Hyrwyddo diwylliannau cadarnhaol o uniondeb, cynhwysiant a pharch mewn ymchwil ac arloesi
Rydym yn gweithio i hyrwyddo a datblygu sylfaen ymchwil ragorol, ffyniannus ledled Cymru drwy gefnogi a hyrwyddo diwylliannau ymchwil ac arloesi lle mae parch, uniondeb a chynhwysiant yn ffynnu.
Rydym yn parhau i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r modd y gallwn weithio gyda darparwyr i sicrhau diwylliannau ymchwil a all ddarparu amgylchedd anogol ac arloesol ar gyfer pobl ac ymchwil o safon fyd-eang.
Er mwyn cefnogi ymdrech y DU gyfan i hyrwyddo arfer ymchwil da, rydym wedi llofnodi nifer o gytundebau – a elwir yn Goncordatau – ac rydym yn aelod o grwpiau’r DU sy’n gweithio gyda chyrff eraill i sicrhau bod y nodau hyn yn cael eu cyflawni.
Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yw’r offeryn a ddefnyddir i asesu ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch ledled y DU.
Fe’i cynhelir ar y cyd gan bob un o’r pedwar corff cyllido addysg uwch yn y DU – Medr, Ymchwil Lloegr, Cyngor Cyllido’r Alban, ac Adran yr Economi, Gogledd Iwerddon – ac fe’i rheolir ar ein rhan gan Dîm y Fframwaith, sydd wedi’i leoli yn Ymchwil Lloegr.
Mae’r pedwar corff cyllido yn ffurfio grŵp llywio’r REF, sy’n goruchwylio’r broses o ddatblygu’r ymarfer asesu nesaf ar gyfer y DU gyfan.
Mae’r REF yn broses lle cynhelir adolygiad gan arbenigwyr. Bydd paneli o arbenigwyr mewn meysydd pwnc academaidd unigol yn asesu cyflwyniadau ymchwil sefydliadau o dan dri phrif bennawd:
- Cyfraniadau at wybodaeth – safon cyhoeddiadau ymchwil a mathau eraill o allbynnau ymchwil, gan gynnwys perfformiadau ac arddangosfeydd.
- Effaith ac Ymgysylltu – y buddion a ddarperir i’r economi, cymdeithas, diwylliant, polisi cyhoeddus neu wasanaethau, iechyd, yr amgylchedd neu ansawdd bywyd y tu hwnt i’r byd academaidd.
- Pobl, diwylliant a’r amgylchedd – bywiogrwydd a chynaliadwyedd yr amgylchedd ymchwil, gan gynnwys y cyfraniad at y ddisgyblaeth ehangach neu’r sylfaen ymchwil sy’n cefnogi ymchwil.
Ceir adroddiad nesaf yr REF yn 2029.