Julie Lydon
Cadeirydd
Yr Athro a’r Fonesig Julie Lydon oedd yr is-ganghellor benywaidd cyntaf yng Nghymru ar ei phenodiad i’r rôl ym Mhrifysgol Morgannwg yn 2010. Goruchwyliodd y broses o uno â Phrifysgol Cymru, Casnewydd i greu Prifysgol De Cymru (PDC) yn 2013. Mae grŵp PDC yn cynnwys Coleg Merthyr Tudful a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ymddeolodd yn 2021 ar ôl blwyddyn ar ddeg wrth lyw grŵp y Brifysgol.
Yn ogystal â’i rôl anweithredol fel Cadeirydd Medr, hi yw Dirprwy Gadeirydd Ymddiriedolaeth Nelson, ac mae’n eistedd ar fyrddau Prifysgol Gorllewin Lloegr a Phrifysgol Solent Southampton. Mae hi’n parhau i gefnogi arweinyddiaeth ar draws y sector addysg uwch yn y DU ac Iwerddon drwy ei phrosiectau ymgynghorol gydag AUYmlaen a Mazars Ireland.
Daw â phrofiad ym maes llywodraethu ac arweinyddiaeth drwy ei rolau anweithredol cyfredol, ac o’i phrofiad blaenorol fel y fenyw gyntaf i gael ei hethol i swydd Is-lywydd Prifysgolion y DU (Cymru) a Chadeirydd Prifysgol Cymru; bu hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd Cynghrair y Prifysgolion ac yn Ddirprwy Gadeirydd Cymdeithas Cyflogwyr y Prifysgolion a’r Colegau (UCEA), aelod o fwrdd CBI Cymru.
Dyfarnwyd DBE iddi am ei gwasanaethau i addysg uwch ar draws y DU yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2022.