Cynllun Strategol 2025-2030
Mae’r Cynllun Strategol yn amlinellu ein hymateb i flaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil.
Cynllun Strategol 2025-2030This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.
Mae’r Cynllun Strategol yn y nodi ein huchelgeisiau am sector cydweithredol sy’n darparu dysgu ac ymchwil o ansawdd uchel, gan ddiwallu anghenion yr economi a chymdeithas, gwella cyfraddau cyfranogiad mewn addysg drydyddol, a chreu llwybrau mwy hyblyg i ddysgwyr.
Cynllun Strategol 2025-2030Mae ein Cynllun Strategol yn amlinellu ymateb Medr i flaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil. Mae’r Cynllun hefyd yn ystyried y gofynion deddfwriaethol a osodwyd arnom yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, ac yn disgrifio sut mae Medr yn bwriadu gweithio i’w cyflawni.
Mae’r Cynllun hefyd wedi’i osod yng nghyd-destun yr angen i ni daro cydbwysedd rhwng sefydlu corff newydd ac ateb gofynion deddfwriaethol newydd yn y byrdymor ar y naill law, a phennu ein huchelgais a’n dyheadau ar gyfer y tymor hwy ar y llaw arall.
Cymeradwywyd y Cynllun gan Weinidogion Cymru ar 25 Chwefror 2025.
Mae ein Cynllun Strategol ar gyfer 2025-2030 yn seiliedig ar ymrwymiadau sefydlu a thwf ar gyfer pum nod strategol, yn ogystal â nod sylfaenol:
Gofynnwyd am adborth ynghylch a oedd ein nodau strategol a’n hymrwymiadau arfaethedig yn adlewyrchu’r hyn yr oedd partneriaid a rhanddeiliaid yn credu a fyddai’n creu effaith gadarnhaol ar y sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Gofynnwyd am farn amrywiaeth eang o randdeiliaid, partneriaid cymdeithasol, cyflogwyr a sefydliadau cymunedol fel rhan o’r ymgynghoriad hwn. Bu hefyd yn ymgysylltu â llais y cyflogwr, a chynhaliodd ddigwyddiadau adborth dysgwyr, gan sicrhau bod llais y dysgwr yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad y cynllun.
Yn dilyn yr ymatebion i’r ymgynghoriad, atgyfnerthwyd cyfeiriadau i nifer o agweddau yn y cynllun terfynol, gan gynnwys:
Rydym ar hyn o bryd yn datblygu ei gynllun gweithredol, a fframwaith i fesur a gwerthuso cyflawniad y sefydliad yn erbyn y cynllun hwnnw. Caiff y rhain eu cyhoeddi ar wefan Medr.
Mae’r Cynllun Strategol yn amlinellu ein hymateb i flaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil.
Cynllun Strategol 2025-2030Rydym wedi ystyried pob ymateb i’r ymgynghoriad a’r ymarferion cynnwys ehangach yn llawn, gan eu hystyried wrth ddiwygio’r Cynllun. Mae’r adroddiad hwn sy’n crynhoi’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i fyfyrio ynghylch sut y gwnaed hyn.
Adroddiad ar yr ymatebion i’r ymgynghoriadRhoddodd Edge Foundation gymorth gyda dwy sesiwn ymgysylltu â rhanddeiliaid i gasglu eu barn am Medr.
Mae’r ddogfen hon yn grynodeb o’r canfyddiadau ar draws y gweithdai.
Adroddiad ar weithdai ymgysylltu â rhanddeiliaid MedrRhoddwyd gomisiwn i Beaufort Research i gynnal ymchwil ansoddol ymhlith dysgwyr yn y sector addysg drydyddol er mwyn: deall beth sy’n bwysig i ddysgwyr ar eu llwybr trwy’r sector addysg drydyddol; archwilio sut bydd Medr yn gwrando ar lais y dysgwr yn effeithiol; cael adborth ar ein nodau strategol; a deall beth yr hoffai dysgwyr eu gweld o ganlyniad i sefydlu Medr.
Cynllun Strategol Medr – ymgynghoriad â dysgwyrDyma fersiwn hawdd ei ddeall o’n Cynllun Strategol.
Cynhyrchwyd gan Hawdd ei Ddeall Cymru, ac mae’n defnyddio Photosymbols.
Cynllun Strategol Medr – hawdd ei ddeallMae Medr wedi cyhoeddi ei Gynllun Strategol cyntaf i greu sector mwy ‘cydgysylltiedig a chynhwysol’.
“Rydym yn hyderus bod ein gweledigaeth yn cael ei rhannu ledled Cymru, a thrwy symud ymlaen gyda’n gilydd, fel un sector sydd wedi’i uno gan uchelgais a phwrpas cyffredin, y gallwn ddatgloi potensial system sy’n fwy na chyfanswm ei rhannau.”
Darllenwch yr eitem newyddion llawnGallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio