Prentisiaethau

Mae prentisiaethau’n galluogi dysgwyr ar bob lefel i ennill cymwysterau wrth ennill cyflog, ac fel arfer mae’n cymryd 1 – 4 blynedd i’w cwblhau.

Cyllid i ddarparwyr

Uchelgais hirdymor Llywodraeth Cymru yw cael system addysg a sgiliau sy’n cefnogi cydweithio rhwng darparwyr ar draws y sector drydyddol, i fodloni anghenion dysgwyr, cyflogwyr, y gymuned ehangach a’r economi, gan gael gwared ag achosion o ail-wneud gwaith a chystadlu gwastraffus. Mae’r dudalen hon yn amlinellu’r trefniadau cyfredol, gan gynnwys gwybodaeth am fframweithiau a chyllid presennol, ond bydd Medr yn penderfynu sut y caiff y ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau ei chomisiynu a’i hariannu yn y dyfodol, yn unol ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru a’i strategaeth ei hun.

Recriwtio prentis

Canllaw i gyflogwyr

Gall recriwtio prentis eich helpu i ehangu eich gweithlu a’i sylfaen sgiliau. Mae cymorth ar gael tuag at gostau hyfforddi ac asesiadau.

Byddwch yn gweithio gyda darparwr hyfforddiant a fydd yn rheoli rhaglen hyfforddi ac asesu’r prentis.

Drwy gyflogi prentis, gallwch: 

  • leihau eich costau recriwtio
  • adeiladu gweithlu medrus a brwdfrydig wedi’i deilwra i’ch busnes
  • ehangu eich busnes
  • llenwi unrhyw fylchau o ran sgiliau
  • diogelu eich busnes at y dyfodol 
  • cynyddu cynhyrchiant

Mae busnesau o bob maint ac ar draws pob sector yn gymwys.

Bydd y rhan fwyaf o’r hyfforddiant yn cael ei wneud gan y cyflogwr sy’n gweithio gyda darparwr hyfforddiant dan gontract.

Y cyflogwr sy’n gyfrifol am dalu cyflog y prentis ac am unrhyw hyfforddiant ychwanegol. Ceir cefnogaeth ar gyfer costau hyfforddi drwy’r rhaglen brentisiaethau. 

Mae’n bwysig gweithio gyda darparwr hyfforddiant yn fuan iawn yn y broses. Gall roi cymorth, cefnogaeth ac arweiniad ichi.

Cymhellion 

Er mwyn helpu busnesau i recriwtio person anabl rydym yn cynnig cymhellion tan 31 Mawrth 2025.

Cymelldaliad ar gyfer cyflogi pobl anabl

  • bydd cyflogwyr sy’n recriwtio prentis anabl yn gymwys i dderbyn cymelldaliad cyflogwr o £2,000 fesul dysgwr
  • cyfyngir y taliadau i 10 o ddysgwyr anabl fesul busnes
  • nid yw cymelldaliadau ond yn berthnasol i brentisiaethau a gyflwynir ar lefelau 2 i 5 yn unig, ac nid ydynt yn berthnasol i brentisiaethau gradd

Ni chewch ymgeisio os:

  • ydych yn recriwtio ar gontract dim oriau
  • ydych chi’n defnyddio model rhannu prentisiaeth
  • nodir bod gan ddysgwr anabledd ar ôl iddo gael ei recriwtio

Bydd cymhellion ar gael drwy eich darparwr hyfforddiant.

Darperir y rhaglen ar gyfer prentisiaethau ar Lefel 2 i 5 gan rwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant ledled Cymru.

Ceir prentisiaethau ar 4 lefel wahanol:

  • Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2)
  • Prentisiaeth (Lefel 3)
  • Prentisiaeth Uwch (Lefel 4 a 5)
  • Prentisiaeth Gradd (Lefel 6)

Bydd prentis yn dilyn Fframwaith Prentisiaeth Cymru cymeradwy.

Drwy lyfrgell fframwaith prentisiaeth Llywodraeth Cymru gallwch chwilio am yr opsiynau sydd ar gael a chael dealltwriaeth ohonynt.

Treth ar gyflogaeth drwy’r DU yw’r Ardoll Brentisiaethau. Fe’i cesglir yn fisol gan Gyllid a Thollau EF drwy’r system talu wrth ennill.

Mae’r Ardoll yn berthnasol i holl gyflogwyr y DU a chanddynt fil cyflogau blynyddol o £3 miliwn neu fwy. Fe’i codir ar gyfradd o 0.5% o’ch bil cyflogau blynyddol.

Mae Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru ar gael:

  • i’ch helpu i hysbysebu, rheoli ac olrhain eich prentisiaethau gwag
  • i’ch helpu i recriwtio prentis
  • i ddarpar brentisiaid allu chwilio am brentisiaeth

Gallwch hysbysebu, rheoli ac olrhain eich prentisiaethau gwag ar Rheoli Prentisiaethau.

Os nad ydych chi wedi defnyddio’r gwasanaeth o’r blaen, mae canllaw defnyddwyr Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyfarwyddiadau i’ch helpu i fewngofnodi ac ychwanegu eich prentisiaethau gwag.

Bydd eich prentisiaethau gwag ar gael i’w gweld ar Chwilio am Brentisiaeth.

Am gymorth a chefnogaeth ewch i Porth Sgiliau Busnes Cymru.

Fframweithiau prentisiaeth

Mae fframweithiau prentisiaeth yn nodi’r gofynion ar gyfer cwblhau prentisiaeth Gymreig mewn galwedigaeth benodol.

Yng Nghymru, bydd prentis yn dilyn Fframwaith Prentisiaeth Cymru. Mae’r Fframwaith yn sicrhau bod gan brentis yr wybodaeth, y sgiliau a’r cymwysterau perthnasol.

Ceir fframweithiau mewn 23 o sectorau.

Mae pob fframwaith yn darparu’r llwybrau sydd ar gael ac yn cynnwys:

  • gofynion mynediad (yr hyn fydd ei angen arnoch i ddechrau prentisiaeth mewn maes penodol)
  • lefelau sydd ar gael o fewn y sector ac opsiynau am ddilyniant
  • enghreifftiau o rolau swydd
  • y cymwysterau y byddwch yn eu hennill ar ôl llwyddo i gwblhau prentisiaeth
  • unrhyw ddysgu ychwanegol i gefnogi’r brentisiaeth

Llwybrau yw opsiynau sydd ar gael o fewn fframwaith prentisiaeth, ac maen nhw’n seiliedig ar alwedigaethau neu swyddi penodol. Maen nhw’n rhoi opsiynau i’r prentis i gefnogi ei ddewisiadau gyrfa.

Rhaid i bob fframwaith prentisiaeth fodloni’r gofynion statudol a nodir ym Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru (SASW).

Mae ein fframweithiau prentisiaeth yn cynnwys:

Cymhwyster cymwyseddau galwedigaethol; neu gymhwyster cymwyseddau integredig sydd hefyd yn cynnwys yr wybodaeth dechnegol berthnasol. Mae hwn yn asesu’r sgiliau gofynnol i wneud y swydd. Mae’n berthnasol i’r maes neu’r alwedigaeth a ddewiswyd.

Cymhwyster gwybodaeth dechnegol. Mae hwn yn asesu’r theori a’r wybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer y swydd. Mae’n benodol i’r sgìl, y grefft neu’r alwedigaeth; a

Chymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru. Mae hwn yn cynnwys: cymhwyso rhif a chyfathrebu; a sgiliau llythrennedd digidol os yw hynny’n berthnasol i’r sector neu’r swydd. Efallai na fydd hyn yn berthnasol i bob fframwaith.

Cymwysterau neu ofynion eraill. Fel y nodir ar gyfer yr alwedigaeth dan sylw.

Mae ein prentisiaethau yn cynnwys cymwysterau rheoleiddiedig a gynigir gan gyrff dyfarnu a gydnabyddir gan Cymwysterau Cymru. Yn ogystal â hynny, mae ein Prentisiaethau Uwch hefyd yn cynnwys cymwysterau y mae eu hansawdd wedi’i sicrhau gan sefydliadau addysg uwch a chyrff proffesiynol.

Mae pob cymhwyster:

Gall y FfCChC eich helpu i ddeall a chymharu cymwysterau.

Mae cymwysterau prentisiaeth hefyd yn dilyn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS).

Rhaid i fframweithiau prentisiaeth fodloni anghenion yr economi, diwydiant neu’r sector sgiliau.

Mae gwaith datblygu’n cynnwys:

  • newid ac adolygu fframweithiau neu lwybrau cyfredol.
  • creu llwybr prentisiaeth newydd.

Wrth adolygu prentisiaeth, neu ddatblygu prentisiaeth newydd, dylid ystyried ac ymgorffori:

  • Cynlluniau’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol
  • ymgysylltu â rhanddeiliaid a diwydiant
  • y cymhwyster/cymwysterau perthnasol
  • sut mae’n cyd-fynd â’r polisi prentisiaethau
  • y galw o fewn y diwydiant
  • y ddarpariaeth a’r cohort (cyflenwi)
  • Blaenoriaethau a Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru
  • sero net.

Mae’r broses o ddatblygu fframwaith yn cynnwys 4 cam:

  • Cam 1 – Cyfarfod Cychwynnol
  • Cam 2 – Cynllunio
  • Cam 3 – Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
  • Cam 4 – Cyhoeddi/Cymeradwyo’r Llwybr

Caiff gwaith i ddatblygu fframweithiau ei gomisiynu gan Medr, neu bydd cyrff o’r sector yn eu comisiynu’n uniongyrchol.  

Ni yw’r awdurdod dyroddi ar gyfer fframweithiau prentisiaethau bellach. Golyga hyn ein bod yn gwirio ansawdd fframweithiau prentisiaethau ac yn eu cymeradwyo a’u cyhoeddi.

Yr awdurdod dyroddi sy’n darparu’r mesur ansawdd terfynol i:

  • brofi cydymffurfiaeth â Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru
  • cyhoeddi’r fframweithiau.

Pan fydd prentis yn cwblhau’r brentisiaeth a ddewiswyd ganddo, bydd angen i’r dysgwr neu’r darparwr wneud cais am dystysgrif prentisiaeth. Caiff y dystysgrif ei rhoi gan Ffederasiwn Sgiliau a Safonau’r Sector Diwydiant (FISSS).

Mae’r darparwr hyfforddiant yn talu FISSS am dystysgrif y prentis.

Rydym yn rhoi arweiniad i gyflogwyr a chontractwyr ar ddarparu prentisiaethau.

Canllaw i awdurdodau lleol ar brentisiaethau

Dogfen

Canllawiau i ysgolion ar brentisiaethau

Dogfen

Fframwaith Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau Cymru: hysbysiad preifatrwydd cyflogwyr

Dogfen

Fframwaith Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau Cymru: manyleb a chanllawiau’r rhaglen

Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau ar gyfrifoldebau a gofynion contractwyr darparu prentisiaethau. [yn Saesneg yn unig]

Dogfen

Hysbysiad preifatrwydd gwasanaethau prentisiaeth

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Chwilio am Brentisiaeth a Rheoli Prentisiaethau.

Gwefan

Telerau ac amodau gwasanaethau prentisiaeth

Gwefan

Canllaw i ddefnyddwyr ar reoli prentisiaethau

Gwefan

Dod yn brentis

Mae prentisiaethau yn cyfuno hyfforddiant ymarferol mewn swydd â chyfnodau o astudio. Fel prentis byddwch yn:

  • gweithio ochr yn ochr â staff profiadol
  • ennill sgiliau swydd-benodol
  • ennill cymhwyster
  • ennill cyflog a chael tâl gwyliau
  • cael amser i astudio (un diwrnod yr wythnos fel arfer)

Bydd hi fel arfer yn cymryd 1-4 blynedd i gwblhau prentisiaeth, yn dibynnu ar lefel y brentisiaeth.

Mae prentisiaethau yng Nghymru ar gael i unrhyw un dros 16 oed.

  • Prentisiaeth Sylfaen: lefel 2 (cyfwerth â 5 TGAU da)
  • Prentisiaeth: lefel 3 (cyfwerth â phasio 2 Safon Uwch)
  • Prentisiaeth uwch: lefel 4 neu uwch (cyfwerth â HNC, HND neu lefel gradd sylfaen ac uwch)
  • Prentisiaeth gradd: lefel 6. Mae hyn yn golygu cyfuno gwaith ag astudiaeth ran-amser mewn prifysgol neu goleg i ennill gradd baglor lawn.

Mae Prentisiaethau Gradd ar gael ar hyn o bryd mewn galwedigaethau digidol, peirianneg, gweithgynhyrchu uwch ac adeiladu.

Mae prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog yn eich galluogi i hyfforddi yn eich dewis iaith.

Gellir gwneud bron bob prentisiaeth yn hygyrch. Bydd eich cyflogwr yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn cael cymorth wedi’i deilwra i fodloni’ch anghenion fel y gallwch weithio’n hyderus.

Gallwch gael hyd i brentisiaeth ar y dudalen Chwilio am Brentisiaeth. Byddwch yn gweld manylion ynghylch sut i ymgeisio yn yr hysbysiad am y brentisiaeth.

Mae gan Gyrfa Cymru gyngor i’ch helpu i lunio cais a pharatoi am gyfweliad.

Mae’r canllaw hwn yn darparu gwybodaeth a chymorth ynghylch sut i ymgeisio’n llwyddiannus am brentisiaeth.

Dogfen

Mae cymwysterau prentisiaeth gradd sydd ar gael yng Nghymru wedi’u cyfyngu i’r meysydd pwnc â blaenoriaeth:

  • Digidol
  • Peirianneg
  • Gweithgynhyrchu Uwch
  • Adeiladu
Prentisiaethau gradd sydd ar gael ar hyn o bryd

Mae’r prentisiaethau’n parhau drwy gydol y cwrs gradd, gyda phrentisiaid yn treulio cyfran o’u hamser yn y brifysgol a’r gweddill gyda’u cyflogwr. Bydd prentisiaeth gradd yn para isafswm o dair blynedd, ac fel arfer hyd at uchafswm o bum mlynedd.

Mae Medr yn ariannu prentisiaid gradd sy’n gweithio yng Nghymru yn llawn, tra bo’r cyflogwr yn talu cost cyflog y prentis gradd. 

Gall cyflogwyr felly fod yn hyderus y bydd prentisiaethau gradd yn destun yr un mesurau sicrhau ansawdd â darpariaeth addysg uwch arall a’u bod yn cydymffurfio â Manyleb Safonau Prentisiaeth Cymru (SASW).

Mae prentis gradd fel arfer yn rhywun sydd â chymwysterau Lefel 3 neu gyfwerth ar y Fframwaith Credyd a Chymwysterau (FfCCh), ac/neu brofiad perthnasol o’r diwydiant.

I ddechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen ichi:

  • fod yn 18 yn oed neu’n hŷn – nid oes uchafswm oedran
  • fod yn gweithio yng Nghymru 51% neu fwy o’r amser
  • fod mewn rôl swydd sy’n addas i’r brentisiaeth.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio