut y dylai darparwyr addysg uwch fynd ati i ddatblygu siarteri myfyrwyr ac mae’r disgwyliadau hyn wedi’u cynnwys yn Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru.
Ariannu undebau myfyrwyr effeithiol
Cyhoeddodd CCAUC gyfarwyddyd (cylchlythyr CCAUC W14/06HE) ar arfer da mewn cyllido undebau myfyrwyr effeithiol a democrataidd, a chynrychiolaeth myfyrwyr ar gyfer ymgynghoriad.
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr
Mae gan ddarpar fyfyrwyr fynediad at wybodaeth gyhoeddus, sy’n cynnwys canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS), y wefan Darganfod Prifysgol a Setiau Gwybodaeth Allweddol (KIS). Setiau Gwybodaeth Allweddol (KIS). Amlinellir yr wybodaeth y dylid ei darparu i fyfyrwyr ac i ddarpar fyfyrwyr gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.
Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) yn casglu adborth ar fodlonrwydd myfyrwyr israddedig â’u cwrs. Mae data’r NSS ar gael ar wefan Office for Students (OfS). Mae canlyniadau manylach o’r NSS ar gael i sefydliadau ac undebau myfyrwyr i ddibenion mewnol. Mae Medr yn bwriadu gwneud gwaith i gasglu safbwyntiau dysgwyr mewn rhannau eraill o addysg drydyddol.
Myfyrwyr Ôl-radd
Mae ymchwil wedi’i chyhoeddi sy’n nodi anghenion gwybodaeth penodol ar gyfer myfyrwyr ôl-radd a addysgir, gan gynnwys argymhellion i sefydliadau addysg uwch wella’r wybodaeth ar gyfer cynulleidfa amrywiol o ddarpar fyfyrwyr ôl-radd.
Yn 2022, cyhoeddodd CCAUC adroddiad gan AU Ymlaen, a gomisiynwyd gan CCAUC, ar adolygu polisi ac arfer yn gysylltiedig â chefnogi myfyrwyr ôl-radd sy’n addysgu.
Yn 2023, cyhoeddodd CCAUC adroddiad gan Ymchwil Arad, a luniwyd ar ran CCAUC, ar brofiad ehangach myfyrwyr ymchwil ôl-radd.
Rhagor o wybodaeth i ddysgwyr
Cewch wybodaeth am ystod o gyfleoedd dysgu drwy:
Gyrfa Cymru: cyfleoedd yn y chweched dosbarth a’r
coleg a phrentisiaethau yng Nghymru.
Cymru’n Gweithio: cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd diduedd yn rhad ac am ddim i bobl 16 oed neu’n hŷn.
Astudio yng Nghymru: addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru.
Darganfod Prifysgol: cymharu gwybodaeth a data ar gyrsiau addysg uwch israddedig ledled y DU.
Prospects: cyfleoedd astudio ôl-raddedig ar draws y DU.
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Taith: cyfleoedd cyfnewid rhyngwladol i ddysgwyr yng Nghymru.
Cyngor y DU dros Faterion Myfyrwyr Rhyngwladol: gwybodaeth a chyngor i fyfyrwyr rhyngwladol
Cyllid Myfyrwyr Cymru: cyllid ar gyfer dysgwyr addysg bellach, israddedigion ac ôl-raddedigion.
Addysgwyr Cymru: cymwysterau ymarfer dysgu.
Gwefan Llywodraeth Cymru am gymhellion i hyfforddi i addysgu mewn addysg bellach ac mewn ysgolion.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio