Cyhoeddi gweledigaeth Medr ar gyfer y sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru

Mae’r Cynllun, fu’n destun ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Medi a mis Hydref 2024, yn nodi uchelgeisiau Medr am sector cydweithredol sy’n darparu dysgu ac ymchwil o ansawdd uchel, gan ddiwallu anghenion yr economi a chymdeithas, gwella cyfraddau cyfranogiad mewn addysg drydyddol, a chreu llwybrau mwy hyblyg i ddysgwyr.

Rhoddodd Medr gyfle i gyflogwyr, undebau llafur a dysgwyr, ochr yn ochr â darparwyr addysg drydyddol a rhanddeiliaid eraill, gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, a ddenodd fwy na 100 o ymatebion.

Ystyriwyd yr ymatebion hyn wrth greu’r fersiwn derfynol, a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ar 25 Chwefror 2025.

Yn ôl yr Athro Fonesig Julie Lydon, Cadeirydd Medr:

“Rwy’n falch o fod yma gan fy mod yn credu yng ngrym trawsnewidiol addysg drydyddol ac ymchwil – yn wir, rwy’n gynnyrch y grym hwnnw. Rydyn ni i gyd yn uchelgeisiol ynghylch dyfodol Cymru: er budd ein pobl, ein cymunedau a’n heconomi. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y sector addysg drydyddol ac ymchwil yn chwarae ei ran.

“Er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael hyd i’w lwybr, mae angen system addysg drydyddol ac ymchwil gydlynol arnom – un sy’n gwneud y gorau o botensial ein pobl a’n darparwyr. Mae Medr yma i sicrhau bod gennym system o’r fath.

“Y Cynllun hwn yw’r cam cyntaf tuag at wireddu’r weledigaeth hirdymor uchelgeisiol honno. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid i’w wireddu.”

Yn ôl Simon Pirotte OBE, Prif Weithredwr Medr:

“Rydym am i bob dysgwr yng Nghymru gael hyd i’r ddarpariaeth dysgu sydd orau iddyn nhw: y math cywir, yn y lle cywir, ar yr amser cywir. Rydym yn hyderus bod ein gweledigaeth yn cael ei rhannu ledled Cymru, a thrwy symud ymlaen gyda’n gilydd, fel un sector sydd wedi’i uno gan uchelgais a phwrpas cyffredin, y gallwn ddatgloi potensial system sy’n fwy na chyfanswm ei rhannau.

“Gwyddom fod cynnwys ein rhanddeiliaid a’n partneriaid mewn modd ystyrlon yn allweddol er mwyn i Medr lwyddo i sicrhau bod ein system addysg ac ymchwil drydyddol yn cyflawni er budd dysgwyr a Chymru. Dyna pam ein bod wedi ymgysylltu’n rheolaidd â phob rhan o’r system: dysgwyr, darparwyr, a sefydliadau sy’n gweithredu ar draws y sector, yn ogystal ag awdurdodau lleol, undebau llafur, Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill. Rydym hefyd wedi mynd ati’n weithredol i gynnwys ein gweithlu wrth ddatblygu’r Cynllun. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth wrth inni roi ein cynllun ar waith.

“Rydym eisoes wedi cyflawni ein hamcan byrdymor i roi’r sefydliad newydd ar waith. O’r cyfnod pontio llyfn hwn, byddwn nawr yn symud tuag at gyflawni ein gweledigaeth, ar ein cyfer ni ein hunain fel corff rheoleiddio, ac ar gyfer y sector addysg drydyddol ac ymchwil. Mae’n fraint bod eraill wedi ymddiried ynof i adeiladu’r sefydliad hwn, ac i osod sylfaen gadarn er mwyn i Medr allu gwireddu ei uchelgais am sector addysg drydyddol ac ymchwil cryf.”

Yn ôl y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:

“Mae llawer o gyfleoedd ar gael i ddysgwyr ôl-16 yng Nghymru, boed y rheiny’n academaidd neu’n alwedigaethol. Rôl Medr yw helpu i siapio ac ysgogi gwelliant ar draws y sector addysg drydyddol yng Nghymru er mwyn rhoi’r gefnogaeth orau i’n dysgwyr.

“Daw cynllun Medr ar adeg bwysig iawn i addysg ôl-16. Fel llywodraeth rydym am gynyddu cyfranogiad yn y maes hwn. Bydd Medr yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith hwn i barhau i ddarparu’r addysg, y sgiliau a’r twf economaidd sydd eu hangen arnom yng Nghymru.”

Cynllun Strategol 2025-2030

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Sta/Medr/07/2025: Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau, Awst 2023 i Orffennaf 2024

Mae ystadegau dysgu cymunedol awdurdodau lleol wedi’u tynnu o’r datganiad hwn oherwydd problemau’n gysylltiedig ag ansawdd data. Gweler yr wybodaeth am Ansawdd a Methodoleg am fanylion yr ymchwiliad sy’n cael ei gynnal i’r problemau ansawdd data, a’r ymdriniaeth â’r problemau hynny.

  • Cynyddodd cyfradd llwyddo prentisiaethau yn 2023/24 i 74%. Mae’n dal yn is na’r gyfradd cyn pandemig Covid-19.
  • Prentisiaethau lefel sylfaen a ddangosodd yr adferiad cryfaf yn 2023/24.
  • Mae’r gyfradd llwyddo ar gyfer prentisiaethau uwch yn llawer is nag ar gyfer lefelau eraill, a dyna’r gyfradd lle gwelwyd yr adferiad lleiaf ers y pandemig.
  • Ni wnaeth prentisiaid uwch ond pasio ychydig dros hanner y gweithgareddau sgiliau hanfodol cymhwyso rhif a gwblhawyd ganddynt.
  • Bu cynnydd yn y gyfradd llwyddo gyffredinol yn y sectorau mwy canlynol:
    • Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus;
    • Peirianneg;
    • Lletygarwch.
  • Ymhlith y sectorau mwy, gostyngodd y gyfradd llwyddo mewn:
    • Adeiladu;
    • Rheolaeth a Phroffesiynol.
  • Mae’r bwlch yn y gyfradd llwyddo rhwng dysgwyr yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf amddifadus yn cau.
  • Bu cynnydd mawr yng nghyfradd llwyddo dysgwyr ar draws cefndiroedd lleiafrifol ethnig.
  • Cafwyd cyfradd llwyddo uwch na’r cyffredin mewn gweithgareddau prentisiaeth a gwblhawyd yn gyfan gwbl yn Gymraeg.
Ffigur 1: Awst 2013 I Orfennaf 2024

Ffigur 1: Awst 2013 I Orffennaf 2024

Disgrifiad: Mae’r gyfradd llwyddo prentisiaethau yn parhau i adfer yn dilyn y pandemig. Ceir bwlch o hyd rhwng y gyfradd llwyddo gyfredol a’r cyfraddau llwyddo cyn y pandemig.

Data ar StatsCymru

Sta/Medr/07/2025: Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau, Awst 2023 i Orffennaf 2024

Cyfeirnod ystadegau:  Sta/Medr/07/2025

Dyddiad: 12 Mawrth 2025

Dynodiad:  Ystadegau Swyddogol

E-bost:   [email protected]

Crynodeb: Ystadegau ar lwyddiant a chwblhau prentisiaethau yn ôl lefel astudio, math o nod dysgu, sector, a nodweddion dysgu

Sta/Medr/07/2025 Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau 2023-24

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Aelodau Pwyllgor – Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi

Dyddiad cau: Dydd Gwener 4 Ebrill 2025

Rydym yn chwilio am dri aelod annibynnol sydd â phrofiad o ymchwil ac arloesi.

Yn ddelfrydol bydd gennych brofiad/cefndir mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:

Prif Ymchwilydd
  • Profiad o fod yn gyfrifol am gyflawni ymchwil annibynnol ac/neu arloesi mewn cyd-destun academaidd.
  • Proffil rhyngwladol a mynediad at ystod o rwydweithiau disgyblaethol ar draws Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Cynrychiolydd Diwydiant
  • Profiadau mewn rôl ymchwil ac/neu arloesi, mewn cyd-destun diwydiannol neu fusnes.
  • Profiad o gynlluniau cydweithredol ag ymchwilwyr prifysgol, o adeiladu ymchwil ym mhroffil eich sefydliad ac/neu o gyfrannu at y tirlun arloesi yn eich maes.
Aelod o staff sy’n galluogi ymchwil
  • Profiad o gefnogi datblygiad a gweithrediadau sy’n gysylltiedig ag ymchwil ac/neu arloesi yng nghyd-destun addysg drydyddol.
  • Profiad o weithredu prosiectau a rhaglenni mawr a ariennir yn allanol, fel canolfannau ar gyfer hyfforddiant doethurol, rhaglenni ymchwil mawr ac/neu rwydweithiau a ariennir, a chefnogi mentrau ac ymyriadau ymchwil strategol a ariennir yn fewnol yn eich sefydliad.

Manylion llawn, a sut i wneud cais

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/06/2025: Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol: Awst 2023 i Orffennaf 2024

Mae ystadegau dysgu cymunedol awdurdodau lleol wedi cael eu tynnu o’r datganiad hwn oherwydd problemau’n gysylltiedig ag ansawdd data. Gweler yr wybodaeth am Ansawdd a Methodoleg am fanylion yr ymchwiliad sy’n cael ei gynnal i’r problemau ansawdd data, a’r ymdriniaeth â’r problemau hynny.

Nid yw’r problemau ansawdd data yn berthnasol i unrhyw ddata dysgu cymunedol a gyflwynir gan golegau. Mae dysgu cymunedol lle bo colegau’n ddarparwyr arweiniol yn dal wedi’i gynnwys yn yr adroddiad yn rhan o addysg bellach ran-amser.

  • Roedd 155,580 o ddysgwyr mewn addysg bellach, prentisiaethau neu ddarpariaeth dysgu arall seiliedig ar waith yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24.
  • Mae niferoedd dysgu rhan-amser yn gwella, ar ôl dirywiad hir.
  • Bu gostyngiad o 5% yn nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd, o gymharu â’r flwyddyn gynt.
  • Mae prentisiaethau Lefel 3 ar gynnydd, a phrentisiaethau sylfaen yn gostwng, o gymharu â’r flwyddyn gynt.
  • Mae mwy o ddysgwyr yn astudio o leiaf yn rhannol yn Gymraeg.
  • Bu cynnydd mewn gweithgareddau Paratoi am Fywyd a Gwaith.
  • Bu cynnydd yng nghanran y cyrsiau dysgu seiliedig ar waith a ddilynwyd gan ddysgwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig heblaw Gwyn.
  • Mae dysgwyr a gafodd brofiad o amddifadedd yn ystod yr ysgol uwchradd yn llai tebygol o ddilyn cymwysterau Safon Uwch.

Dysgwyr yn ôl math o ddysgu a darparydd

Ffigur 1: Awst 2023 i Orffennaf 2024, Dysgwyr yn ôl math o ddysgu a darparydd
Ffigur 1: Awst 2023 i Orffennaf 2024, Dysgwyr yn ôl math o ddysgu a darparydd

Mae addysg bellach yn cynnwys dysgwyr sy’n astudio Safon Uwch a chymwysterau cyffredinol eraill, yn ogystal â dysgwyr sy’n astudio cymwysterau galwedigaethol (er enghraifft cymwysterau BTEC).

Mae ‘dysgu arall seiliedig ar waith’ yn cynnwys cymwysterau pontio i bobl sy’n gweithio gyda phlant mewn lleoliadau chwarae neu ofal plant.

Sta/Medr/06/2025: Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol: Awst 2023 i Orffennaf 2024

Cyfeirnod ystadegau:  Sta/Medr/06/2025

Dyddiad: 27 Chwefror 2025

Dynodiad:  Ystadegau swyddogol

E-bost:   [email protected]

Crynodeb: Ystadegau ar nifer y dysgwyr, y rhaglenni a’r gweithgareddau a gyflawnir mewn colegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a darpariaeth dysgu cymunedol awdurdodau lleol.

Sta/Medr/06/2025 Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol, Awst 2023 i Orffennaf 2024

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Sta/Medr/05/2025: Mesur Cyfranogiad Cychwynnol mewn Addysg Uwch Cymru: 2016/17 i 2022/23

Cyflwyniad

1. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno amcangyfrif o gyfranogiad cychwynnol mewn addysg uwch (AU) ar gyfer y boblogaeth 17 i 30 oed yng Nghymru ar gyfer y blynyddoedd academaidd rhwng 2016/17 a 2022/23.

2. Amcangyfrif yw’r mesur Cyfranogiad Cychwynnol mewn Addysg Uwch (HEIP) o’r tebygolrwydd y bydd person sy’n hanu o Gymru’n cyfranogi mewn AU erbyn y bydd yn 30 oed. Mae’r dadansoddiad hefyd yn bwrw golwg ar y gwahaniaeth yn y mesur HEIP rhwng gwrywod a benywod. Ceir esboniad llawn o’r fethodoleg a’r ffynonellau data yn yr adran ar fethodoleg.

3. Ystadegau Swyddogol sydd Wrthi’n Cael Eu Datblygu yw’r ystadegau yn y cyhoeddiad hwn gan ein bod wrthi’n datblygu’r mesur hwn ac yn cydnabod bod cyfyngiadau i’r fethodoleg a ddefnyddir. Trwy gyhoeddi’r wybodaeth hon fel Ystadegau Swyddogol sydd Wrthi’n Cael Eu Datblygu gall defnyddwyr fod yn rhan o ddatblygu’r ystadegau hyn a chyfrannu at eu gwneud mor ddefnyddiol a pherthnasol â phosibl.

4. Byddem yn croesawu unrhyw adborth ar gynnwys y cyhoeddiad hwn pa un a yw’n ymwneud â’r fethodoleg ynteu â pha wybodaeth allai gael ei chynnwys i’w wneud hwn ddefnyddiol i chi. I ddarparu adborth anfonwch neges e-bost atom yn [email protected].

Pam ein bod yn cyhoeddi’r ystadegau hyn

5. Un o ddyletswyddau strategol Medr fel a nodir yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yw “annog unigolion sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, yn benodol y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, i gymryd rhan mewn addysg drydyddol”. Y bwriad wrth gyhoeddi’r mesur hwn yw darparu peth tystiolaeth ynglŷn â chyfranogiad mewn AU, gan fwydo i mewn i’r wybodaeth ar y cyfan ar gyfer cyfranogiad yn y sector addysg drydyddol ehangach.

6. Un arall o ddyletswyddau strategol Medr yw “hybu cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn addysg drydyddol Gymreig”. Yn ogystal â mesur HEIP cyffredinol ar gyfer Cymru, mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn cynnwys rhaniad yn ôl rhyw i gymharu cyfranogiad cychwynnol mewn AU ymhlith gwrywod a benywod. Er mai hon yw’r unig nodwedd bersonol sydd wedi cael ei chynnwys yma, rhan o ddatblygu’r mesur hwn fydd ymchwilio i weld a allai nodweddion eraill gael eu cynnwys i ddarparu mwy o fewnwelediad i’r gwahaniaethau mewn cyfranogiad mewn AU gan wahanol grwpiau o boblogaeth Cymru.

7. Mae cyfranogiad mewn addysg drydyddol wedi bod yn faes y rhoddir ffocws cynyddol arno yn yr amgylchedd polisi ehangach yng Nghymru. Yn 2022, rhoddodd Llywodraeth Cymru gomisiwn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynnal adolygiad o dystiolaeth ac arfer gorau ar annhegwch mewn addysg drydyddol yng Nghymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad dilynol ym mis Hydref 2024. Ym mis Tachwedd 2024, fe gychwynnodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ymchwiliad i lwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16 gyda ffocws penodol ar gyfranogiad. Mae’r ymchwiliad wrthi’n mynd rhagddo

8. Ni chyhoeddwyd mesur o gyfranogiad cychwynnol mewn AU ar gyfer Cymru ers 2016 pan gyhoeddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ystadegau ar gyfer blwyddyn academaidd 2012/13. Yn ystod y cyfnod hwn fe ddaliwyd i gynhyrchu mesurau cyfranogiad ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gan olygu bod bwlch yn y dystiolaeth ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau methodolegol yn cyfyngu ar y gallu i gymharu’r gwahanol fesurau ledled y DU. Mae gwybodaeth am yr hyn a gyhoeddir yng ngweddill y DU wedi ei chynnwys mewn adran ddiweddarach.

Methodoleg

9. Y mesur HEIP yw swm y cyfraddau cyfranogiad cychwynnol ar gyfer pob oedran o 17 i 30 gan gynnwys yr oedrannau hynny. Y cyfraddau cyfranogiad cychwynnol yw’r gyfran o bob grŵp oedran sy’n cyfranogi mewn AU am y tro cyntaf ac i gyfrifo hyn mae angen dau ddarn o wybodaeth arnom. Y darn cyntaf o wybodaeth yw nifer y myfyrwyr o bob oedran sy’n cyfranogi mewn AU am y tro cyntaf a’r ail yw’r holl boblogaeth o’r oedran hwnnw yng Nghymru.

Cam 1: Amcangyfrif nifer y myfyrwyr sy’n cyfranogi’n gychwynnol mewn AU

10. Rydym yn defnyddio tair ffynhonnell ddata i amcangyfrif nifer y myfyrwyr o bob oedran sy’n cyfranogi mewn AU am y tro cyntaf. Y ffynonellau hyn yw Cofnod Myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), cofnod Amgen Myfyrwyr HESA (ar gyfer y blynyddoedd rhwng 2014/15 a 2021/22) a Chofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) o 2016/17 ymlaen a gesglir gan Lywodraeth Cymru.

11. Ar gyfer cofnodion HESA rydym wedi cysylltu data rhwng 2004/05 a 2022/23 i adnabod pan fo person yn ymddangos nifer o weithiau yn y data. Darperir manylion y cysylltu hwn yn Atodiad A. Gyda’r cofnodion wedi eu cysylltu rydym yn dod o hyd i’r cofnod cynharaf ar gyfer myfyriwr lle gwnaethant astudio, neu lle’r oedd disgwyl iddynt barhau i astudio, am o leiaf 6 mis i sicrhau bod ganddynt ymgysylltiad sylweddol ag AU. Rydym hefyd yn gwirio a ydynt wedi ennill cymhwyster ar lefel AU yn flaenorol ac yn hepgor y rheiny sydd wedi gwneud, gan y byddant wedi cyfranogi mewn AU yn flaenorol.

12. Ar gyfer y data LLWR, rydym yn adnabod y flwyddyn academaidd gyntaf lle mae gan fyfyriwr naill ai rhaglen dysgu neu weithgaredd dysgu sydd ar lefel sy’n gyfwerth â Lefel 4 neu uwch yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCaChC). Fel gyda data HESA rydym yn ei gwneud yn ofynnol bod y rhaglen berthnasol neu’r gweithgaredd perthnasol yn para, neu fod disgwyl iddi/iddo bara, o leiaf 6 mis. Mae myfyrwyr a oedd â chymhwyster ar lefel AU ar adeg mynediad yn cael eu hepgor eto.

13. Caiff cyfranogiad cychwynnol myfyrwyr ei adnabod ar wahân ar gyfer data HESA a LLWR felly mae nifer y cyfranogwyr cychwynnol yn y naill a’r llall yn cael eu cyfuno i roi cyfanswm y cyfranogwyr cychwynnol ym mhob blwyddyn academaidd. Caiff y cyfranogwyr cychwynnol eu rhannu yn ôl eu hoedran ar 31 Awst ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, e.e. ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 cyfrifir oedrannau’r myfyrwyr fel yr oedd ar 31 Awst 2022.

Cam 2: Amcangyfrif yr holl boblogaeth

14. Defnyddir dwy ffynhonnell ddata i amcangyfrif poblogaeth Cymru, sef yr amcangyfrif poblogaeth y tu allan i’r tymor yng Nghyfrifiad 2021 a’r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer Cymru rhwng 2016 a 2022, sydd ill dwy’n cael eu cynhyrchu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

15. Y sail ar gyfer yr amcangyfrif o’r boblogaeth yw’r amcangyfrifon poblogaeth y tu allan i’r tymor yng Nghyfrifiad 2021. Cynhyrchir y boblogaeth y tu allan i’r tymor gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fel rhan o’i hallbynnau o’r cyfrifiad, a’r boblogaeth breswyl arferol ydyw ond gyda phlant ysgol a myfyrwyr amser llawn wedi eu cyfrif yn eu cyfeiriad y tu allan i’r tymor. Mae’r boblogaeth hon wedi cael ei defnyddio fel y sail yn hytrach na defnyddio’r amcangyfrifon canol blwyddyn yn uniongyrchol am bod arnom eisiau cyfrif myfyrwyr yn y lle y maent yn byw fel arfer yn hytrach na’r lle y maent yn astudio.

16. Mae’r boblogaeth y tu allan i’r tymor yn seiliedig ar ddiwrnod Cyfrifiad 2021, sef 21 Mawrth 2021, felly fe wneir addasiad i heneiddio’r boblogaeth i 31 Awst 2021 i gyd-fynd â‘r dyddiad a ddefnyddiwyd yn y data myfyrwyr. Er enghraifft, amcangyfrifir bod nifer y rhai 18 oed yn gyfran o’r bobl 17 oed sydd wedi troi’n 18 oed ers 21 Mawrth a chyfran y bobl 18 oed nad ydynt wedi troi’n 19 oed eto ers 21 Mawrth.

17. Gwneir addasiad tebyg i’r amcangyfrifon canol blwyddyn i heneiddio’r poblogaethau hyn o 30 Mehefin, dyddiad yr amcangyfrifon canol blwyddyn, i 31 Awst. Wedyn rydym yn cyfrifo’r newid canrannol rhwng pob amcangyfrif canol blwyddyn addasedig ac amcangyfrif canol blwyddyn addasedig 2021 ar gyfer pob oedran. Cymhwysir y newidiadau canrannol hyn i’r boblogaeth y tu allan i’r tymor addasedig i gynhyrchu amcangyfrif poblogaeth y tu allan i’r tymor fel yr oedd ar 31 Awst ar gyfer pob blwyddyn.

Cam 3: Cyfrifo’r cyfraddau cyfranogiad cychwynnol a’r mesur HEIP

18. Ar gyfer pob oedran rhwng 17 a 30 oed rydym yn cyfrifo’r gyfradd cyfranogiad cychwynnol ar gyfer yr oedran hwnnw trwy rannu nifer y cyfranogwyr cychwynnol o’r oedran hwnnw o gam 1 â’r boblogaeth a amcangyfrifir o’r oedran hwnnw o gam 2.

19. Cyfrifir y mesur HEIP trwy symio’r cyfraddau cyfranogiad cychwynnol ar gyfer pob oedran. Y syniad y tu ôl i hyn yw bod pob cyfradd cyfranogiad unigol yn cynrychioli’r tebygolrwydd y bydd rhywun o’r oedran hwnnw’n cyfranogi mewn AU am y tro cyntaf a thrwy symio’r rhain rydych yn adeiladu’r tebygolrwydd y bydd rhywun yn cyfranogi mewn AU rhwng 17 a 30 oed os yw’r tebygolrwyddau hyn yn aros yr un fath.

20. Er mwyn eglurder, nid yw’r mesur HEIP yr un fath â rhannu cyfanswm y cyfranogwyr cychwynnol 17 i 30 oed mewn blwyddyn academaidd â holl boblogaeth Cymru o’r oedrannau hynny. Byddai hyn yn cynhyrchu ffigwr is o lawer a byddai’n tybio bod rhywun yr un mor debygol o fod yn gyfranogwr cychwynnol mewn AU mewn unrhyw oedran, nad yw’n wir.

Cyfyngiadau

21. Mae nifer o gyfyngiadau i’w nodi mewn perthynas â’r cyfrifiad o’r mesur HEIP a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn.
a.) Nid yw cyfranogiad cychwynnol mewn AU trwy astudiaethau nas cesglir yng nghofnodion HESA na LLWR yn cael eu cynnwys yn y mesur hwn. Byddai hyn yn cynnwys unrhyw fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru sy’n astudio ar lefel AU mewn colegau addysg bellach yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, rhai sefydliadau AU annibynnol yn y DU neu mewn darparwyr addysg uwch y tu allan i’r DU.
Pe bai rhywun wedi ennill cymhwyster ar lefel AU trwy’r llwybrau uchod yna ni fyddai unrhyw astudiaethau AU pellach a gofnodwyd yn nata HESA neu LLWR yn cael eu cynnwys yn y mesur ychwaith gan y byddent yn cael eu hepgor o ganlyniad i fod yn meddu ar gymhwyster ar lefel AU ar adeg mynediad.
Gallai’r mater hwn gael ei leihau trwy gael ffynonellau data ychwanegol sy’n cwmpasu’r opsiynau eraill hyn ar gyfer astudiaethau ar lefel AU.
b.) Gan nad yw data HESA a data LLWR yn cael eu cysylltu â’i gilydd, byddai’n bosibl i rywun ymddangos fel cyfranogwr cychwynnol yn y ddau pe baent wedi cyfranogi ond heb ennill cymhwyster ar lefel AU. Er enghraifft, gallai rhywun ymddangos yn nata HESA ond ymadael cyn pryd ar ôl blwyddyn heb ennill unrhyw gymwysterau. Gallent ymddangos yn nata LLWR wedyn a dal i gael eu hystyried yn gyfranogwr cychwynnol. Byddai’r mater hwn yn cael ei leihau trwy gysylltu’r setiau data cyn chwilio am gyfranogwyr cychwynnol.
c.) Mae’r mesur yn tybio y bydd y cyfraddau cyfranogiad cychwynnol ar gyfer pob oedran yn parhau; fodd bynnag, nid yw’n rhoi cyfrif am wahaniaethau mewn cyfranogiad rhwng carfannau. Er enghraifft, gallai lefelau cyfranogiad y carfannau o bobl 18 oed yn 2022/23 pan fyddant yn cyrraedd 30 oed fod yn wahanol i rai’r bobl sy’n 30 yn 2022/23 am amrywiaeth o resymau gan gynnwys newidiadau polisi a’r dirwedd economaidd ehangach.
d.) Er bod yr amcangyfrifon poblogaeth a ddefnyddir ar gyfer yr holl boblogaethau i gyd yn ystadegau swyddogol achrededig, fe wnaed nifer o dybiaethau i addasu’r rhain i ateb dibenion y mesur hwn.
Mae’r addasiad cyntaf yn un i heneiddio’r amcangyfrifon i 31 Awst fel bod yr oedran yn debyg i’r oedran a ddefnyddir o’r data myfyrwyr a bod yr oedran yn berthnasol i’r blynyddoedd academaidd. Fodd bynnag, mae’r addasiad hwn yn defnyddio’r dybiaeth bod dyddiadau geni wedi eu dosbarthu’n gyfartal, nad yw’n wir.
Mae’r ail addasiad yn un i ‘dyfu’r’ boblogaeth y tu allan i’r tymor addasedig i greu cyfres amser sy’n seiliedig ar y newidiadau canrannol a welir yn yr amcangyfrifon canol blwyddyn addasedig. Mae hyn yn tybio bod y boblogaeth canol blwyddyn a’r boblogaeth y tu allan i’r tymor yn newid yn ôl yr un gyfradd.
e.) Nid yw’r gwledydd y mae myfyrwyr yn hanu ohonynt yn aros yr un fath. Mae hyn yn golygu nad ydym yn dilyn grŵp penodol o bobl ac yn amcangyfrif faint ohonynt sy’n cyfranogi mewn AU. Yn lle hynny mae’r boblogaeth a gaiff ei hystyried wastad yn newid ac effeithir ar y boblogaeth gan fudo i mewn ac allan.
Er enghraifft, gallai rhywun fyw yng Nghymru nes eu bod yn 24 cyn symud i Loegr, a phe bai’r person yma wedyn yn cyfranogi mewn AU am y tro cyntaf pan fo’n 25 ni fyddai’n cael ei gynnwys yn y cyfrifiad gan y byddai’n hanu o Loegr ar yr adeg honno. I’r gwrthwyneb, byddai rhywun a fu’n byw yn Lloegr cyn symud i Gymru a chyfranogi mewn AU am y tro cyntaf wedyn yn cael ei gynnwys.
f.) Gan nad yw’r fethodoleg hon yn dilyn carfannau penodol o bobl, mae’n anodd cynhyrchu ffigyrau dibynadwy ar nodweddion manylach. Mae hyn yn arbennig o anodd os yw nodweddion yn newid dros amser, er enghraifft pa un a yw rhywun yn byw mewn ardal fwy amddifadus, neu os yw’n anodd cael amcangyfrifon poblogaeth cywir.
g.) Yn niffyg dynodwr cyffredinol i gysylltu cofnodion, defnyddir algorithmau i gysylltu cofnodion myfyrwyr HESA a bydd hyn yn golygu y gwneir rhai cysylltiadau anghywir, neu y gallai cysylltiadau go iawn gael eu colli. Yn achos gwneud cysylltiadau anghywir, yna gallai cyfranogiad cychwynnol unigolyn gael eu ddiystyru gan y byddwn yn credu eu bod wedi cyfranogi mewn AU yn flaenorol. Yn achos colli cysylltiad go iawn yna gallai unigolyn gael ei gyfrif fel cyfranogwr cychwynnol ddwywaith, er y dylai hyn gael ei leihau i’r eithaf trwy hepgor y rhai â chymhwyster blaenorol ar lefel AU a gofnodwyd yn y data.
Gall y cysylltiadau anghywir hyn a wneir neu’r cysylltiadau cywir hyn a gollir ddigwydd oherwydd materion ansawdd data, megis cofnodi gwybodaeth anghywir neu gyfnewid digidau mewn dyddiadau geni. Gallant hefyd ddigwydd pan fo data rhywun yn gywir ond yn amrywio dros amser, er enghraifft defnyddio amrywiadau gwahanol ar eu henw neu os yw rhywun yn newid ei enw.

Canlyniadau

22. Y mesur HEIP yw swm y cyfraddau cyfranogiad cychwynnol ar gyfer pob oedran o 17 i 30 oed mewn blwyddyn academaidd benodol. Nid canran y bobl 17 i 30 oed sy’n cyfranogi mewn AU yn y flwyddyn benodol honno yw’r mesur HEIP. Yn hytrach, amcangyfrif o’r tebygolrwydd y bydd person sy’n hanu o Gymru’n cyfranogi mewn AU erbyn eu bod yn 30 yn seiliedig ar y cyfraddau cyfranogiad cychwynnol yn y flwyddyn honno yw’r mesur HEIP.

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell yn dangos y mesur HEIP yn cynyddu o 2017/18 i 2020/21 cyn gostwng yn y ddwy flynedd ganlynol.
Ffigur 1: Mesur Cyfranogiad Cychwynnol mewn Addysg Uwch – 2016/17 i 2022/23


23. Roedd y mesur HEIP yn 2022/23 yn 54.6%. Golyga hyn fod y tebygolrwydd amcangyfrifedig y byddai person sy’n hanu o Gymru’n cyfranogi mewn AU erbyn eu bod yn cyrraedd 30 oed yn 54.6% yn seiliedig ar y cyfraddau cyfranogiad cychwynnol ar gyfer pob oedran o 17 i 30 yn 2022/23.

24. Ar ôl gostyngiad rhwng 2016/17 a 2017/18, fe gynyddodd y mesur HEIP bob blwyddyn rhwng 2017/18 a 2020/21 gan gyrraedd uchafbwynt o 58.9%. O’r brig hwn yn 2020/21 bu gostyngiad yn y ddwy flynedd ganlynol i lawr i’r ffigwr o 54.6% yn 2022/23. Bydd pandemig Covid-19 wedi bod yn ffactor ar y lefelau cyfranogiad yn y blynyddoedd mwyaf diweddar.

Yn Ôl Oedran

Tabl 1: Canrannau mynediad cychwynnol yn ôl oedran – 2016/17 i 2022/23

Oedran2016/172017/182018/192019/202020/212021/222022/23
170.8%0.4%0.5%0.6%0.3%0.2%0.2%
1827.5%27.4%27.0%28.1%28.4%29.5%29.6%
1910.4%10.1%10.3%10.7%11.0%10.2%9.4%
203.4%3.5%3.5%3.5%3.8%3.4%3.3%
211.9%1.9%2.2%2.1%2.4%2.2%1.8%
221.4%1.5%1.6%1.6%2.0%1.7%1.6%
231.2%1.1%1.3%1.5%1.7%1.5%1.3%
241.2%1.2%1.3%1.4%1.6%1.3%1.2%
251.1%1.1%1.2%1.3%1.5%1.3%1.1%
261.0%1.0%1.2%1.3%1.4%1.2%1.0%
271.0%1.0%1.1%1.3%1.3%1.2%1.2%
281.0%0.9%1.1%1.1%1.3%1.1%1.0%
291.1%0.9%0.9%1.1%1.2%1.1%0.9%
300.9%0.8%1.0%1.1%1.2%1.0%1.0%
Mesur HEIP53.9%52.8%54.2%56.6%58.9%56.8%54.6%

25. Daw’r cyfraniad mwyaf at y mesur HEIP gan bobl 18 ac 19 oed. Yn 2022/23 mae’r cyfraddau cyfranogiad cychwynnol ar gyfer y ddau oedran hyn yn cyfrannu 38.9 pwynt canran at y mesur HEIP ar y cyfan o 54.6%.

26. Mae cyfradd cyfranogiad cychwynnol pobl 18 oed wedi cynyddu ym mhob blwyddyn ers 2018/19.

27. Ar gyfer oedrannau eraill fe gynyddodd y cyfraddau cyfranogiad cychwynnol yn gyffredinol rhwng 2017/18 a 2020/21, cyn gostwng yn y ddwy flynedd ganlynol.

Yn Ôl Rhyw

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart llinell yn dangos y mesur HEIP ar gyfer gwrywod a benywod. Mae’r ddau’n dilyn yr un patrwm â’r mesur HEIP cyffredinol ond mae’r ffigyrau’n sylweddol uwch ar gyfer benywod na gwrywod.
Ffigur 2: Mesur Cyfranogiad Cychwynnol mewn Addysg Uwch yn ôl rhyw – 2016/17 i 2022/23

28. Fel gyda’r mesur HEIP cyffredinol, fe ostyngodd y mesur HEIP ar gyfer gwrywod a benywod rhwng 2016/17 a 2017/18 cyn cynyddu bob blwyddyn tan 2020/21. Wedyn bu gostyngiad yn y naill a’r llall o’r ddwy flynedd ganlynol.

29. Mae’r mesur HEIP yn sylweddol uwch ar gyfer benywod na gwrywod, gyda’r bwlch yn cynyddu ar draws y cyfnod. Yn 2016/17 roedd gwahaniaeth o 16.5 pwynt canran o’i gymharu â gwahaniaeth o 21.6 pwynt canran yn 2022/23.

30. Cyrhaeddodd y mesur HEIP ar gyfer benywod frig o 69.8% yn 2020/21 o’i gymharu â 48.3% ar gyfer gwrywod yn yr un flwyddyn. Ers hynny mae’r HEIP wedi gostwng i 65.3% a 43.7% ar gyfer benywod a gwrywod yn y drefn honno yn 2022/23.

Yn Ôl Oedran a Rhyw

Tabl 2: Canrannau mynediad cychwynnol yn ôl oedran a rhyw – 2021/22 a 2022/23

OedranBenywod 2021/22Benywod 2022/23Gwrywod 2021/22Gwrywod 2022/23
170.2%0.3%0.1%0.2%
1835.9%35.1%23.5%24.0%
1911.8%11.4%8.5%7.4%
203.9%3.7%2.9%2.8%
212.4%2.1%2.0%1.5%
222.0%1.8%1.4%1.3%
231.9%1.6%1.1%1.0%
241.7%1.5%1.0%0.9%
251.6%1.4%1.0%0.8%
261.4%1.4%0.9%0.7%
271.4%1.4%0.9%1.1%
281.3%1.3%0.8%0.7%
291.4%1.1%0.9%0.7%
301.2%1.2%0.8%0.8%
Mesur HEIP68.0%65.3%45.8%43.7%

31. Dengys Tabl 2 fod y cyfraddau cyfranogiad cychwynnol yn uwch ar gyfer benywod na gwrywod ym mhob oedran rhwng 17 a 30 oed ar gyfer 2021/22 a 2022/23. Felly y mae hi hefyd wrth edrych yn ôl at 2016/17, ac eithrio pobl 17 oed rhwng 2017/18 a 2019/20 pan oedd y cyfraddau’n gyfartal.

32. Fe gynyddodd y gyfradd cyfranogiad cychwynnol cyffredinol ar gyfer pobl 18 oed rhwng 2021/22 a 2022/23; fodd bynnag, wrth edrych ar y mesur yn ôl rhyw, dim ond ar gyfer gwrywod yr oedd hyn yn wir. Fe ostyngodd y gyfradd cyfranogiad cychwynnol ar gyfer benywod 18 oed 0.8 pwynt canran rhwng 2021/22 a 2022/23 tra bo cynnydd o 0.5 pwynt canran wedi bod ar gyfer gwrywod 18 oed.

Mesurau cyfranogiad yng ngweddill y DU

33. Nid oes un mesur o gyfranogiad ledled y DU sy’n ei gwneud hi’n anodd cymharu. Mae’r adran hon yn ymdrin â’r gwahaniaethau a thebygrwydd mewn mesurau cyfranogiad eraill ledled y DU.

Lloegr

34. Mae gan yr Adran Addysg yn Lloegr (DfE) gyfres ystadegol a elwir yn ‘Participation measures in higher education’. Roedd y fethodoleg ar gyfer y gyfres hon yn debyg i’r hyn a ddefnyddiwyd yma hyd at ddatganiad ystadegol yr Adran Addysg yn Lloegr ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20.

35. Cyflwynwyd methodoleg newydd o’r enw’r Mesur Cyfranogiad mewn Addysg Uwch sy’n seiliedig ar Garfannau (CHEP) ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21. Yn lle amcangyfrif cyfranogiad yn y dyfodol erbyn 30 oed gan ddefnyddio lefelau cyfranogiad cyfredol fel y mae’r fethodoleg HEIP yn ei wneud, mae’r CHEP yn tracio carfannau o ddisgyblion ysgol i fesur cyfranogiad.

36. Er bod CHEP yn dra gwahanol i fethodoleg HEIP, mae datganiad 2021/22 yn cynnwys adran ‘Rhagweld cyfranogiad mewn AU yn y dyfodol’ sy’n defnyddio’r data sy’n seiliedig ar garfannau i gynhyrchu amcanestyniad sy’n debycach i sut y llunnir y mesur HEIP.

37. Roedd y rhesymeg dros newid y fethodoleg fel a ganlyn: er bod y mesur HEIP yn cynhyrchu mesur amserol, roedd rhai cyfyngiadau hysbys megis:

  • amcangyfrif cyfradd gyfranogiad uwch na’r gyfradd go iawn ar gyfer carfan fynediad benodol pan geir twf cyson mewn cyfraddau mynediad ar gyfer grwpiau oedran iau.
  • peidio â gallu creu ffigyrau dibynadwy yn ôl rhanbarth a demograffeg allweddol

38. Roedd yr Adran Addysg yn Lloegr yn teimlo bod y fethodoleg CHEP yn lleihau effaith llifoedd mudo i mewn ac allan dros amser ac na fyddai diwygiadau i amcangyfrifon poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n digwydd yn dilyn pob Cyfrifiad yn effeithio arni ychwaith.

39. Y fantais arall oedd y byddai’r dull CHEP yn eu galluogi i ddadansoddi cyfranogiad yn ôl nodweddion disgyblion a gymerir o’r cyfrifiad ysgolion megis dadansoddiadau yn ôl rhywedd a rhanbarth yr ysgol a fynychir.

40. Un o anfanteision y fethodoleg newydd yw ei bod yn llai amserol na’r fethodoleg HEIP gan ei bod yn golygu bod angen i bob carfan ysgol 15 oed gyrraedd oedran penodol cyn adrodd arni. Mewn geiriau eraill, ni fyddech ond yn adrodd ar y ganran sy’n cyfranogi mewn AU erbyn 25 oed ar gyfer y rhai sy’n 15 oed ym mlwyddyn academaidd 2024/25, unwaith y mae data blwyddyn academaidd 2034/35 ar gael.

Yr Alban

41. Mae Cyngor Cyllido’r Alban (SFC) yn cynnwys Cyfradd Cyfranogiad Cychwynnol mewn Addysg Uwch (HEIPR) yn nhablau cefndir eu cyhoeddiad ystadegol ‘HE Students and Qualifiers at Scottish Institutions’.

42. Cynhyrchir y gyfradd hon gan ddefnyddio methodoleg debyg i’r hyn a gyflwynwyd ar gyfer Cymru yn y cyhoeddiad hwn, er y bydd gwahaniaethau yn yr union fethodoleg ar gyfer sut y caiff cyfranogiad cychwynnol ei adnabod. Un gwahaniaeth yw ei bod yn cwmpasu’r rhai rhwng 16 a 30 oed yn hytrach na rhwng 17 a 30.

43. Un tebygrwydd i’w nodi yw bod y mesur HEIPR ar gyfer yr Alban hefyd yn cyrraedd brig yn 2020/21. Fodd bynnag, yn wahanol i’r mesur HEIP ar gyfer Cymru, ar ôl gostwng yn 2021/22 fe gynyddodd eto wedyn yn 2022/23.

Gogledd Iwerddon

44. Mae Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) wedi cynhyrchu ‘Age Participation Index for Northern Ireland’ ar gyfer y cyfnod rhwng 1998/99 a 2021/22. Mae hwn yn nodi nifer y newydd-ddyfodiaid ifanc (o dan 21 oed) sy’n hanu o Ogledd Iwerddon a ymunodd ag Addysg Uwch amser llawn yn y DU neu yng Ngweriniaeth Iwerddon fel canran o’r boblogaeth 18 oed yng Ngogledd Iwerddon.

Datblygiadau yn y dyfodol

45. Bydd unrhyw adborth a geir yn helpu i gyfarwyddo sut y gellid gwella’r mesur HEIP. Bydd datblygiadau’n cael eu goleuo gan y trafodaethau yr ydym yn eu cael gyda’r rhai sydd â diddordeb yn y maes hwn, ond mae datblygiadau posibl yn cynnwys:

  • Cynnwys mwy o weithgarwch AU trwy gael data ar gyfranogwyr cychwynnol sy’n hanu o Gymru sy’n astudio ar lefel AU mewn Darparwyr Addysg Bellach yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
  • Ymchwilio i weld a fyddai’n bosibl adrodd yn gadarn ar ystod ehangach o nodweddion, er enghraifft ethnigrwydd, anabledd a byw mewn ardaloedd mwy amddifadus.
  • Ymchwilio i weld a oes posibilrwydd o gynhyrchu cyfraddau cyfranogiad cychwynnol gan ddefnyddio methodoleg sy’n seiliedig ar garfannau fel y mae’r Adran Addysg yn ei wneud ar gyfer Lloegr. Pan ddechreuwyd y gwaith ar y mesur HEIP hwn yng Nghyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) nid oedd methodoleg a oedd yn seiliedig ar garfannau’n ddichonadwy oherwydd diffyg argaeledd data hydredol. Fodd bynnag. gallai sefydlu Medr ddarparu cyfleoedd newydd.
  • Ystyried sut y gellid addasu’r mesur ar gyfer y sector addysg drydyddol ehangach yn hytrach na chanolbwyntio ar AU yn unig.

Sta/Medr/05/2025: Mesur Cyfranogiad Cychwynnol mewn Addysg Uwch Cymru: 2016/17 i 2022/23

Cyfeirnod ystadegau: Sta/Medr/05/2025

Dyddiad:  27 Chwefror 2025

Dynodiad:  Ystadegau swyddogol sydd wrthi’n cael eu datblygu

E-bost: [email protected]

Mae’r cyhoeddiad hwn yn cyflwyno’r fethodoleg a’r canlyniadau ar gyfer mesur Cyfranogiad Cychwynnol mewn Addysg Uwch (HEIP) i Gymru. Mae’r mesur hwn yn amcangyfrif y tebygolrwydd y bydd person sy’n hanu o Gymru’n cyfranogi mewn addysg uwch erbyn eu bod yn 30 oed. Mae hyn yn cynnwys y dadansoddiad o gyfranogiad cychwynnol yn ôl oedran a’r gwahaniaethau rhwng gwrywod a benywod.

Gan mai dyma’r tro cyntaf i Medr gyhoeddi’r mesur HEIP mae’r ystadegau hyn wedi cael eu labelu’n Ystadegau Swyddogol Sydd Wrthi’n Cael Eu Datblygu tra’r ydym yn datblygu’r mesur ymhellach i ddiwallu anghenion defnyddwyr. I helpu gyda hyn, byddai unrhyw adborth ar y fethodoleg neu gynnwys yr allbwn hwn yn cael ei groesawu. I ddarparu unrhyw adborth cysylltwch â ni yn [email protected].

Sta/Medr/05/2025 Mesur Cyfranogiad Cychwynnol mewn Addysg Uwch Cymru: 2016/17 i 2022/23

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Sta/Medr/04/2025: Dilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol, Awst 2017 i Ionawr 2025

Crynodeb

Mae’r dadansoddiad hwn yn adeiladu ar yr hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol fel rhan o erthygl ystadegol Llywodraeth Cymru ‘Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (Covid-19): Awst 2020 i Orffennaf 2021‘. Ei nod yw darparu darlun wedi’i ddiweddaru o ddilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol.

Mae’r carfannau Blwyddyn 11 yn y dadansoddiad hwn yn seiliedig ar yr holl ddysgwyr a oedd wedi eu cofrestru ym Mlwyddyn 11 mewn ysgolion uwchradd, canol ac arbennig a gynhelir yng Nghymru.

Y cyrchfannau addysg drydyddol a gaiff eu hystyried yn y dadansoddiad hwn yw darpariaeth a gyllidir yn gyhoeddus yn y chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir, mewn colegau addysg bellach (heb gynnwys dysgu oedolion yn y gymuned) ac mewn darparwyr dysgu seiliedig-ar-waith yng Nghymru. Hefyd wedi eu cynnwys mae dysgu ôl-16 mewn ysgolion arbennig a gynhelir a rhaglenni cyflogadwyedd Twf Swyddi Cymru+ / Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru.

Nid yw’r dadansoddiad hwn yn cynnwys cyrchfannau trydyddol mewn ysgolion annibynnol, darparwyr dysgu annibynnol neu arbenigol eraill, addysg drydyddol y tu allan i Gymru nac unrhyw ddarpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) ôl-16 arall.

Prif bwyntiau
  • Roedd cyfran dros dro’r dysgwyr a aeth ymlaen o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol yn 90% yn 2024/25, a hithau’n ddigyfnewid ers y tair blynedd flaenorol.
  • Mae nifer y dysgwyr sy’n mynd ymlaen wedi cynyddu’n gyson ers 2018/19.
  • O’r dysgwyr a aeth ymlaen o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol:
    • Mae cyfran gynyddol yn mynd ymlaen i golegau addysg bellach, gyda gostyngiad cyfatebol yn y rhai sy’n mynd ymlaen i unedau chweched dosbarth.
    • Bu gostyngiadau diweddar yng nghyfran y dysgwyr sy’n astudio ar lefel 3 (gan gynnwys safon Uwch Gyfrannol)..
  • Ceir gwahaniaethau mewn dilyniant rhwng gwahanol grwpiau o ddysgwyr. Roedd y gyfran a aeth ymlaen yn uwch ar gyfer dysgwyr sydd:
    • Yn fenywaidd
    • Yn byw yn y cymdogaethau lleiaf amddifadus
    • Ddim yn gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim
    • Ddim yn cael mynediad at ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol
    • O grwpiau ethnig Asiaidd, Asiaidd Prydeinig, Asiaidd Cymreig
    • Yn gymwys neu’n rhugl ar ôl caffael Saesneg fel iaith ychwanegol
    • Yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ym Mlwyddyn 11, neu’n rhugl yn y Gymraeg.
  • Roedd amrywiad sylweddol yn y math o ddarpariaeth a lefel y ddarpariaeth addysg drydyddol rhwng gwahanol grwpiau o ddysgwyr ac yn ddaearyddol.

Gallwch ddod o hyd i’r data llawn yn y PDF Sta/Medr/04/2025.

Ansawdd a methodoleg

Ffynonellau data

Y ffynonellau data a ddefnyddiwyd yn y datganiad hwn yw:

  • Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD): casgliad electronig o ddata ar lefel disgyblion ac ysgolion a ddarperir i Lywodraeth Cymru gan yr holl ysgolion cynradd, canol, uwchradd, meithrin ac arbennig yn y sector a gynhelir. Cesglir y data yn seiliedig ar ddyddiad cyfrifiad ym mis Ionawr.
  • Casgliad Data Ôl-16: bob hydref, mae’n ofynnol i’r holl ysgolion a gynhelir sydd â chweched dosbarth adrodd ar yr holl raglenni a gweithgareddau dysgu a gyflawnwyd gan ddisgyblion yn y flwyddyn academaidd flaenorol.
  • Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR): data ar addysg bellach, dysgu seiliedig-ar-waith a dysgu oedolion yn y gymuned. Fe’i cesglir ar sail ‘dreigl’ trwy gydol y flwyddyn gyda dyddiadau cau ystadegol rheolaidd. Hon yw’r ffynhonnell ystadegau swyddogol yng Nghymru ar gyfer y sectorau hyn.
  • Casgliad data gwybodaeth reoli wythnosol am bresenoldeb mewn ysgolion: fe ddechreuwyd casglu data wythnosol a echdynnir yn uniongyrchol o systemau gwybodaeth reoli ysgolion yn hydref 2020. Cesglir y data gan yr holl ysgolion meithrin, cynradd, canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir ac unrhyw unedau cyfeirio disgyblion sydd â systemau gwybodaeth reoli o’r fath ac sy’n mynd ati’n rheolaidd i gofnodi eu gwybodaeth yn electronig.

Methodoleg

Y prif newidiadau i’r fethodoleg a ddefnyddiwyd yn y dadansoddiad a gyhoeddwyd yn flaenorol yn erthygl ystadegol Llywodraeth Cymru ‘Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (Covid-19): Awst 2020 i Orffennaf 2021‘ yw:

  • Ar gyfer blynyddoedd academaidd 2022/23 a blaenorol, defnyddir setiau data terfynol i adnabod cyrchfannau addysg drydyddol yn hytrach na setiau data yn ystod y flwyddyn a allai newid ymhellach.
  • Defnyddir y Casgliad Data Ôl-16 ar gyfer chweched dosbarth mewn ysgolion hyd y gellir, gan ddarparu gwybodaeth am y math o raglen ddysgu sy’n cael ei hastudio. Defnyddir gwybodaeth reoli wythnosol am bresenoldeb mewn ysgolion ar gyfer 2023/24 a 2024/25 gan nad yw’r Casgliad Data Ôl-16 ar gael ar gyfer y blynyddoedd hyn eto.
  • Adroddir ar gyrchfannau dysgu ôl-16 mewn ysgolion arbennig a gynhelir.

Diffinnir carfannau blwyddyn 11 fel unrhyw ddysgwr ar y gofrestr mewn ysgol uwchradd, ganol neu arbennig a gynhelir yng Nghymru ar ddyddiad y cyfrifiad CYBLD.

Ar gyfer blynyddoedd academaidd 2017/18 i 2022/23, defnyddir y Casgliad Data Ôl-16 a LLWR i adnabod rhaglenni astudio addysg drydyddol a oedd yn weithredol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Mae rhaglenni sydd wedi eu cynnwys yn y dadansoddiad hwn yn cynnwys y dysgu canlynol a gyllidir yn gyhoeddus:

  • Unrhyw raglen astudio yn y chweched dosbarth mewn ysgolion.
  • Addysg bellach a wneir mewn colegau addysg bellach.
  • Dysgu seiliedig-ar-waith, a wneir naill ai mewn colegau addysg bellach neu ddarparwyr hyfforddiant preifat gan gynnwys prentisiaethau, Twf Swyddi Cymru+ a hyfforddeiaethau.

Defnyddir data CYBLD hefyd i adnabod unrhyw ddysgwyr sy’n gwneud darpariaeth ôl-16 mewn ysgolion arbennig a gynhelir.

Ar gyfer blynyddoedd academaidd 2023/24 a 2024/25, defnyddir data LLWR fel uchod. Nid yw’r Casgliad Data Ol-16 ar gael ar gyfer y blynyddoedd yma ar hyn o bryd, felly defnyddir gwybodaeth reoli wythnosol am bresenoldeb mewn ysgolion i adnabod dysgwyr yn y chweched dosbarth mewn ysgolion ac sy’n gwneud darpariaeth ôl-16 mewn ysgolion arbennig a gynhelir. Ceir nifer o gyfyngiadau o ganlyniad i ddefnyddio’r wybodaeth reoli hon.

Yn seiliedig ar gymariaethau ar gyfer blynyddoedd academaidd 2021/22 a 2022/23, mae’r wybodaeth reoli wythnosol am bresenoldeb mewn ysgolion yn goramcangyfrif dilyniant ar y cyfan o oddeutu hanner pwynt canran o’i gymharu â’r Casgliad Data Ôl-16. Mae hefyd yn achosi goramcangyfrifon yng nghyfran y dysgwyr sy’n newid eu rhaglen addysg drydyddol ac yn gadael eu rhaglen addysg drydyddol heb ei chwblhau.

O’r dysgwyr a aeth ymlaen, caiff y cyfrannau sy’n mynychu unedau chweched dosbarth eu goramcangyfrif o 1.5 i 3 phwynt canran, gyda thanamcangyfrif yn y cyfrannau sy’n mynychu colegau AB.

Wedyn mae carfannau Blwyddyn 11 yn cael eu cysylltu â’r amryw setiau data sy’n cynnwys gwybodaeth am addysg drydyddol – i ddechrau am y Nifer Disgyblion Unigryw a Niferoedd Dysgwyr Unigryw, gyda chysylltedd pellach â chofnodion heb eu paru yn seiliedig ar enwau a dyddiadau geni.

Cyfyngiadau

Mae ffigyrau ar gyfer 2024/25 yn rhai dros dro gan eu bod yn seiliedig ar ddata yn ystod y flwyddyn. Tynnwyd data rhaglenni astudio addysg drydyddol o ddyddiad cau ystadegol mis Ionawr 2025 ar gyfer LLWR. Efallai na fydd y data’n rhoi adlewyrchiad llawn o’r holl ddysgu hyd at yr adeg y cymerwyd y data ac fe allai newid yn y dyfodol. Nid yw data ar gyfer gweddill y flwyddyn academaidd wedi ei gynnwys, a allai effeithio ar ystadegau ar gyfer 2024/25. Gall nifer gymharol fach o ddysgwyr ddechrau eu rhaglen astudio addysg drydyddol gyntaf ar ôl mis Ionawr, yn fwyaf cyffredin mewn dysgu seiliedig-ar-waith.

Ar gyfer 2024/25, mae gwybodaeth reoli wythnosol am bresenoldeb mewn ysgolion ar gael hyd at ddiwedd tymor y gaeaf.

Mae ffigyrau ar gyfer 2023/24 yn rhai dros dro hefyd gan y bydd y Casgliad Data Ôl-16 yn disodli’r wybodaeth reoli wythnosol am bresenoldeb mewn ysgolion unwaith y bydd ar gael.

Nid yw’r wybodaeth reoli wythnosol am bresenoldeb mewn ysgolion wedi bod trwy’r un lefel o broses sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol achrededig ac fe allai’r data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Nid yw’n darparu unrhyw wybodaeth am raglen astudio’r dysgwr.

Nid yw’r dadansoddiad hwn yn cynnwys cyrchfannau addysg drydyddol y tu allan i Gymru, nac unrhyw addysg drydyddol annibynnol nac arbenigol. Mae’n debygol yr effeithir ar gyfran y dysgwyr sy’n mynd ymlaen o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol mewn awdurdodau lleol sy’n ffinio â Lloegr (Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Sir Fynwy).

Diffiniadau

Mae’r cyrchfannau addysg drydyddol yr adroddir arnynt yn y dadansoddiad hwn yn seiliedig ar y rhaglen astudio gyntaf a wnaed gan y dysgwr. Wrth adnabod rhaglen gyntaf dysgwr caiff y rhaglenni canlynol eu blaenoriaethu dros raglenni AB eraill: Safon UG, Safon U2, galwedigaethol, prentisiaethau a Twf Swyddi Cymru+/hyfforddeiaethau. Y rhaglenni mwyaf cyffredin y cânt eu blaenoriaethu drostynt yw cymwysterau TGAU sy’n aml yn cael eu cymryd fel cyrsiau atodol.

Dim ond cofrestriad i’r flwyddyn academaidd yn union ar ôl Blwyddyn 11 a gynhwysir. Nid yw dysgwyr a ddechreuodd addysg drydyddol mewn blwyddyn academaidd hwyrach yn cael eu cynnwys yn y dadansoddiad hwn.

Lle defnyddir gwybodaeth reoli wythnosol am bresenoldeb mewn ysgolion, ystyrir bod dysgwyr yn dal wedi eu cofrestru mewn addysg drydyddol os oes ganddynt gofnod presenoldeb neu absenoldeb awdurdodedig o fewn 2 wythnos i’r dyddiadau canlynol:

  • 31 Mai 2024 ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24, gan bod y data presenoldeb yn dod yn fwy annibynadwy yn ystod cyfnod arholiadau’r haf.
  • 20 Rhagfyr 2024 ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25, data terfynol tymor y gaeaf gan mai dim ond ar gyfer rhan o’r flwyddyn academaidd y mae data ar gael.

Cymerir y set ddata presenoldeb mewn ysgolion yn uniongyrchol o Systemau Gwybodaeth Reoli ysgolion. Mewn rhai achosion mae dysgwyr i’w gweld fel pe bai eu cofrestriad wedi cael ei dreiglo’n awtomatig o Flwyddyn 11 i mewn i Flwyddyn 12 pan nad felly yr oedd hi. Oherwydd hyn nid yw dysgwr yn cael ei restru fel un a gofrestrwyd dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os nad oedd wedi ei restru fel dysgwr wedi ei gofrestru ar ôl 6 Medi,
  • ac os nad oedd wedi mynychu’r ysgol neu wedi bod ag absenoldeb cydnabyddedig penodol cyn 6 Medi,
  • ac os mai yn yr un ysgol y cafodd ei gofrestru ym Mlwyddyn 11.

Mae’r holl ddadansoddi yn ôl nodweddion yn seiliedig ar y rhai a gofnodwyd ar gyfer y dysgwr fel rhan o’i gofnod CYBLD Blwyddyn 11.

Mae degradd amddifadedd cymdogaeth gartref y dysgwr yn seiliedig ar y prif fynegai ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019.

Mae cyrchfannau trydyddol ‘safon UG’ yma’n cynnwys rhaglenni safon UG a rhaglenni cyfwerth â safon UG. Mae rhaglenni cyfwerth â safon UG yn cynnwys cymysgedd o gymwysterau safon UG a galwedigaethol, er enghraifft 2 gymhwyster safon UG a Thystysgrif Genedlaethol BTEC.

Talgrynnu a pheidio â dangos

Mae’r holl ffigyrau wedi eu talgrynnu i’r 5 agosaf. Ni ddangosir niferoedd sy’n llai na 5. Mae canrannau wedi eu talgrynnu i’r rhif cyfan agosaf. Ni ddangosir canrannau sy’n seiliedig ar enwadur sy’n llai na 23.

Cyfrifir gwahaniaethau rhwng gwerthoedd gan ddefnyddio gwerthoedd heb eu talgrynnu, felly gall fod anghysonderau bychain pan gânt eu cymharu â’r ffigyrau wedi eu talgrynnu.

Datganiad cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Caiff ein harfer ystadegol ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy’n pennu’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai’r holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol ymlynu wrtho.

Caiff ein holl ystadegau ni eu cynhyrchu a’u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Caiff y rhain eu nodi yn ein Datganiad Cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae croeso i chi gysylltu â ni yn uniongyrchol gydag unrhyw sylwadau ynglŷn â sut yr ydym yn cyrraedd y safonau hyn.

Fel arall, gallwch gysylltu ag OSR trwy anfon neges e-bost i [email protected] neu drwy wefan OSR.

Dibynadwyedd

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn unol â’n Datganiad Cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a’n polisi ar weld ystadegau swyddogol cyn eu rhyddhau.

Ansawdd

Mae’r ystadegau yn y datganiad hwn wedi cael eu cynhyrchu i raddau helaeth o fersiynau terfynol o ffynonellau data gweinyddol cydnabyddedig a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau swyddogol ar addysg yng Nghymru. Ategwyd y rhain gan wybodaeth reoli wythnosol am bresenoldeb mewn ysgolion i ddarparu’r amcangyfrifon diweddaraf o ddilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol (ar gyfer blynyddoedd academaidd 2023/24 a 2024/25). Mae cyfyngiadau defnyddio’r wybodaeth reoli hon wedi cael eu hegluro ac mae’r amcangyfrifon hyn wedi cael eu nodi fel rhai dros dro.

Gwerth

Mae’r ystadegau swyddogol hyn sydd wrthi’n cael eu datblygu wedi eu bwriadu i gydymffurfio â’r Cod hyd y bo’n bosibl. Fe’u cynhyrchwyd yn gyflym mewn ymateb i alwadau am ddadansoddiad gwell o gyfranogiad mewn addysg drydyddol yng Nghymru.

Fe’u labelir yn ‘ystadegau swyddogol sydd wrthi’n cael eu datblygu’ i brofi a ydynt yn diwallu anghenion defnyddwyr i adlewyrchu’r ffaith nad yw’r fethodoleg yn benodedig ac y gellid ei datblygu ymhellach yn seiliedig ar adborth defnyddwyr. Byddem yn croesawu unrhyw sylw am ddefnyddioldeb yr ystadegau hyn. Cysylltwch â [email protected].

Dilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol, Awst 2017 i Ionawr 2025

Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol: Sta/Medr/04/2025

Dyddiad: 25 Chwefror 2025

Crynodeb: Dadansoddiad o gyrchfannau dysgwyr ar ôl gadael Blwyddyn 11, gyda dadansoddiadau yn ôl y math o addysg drydyddol, lefel astudio a nodweddion dysgwyr.

Sta/Medr/04/2025 Dilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol, Awst 2017 i Ionawr 2025

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Ymateb Medr ar ddatganiad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio addysg uwch a chyllid ychwanegol

Yn ei sylwadau ar ddatganiad y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ar ddiwygio addysg uwch a chyllid ychwanegol ar gyfer y sector yng Nghymru, dywedodd Simon Pirotte, Prif Weithredwr Medr:

“Mae prifysgolion ar draws y DU yn wynebu cyfnod ariannol eithriadol o heriol. Nid yw’r sefyllfa’n wahanol yng Nghymru.

“Rydym yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw am fuddsoddiad cyfalaf ychwanegol er mwyn helpu ein prifysgolion i fynd i’r afael â heriau allweddol fel cynnal a chadw ystadau, cynaliadwyedd amgylcheddol a thrawsnewid digidol. Bydd hefyd yn helpu i ddarparu cyfleusterau i alluogi profiad o ansawdd uchel i fyfyrwyr ac ymchwil sy’n flaenllaw yn y byd. Bydd Medr yn cadarnhau sut rydym yn bwriadu dyrannu’r buddsoddiad hwn ar draws prifysgolion Cymru yn yr wythnosau nesaf.

“Mae ein blaenoriaethau yn cynnwys gwarchod buddiannau dysgwyr a sicrhau bod y system addysg drydyddol yn bodloni anghenion Cymru nawr ac yn y dyfodol. Er mwyn ein helpu i gyflawni’r blaenoriaethau hyn, bydd Medr hefyd yn gweithio gyda darparwyr a rhanddeiliaid i ddatblygu trosolwg o’r galw am bynciau, ac o ddarpariaeth a dosbarthiad pynciau mewn addysg uwch ledled Cymru.

“Byddwn yn parhau i ymgysylltu’n agos â holl brifysgolion Cymru i ddeall eu safbwyntiau unigol a’r cynlluniau y maent yn eu rhoi ar waith i sicrhau eu cynaliadwyedd ariannol hirdymor ac ansawdd eu harlwy i fyfyrwyr.”

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Sta/Medr/03/2025: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Mai i Gorffennaf 2024

  • Dechreuodd 4,380 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch4 2023/24, o gymharu â 5,715 yn Ch4 2022/23.
  • Ymhlith y Prentisiaethau Sylfaen a’r Prentisiaethau Uwch y gwelwyd y gostyngiadau mwyaf o gymharu â Ch4 y flwyddyn gynt.
  • Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd yn Ch4 2023/24 hefo 2,005 raglenni dysgu prentisiaethau yn ddechreuwyd. Roedd 46% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Roedd 60% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr benywaidd yn Ch4 2023/24, roedd hyn wedi gostwng 5 pwynt canran o gymharu â Ch4 2022/23.
  • Roedd 41% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr 25 i 39 yn Ch4 2023/24 o gymharu â 42% yn Ch4 y flwyddyn gynt.
  • Roedd 14% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn Ch4 2023/24, dim newid o Ch4 2022/23.
  • Roedd 12% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau yn Ch4 2023/24 gan ddysgwyr a oedd yn nodi bod ganddynt anabledd ac/neu anhawster dysgu, o gymharu ag 11% yn Ch4 y flwyddyn gynt.
  • Mae 63,410 o brentisiaethau wedi’u dechrau ers Ch4 2020/21, yn rhan o’r cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o 100,000 o brentisiaethau.
  • Roedd y Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys targed i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed. Yn ystod cyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 26 Mehefin 2024, fe gytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar darged newydd o 100,000 o brentisiaethau pob oed i gynnal targed tymor blaenorol y Senedd o 100,000.
Rhaglenni dysgu Prentisiaeth a ddechreuwyd: dangosfwrdd rhyngweithiol

Data dros dro

Cynhyrchir yr ystadegau yn yr adroddiad hwn bob chwarter. Ffigurau dros dro yw’r rhai chwarterol am eu bod yn seiliedig ar ddata wedi’u rhewi’n gynharach o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Bydd y data hyn yn parhau i gael eu diweddaru nes rhewi’r data am y tro olaf ym mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd.

Caiff y ffigurau dros dro ar gyfer y flwyddyn eu pennu’n derfynol pan gaiff data Ch4 (Mai i Orffennaf) eu cyhoeddi ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn, yn seiliedig ar y data a gafodd eu rhewi ym mis Rhagfyr.

Dechreuadau mesur targed

Yn yr ystadegau ar gyfer y mesurau targed defnyddir dull mwy trwyadl o fesul dechreuadau rhaglenni prentisiaeth nag ystadegau eraill yn yr allbwn hwn. Mae’r dull hwn o fesur yn rhoi cyfrif am rai sy’n tynnu’n ôl yn gynnar (o fewn yr 8 wythnos gyntaf) ac am drosglwyddiadau rhwng prentisiaethau.

Mae gradd-brentisiaethau bellach wedi’u cynnwys yn y mesur targed presennol. Mae gradd-brentisiaethau yng Nghymru yn rhoi’r cyfle i gyfuno gweithio ag astudio’n rhan-amser yn y brifysgol. Daw’r data o’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Er bod ystadegau gan HESA wedi’u cyfrifo fel y gellir eu cymharu cymaint â phosibl ag ystadegau ar gyfer rhaglenni prentisiaethau eraill a geir o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) (er enghraifft, peidio ag ystyried pobl sy’n gadael rhaglenni’n gynnar), bydd rhai gwahaniaethau methodolegol yn parhau. Yn wahanol i’r LLWR, mae data HESA ar gael yn flynyddol yn unig. A bydd ystadegau ar gyfer y flwyddyn academaidd ddiweddaraf sydd ar gael yn cael eu cynnwys ym mhob diweddariad ar gyfer Chwarter 4.

Rhagor o wybodaeth am ansawdd

Heblaw am y data dros dro a’r mesur targed, cynhyrchir yr ystadegau hyn yn yr un modd â’r ystadegau yn yr Adroddiadau blynyddol addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol. Ceir rhagor o wybodaeth yn adran ansawdd yr adroddiadau hynny.

Datganiad Cydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Caiff ein harferion ystadegol eu rheoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). Mae’r OSR yn gosod y safonau ar gyfer dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol gadw atynt.

Caiff ein holl ystadegau eu cynhyrchu a’u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau, i gynyddu eu dibynadwyedd, eu hansawdd a’u gwerth.

Mae’r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Sicrheir hyn drwy gydymffurfiaeth ystadegwyr proffesiynol â’r Cod Ymarfer Ystadegau. Caiff dyddiadau rhyddhau eu cyhoeddi ymlaen llaw, a chedwir at brotocolau’n gysylltiedig â chyfrinachedd data.

Ansawdd

Daw’r data o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru a gyflwynir gan ddarparwyr dysgu. Defnyddir y data hyn hefyd i benderfynu ynghylch cyllid i ddarparwyr dysgu, ac maent yn destun archwiliad.

Pan gyflwynir y data, rhaid iddynt fodloni rheolau dilysu penodol. Pan gaiff yr ystadegau eu cynhyrchu cynhelir gwiriadau ansawdd gan yr ystadegwyr.

Gwerth

Mae’r ystadegau hyn yn rhoi cipolwg cyflymach o’r nifer sy’n manteisio ar brentisiaethau yng Nghymru na’r adroddiadau a lunnir yn flynyddol. Fe’u defnyddir i fonitro a gwerthuso’r sector. Maent yn adrodd ar gynnydd yn erbyn targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Cyswllt: [email protected]

Sta/Medr/03/2025: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Mai i Gorffennaf 2024

Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol: Sta/Medr/03/2025

Dyddiad: 20 Chwefror 2025

Crynodeb: Ystadegau ar rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd. Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd.

Sta/Medr/03/2025 Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Mai i Gorffennaf 202

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Gweminar: Paneli REF 2029 – gwneud cais i fod yn aelod o banel

Ymunwch â ni yn y weminar hon, wedi’i threfnu gan Medr, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Phrifysgolion Cymru, sy’n trafod sut i fod yn aelod o baneli asesu REF 2029.

Anelir y sesiwn hon at rai sy’n gweithio mewn sefydliadau yng Nghymru sy’n arbenigo mewn gwaith ymchwil ac sydd am wybod mwy ynghylch sut i ymgeisio i fod yn aelod o banel REF 2029.

Mae paneli’r REF yn chwarae rhan hollbwysig – maen nhw’n dod ag arbenigwyr ynghyd yn eu disgyblaethau sy’n gyfrifol am asesu ansawdd cyflwyniadau ymchwil y DU.

Ar gyfer REF 2029, anogir pobl o bob cefndir i ymgeisio, hyd yn oed os nad ydych chi’n sicr eich bod yn bodloni pob maen prawf. Mae hyn yn cynnwys profiadau y tu allan i’r byd academaidd, gan gynnwys sectorau eraill, gwaith polisi, a phrofiad yn y gymuned, gan gynnwys profiadau bywyd amrywiol a’r rheiny sydd â dealltwriaeth o arferion ymchwil amrywiol, allbynnau, effeithiau ac arferion ymgysylltu.

Yn y weminar, byddwn yn clywed gan siaradwyr o brifysgolion Cymru fu’n ymwneud â REF 2021. Byddant yn rhannu eu profiadau, gan gynnwys y pethau yr hoffent fod wedi gwybod cyn dechrau, a’u cynghorion i rai sy’n ystyried ymgeisio am REF 2029. Byddwch hefyd yn dysgu beth sy’n rhaid i chi ei wneud i ymgeisio, a hefyd yn cael cyfle i ofyn am gyngor y panel mewn sesiwn holi ac ateb.

Felly os ydych am ddefnyddio eich arbenigedd i gefnogi REF amrywiol a chynhwysol, dewch i glywed mwy gan ein siaradwyr:

  • Cadeirydd: Vanessa Cuthill, Prifysgol Caerdydd
  • Helen Griffiths, Prifysgol Abertawe
  • Bettina Schmidt, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS)
  • Sheldon Hanton, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Does dim angen archebu lle i ymuno â’r sesiwn, dim ond ymuno drwy’r ddolen Teams.

Cysylltwch ag [email protected] am ragor o wybodaeth.

Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yw’r dull o asesu ansawdd ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch yn y DU. Mae’n broses adolygu arbenigol, gyda phaneli o arbenigwyr ym mhob maes pwnc academaidd unigol yn asesu cyflwyniadau ymchwil sefydliadau. Ceir adroddiad nesaf y REF yn 2029.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Datganiad Medr ar gyllid addysg uwch

Dywedodd llefarydd ar ran Medr, y sefydliad sy’n gyfrifol am gyllido a rheoleiddio’r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru:

“Mae prifysgolion ledled y DU yn wynebu cyfnod ariannol eithriadol o heriol oherwydd amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys pwysau cynyddol o ran costau a gostyngiad yn nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol. Nid yw’r sefyllfa’n wahanol yng Nghymru.

“Cawsom wybod gan Brifysgol Caerdydd yr wythnos diwethaf, yn rhinwedd ein swyddogaeth fel y corff rheoleiddio, y byddai’n lansio ymgynghoriad ffurfiol ar ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal dros 90 diwrnod. Rydym yn cydnabod ei bod hi’n gyfnod hynod bryderus i staff, myfyrwyr a darpar fyfyrwyr. Mae Prifysgol Caerdydd wedi rhoi sicrwydd inni y bydd myfyrwyr cyfredol a’r rhai sy’n ymrestru ym mis Medi 2025 yn gallu cwblhau eu cyrsiau.

“Mae ein blaenorioaiethau yn cynnwys gwarchod buddiannau dysgwyr a sicrhau bod y system addysg drydyddol yn bodloni anghenion Cymru nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn ymgysylltu’n agos â holl brifysgolion Cymru i ddeall eu safbwyntiau unigol a’r cynlluniau y maent yn eu rhoi ar waith i sicrhau eu cynaliadwyedd ariannol hirdymor ac ansawdd eu darpariaeth i ddysgwyr.

“Rydym yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymwybodol o’r sefyllfa ar draws y sector addysg drydyddol ac yn disgwyl i bob sefydliad gydweithio’n agos â’r undebau llafur, staff a myfyrwyr ar unrhyw gynigion.”

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/02/2025: Nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff mewn darparwyr addysg uwch: 2016/17 i 2022/23

Pwyntiau Allweddol

  • Mae cyfran y myfyrwyr ag anabledd wedi cynyddu bob blwyddyn rhwng 2016/17 a 2022/23. Mae’r gyfran wedi cynyddu o 13% yn 2016/17 i 17% yn 2022/23.
  • Mae cyfran y myfyrwyr o gefndir ethnig leiafrifol wedi cynyddu ym mhob blwyddyn rhwng 2016/17 a 2022/23. Mae’r gyfran wedi cynyddu o 10% yn 2016/17 i 14% yn 2022/23.
  • Mae’r mwyafrif o fyfyrwyr yn fenywaidd. Mae maint y mwyafrif hwn wedi cynyddu o 55% yn 2016/17 i 57% yn 2022/23.
  • Fe gynyddodd cyfran y staff ag anabledd bob blwyddyn rhwng 2016/17 a 2022/23. Ar gyfer staff academaidd fe gynyddodd y gyfran o 4% i 7% ac ar gyfer staff anacademaidd fe gynyddodd y gyfran o 6% i 10%.
  • Mae cyfran y staff o gefndir ethnig leiafrifol wedi cynyddu bob blwyddyn rhwng 2016/17 a 2022/23. Ar gyfer staff academaidd fe gynyddodd y gyfran o 11% i 17% ac ar gyfer staff anacademaidd fe gynyddodd y gyfran o 4% i 6%.
  • Mae’r mwyafrif o staff academaidd yn wrywaidd, er bod maint y mwyafrif hwn wedi lleihau ychydig o 53% yn 2016/17 i 52% yn 2022/23. Roedd y mwyafrif o’r staff anacademaidd yn y cyfnod hwn yn fenywaidd. 62% yw maint y mwyafrif hwn yn 2022/23, sydd yr un fath ag yn 2016/17.

Gwybodaeth am y fethodoleg

Daw’r data ar gyfer y datganiad hwn o gofnodion Myfyrwyr a Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) a gesglir gan Jisc.

Yn 2022/23 fe gasglwyd data myfyrwyr gyda’r casgliad data diwygiedig a gyflawnwyd gan y rhaglen Dyfodol Data. Cynhaliodd Jisc asesiad cynhwysfawr o ansawdd y set ddata hon ac fe fanylir ar hwn yn eu hadroddiad ansawdd data myfyrwyr 2022/23. Mae crynodeb o’r broses o gasglu data Myfyrwyr ar gyfer 2022/23 sy’n cwmpasu graddfeydd amser, rheolau busnes a dilysu a phrosesau gwirio wedi’i gynnwys ar wefan HESA. Mae gwybodaeth am ddata myfyrwyr ar gyfer y blynyddoedd cynharach i’w chael ar wefan HESA.

Ceir crynodeb o’r broses o gasglu data Staff a rheolau ansawdd cysylltiedig ar dudalen casglu data staff HESA.

Mae’r ystadegau’n cynnwys myfyrwyr sy’n rhan o boblogaeth gofrestru safonol addysg uwch HESA. Ceir rhagor o wybodaeth am y boblogaeth hon yn y diffiniadau myfyrwyr ar wefan HESA.

Mae pob defnydd o ‘myfyrwyr’ yn y bwletin hwn yn cyfeirio at ‘gofrestriadau myfyrwyr’. Cyfrif o bob cofrestriad ar gyfer cwrs yw hyn. Mewn achosion prin lle mae myfyriwr wedi cofrestru mewn dau gwrs gwahanol yn yr un flwyddyn, byddai’r myfyriwr hwnnw’n cael ei gyfrif ddwywaith.

Mae’r ystadegau hyn yn cynnwys staff sydd ym mhoblogaeth contractau staff HESA, sy’n cynnwys yr unigolion hynny sydd ag un neu fwy nag un contract (nad ydynt yn annodweddiadol) sy’n weithredol ar 1 Rhagfyr yn y cyfnod adrodd HESA perthnasol. Staff ar gontract annodweddiadol yw’r aelodau hynny o staff y mae eu contractau’n cynnwys trefniadau gweithio nad ydynt yn barhaol, yn cynnwys perthnasoedd cyflogaeth cymhleth a/neu’n cynnwys gwaith i ffwrdd o oruchwyliaeth y darparwr gwaith arferol.

Y ffigyrau cyfwerth â pherson llawn (FPE) yw’r holl ffigyrau ar staff. Gall unigolion fod â mwy nag un contract gyda darparwr a gall pob contract gynnwys mwy nag un gweithgaredd. Mewn dadansoddiadau mae cyfrifau staff wedi cael eu rhannu ymhlith y gweithgareddau yn gymesur â’r ffigwr cyfwerth ag amser llawn a ddatganwyd ar gyfer pob gweithgaredd. Cyfrifau FPE yw canlyniad hyn.

Ceir rhagor o wybodaeth am y boblogaeth hon yn y diffiniadau staff ar wefan HESA.

Mae’r data a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn dilyn egwyddorion Methodoleg Talgrynnu Safonol HESA. Mae’r strategaeth wedi’i bwriadu i atal gwybodaeth bersonol am unrhyw unigolyn rhag cael ei datgelu.

Mae hyn yn golygu:

  • Bod cyfrifau myfyrwyr a staff wedi’u talgrynnu i luosrif agosaf 5.
  • Bod canrannau wedi’u cyfrifo yn seiliedig ar y cyfrifau heb eu talgrynnu a heb gynnwys gwerthoedd anhysbys. Ni chyhoeddir canrannau os mai ffracsiynau o grŵp bach o bobl (llai na 22.5) ydynt.
  • Defnyddir y fethodoleg dalgrynnu hon ar gyfer cyfansymiau hefyd. O ganlyniad, efallai na fydd swm y rhifau ym mhob rhes neu golofn yn cyfateb yn union i’r cyfanswm a ddangosir.

Gwybodaeth am ansawdd

Rheoleiddir ein hymarfer ystadegol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). Mae OSR yn pennu’r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol ymlynu wrtho.

Mae ein holl ystadegau’n cael eu cynhyrchu a’u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Nodir y rhain yn Natganiad Cydymffurfio Medr â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae’r ystadegau swyddogol hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y ffyrdd canlynol.

Mae’r ystadegau hyn wedi cael eu cyhoeddi yn unol â Datganiad Cydymffurfio Medr a’r polisi ar weld ystadegau swyddogol cyn eu rhyddhau.

Mae’r adran hon yn darparu crynodeb o wybodaeth am y datganiad ystadegol hwn yn erbyn pum dimensiwn ansawdd: Perthnasedd, Cywirdeb, Amseroldeb a Phrydlondeb, Hygyrchedd ac Eglurder, a Chymharedd a Chydlyniad. Mae’r rhain hefyd yn cwmpasu’r agweddau ar y conglfaen Gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

  1. Perthnasedd
    Mae’r data yn yr adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o rai o nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff yn y sector addysg uwch yng Nghymru. Gellir defnyddio hyn i adnabod pa mor effeithiol yw polisïau penodol sy’n ymwneud â nodweddion cydraddoldeb mewn addysg uwch, neu i adnabod a yw’r rhai â nodweddion penodol heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch.
  2. Cywirdeb
    Cyfrifiadau yn hytrach nag arolygon yw data myfyrwyr a staff HESA, a chan hynny nid oes anghywirdeb oherwydd amcangyfrif. Fodd bynnag, gall gwallau yn y data a gyflwynwyd effeithio ar gywirdeb y data. Caiff hyn ei liniaru â set gynhwysfawr o wiriadau ansawdd, lle cyflwynir ymholiadau i ddarparwyr ynghylch materion posibl er mwyn gallu cael esboniad addas ar gyfer y data, neu gywiro’r data os oes angen.
    Y ffactor arall sy’n effeithio ar gywirdeb yw lle cofnodwyd nodweddion personol fel gwerthoedd anhysbys. Yn ystod y broses casglu data cyflwynir ymholiadau i ddarparwyr AU ynghylch lefelau uchel o werthoedd anhysbys i leihau hyn i’r eithaf lle y bo’n bosibl. Caiff niferoedd y myfyrwyr a staff a gofnodwyd â gwerthoedd anhysbys eu cynnwys yn y daenlen a’r dangosfwrdd PowerBI fel bod graddfa’r rhain yn eglur i ddefnyddwyr.
  3. Amseroldeb a phrydlondeb
    Mae’r data yn y datganiad hwn yn cyfeirio at ddata myfyrwyr a staff hyd at flwyddyn academaidd 2022/23. Gan bod casgliadau data myfyrwyr a staff HESA yn gasgliadau ôl-weithredol ceir oediad rhwng y flwyddyn academaidd a’r adeg pan ellir trefnu bod y data ar gael. Roedd yr oediad hwn yn fwy estynedig ar gyfer y cyhoeddiad hwn o ganlyniad i ddau ffactor:
    * Oedi cyn casglu data myfyrwyr o ganlyniad i roi’r rhaglen Dyfodol Data ar waith. Y canlyniad oedd bod data ar gael yn hwyrach nag arfer.
    * Sefydlu Medr. Cyn y datganiad hwn, roedd yr ystadegau hyn yn cael eu cyhoeddi gan CCAUC. Yn wahanol i CCAUC, mae Medr yn gynhyrchydd Ystadegau Swyddogol ac fe wnaeth sefydlu prosesau priodol ar gyfer hyn, yn ogystal â sefydlu Medr yn gyffredinol, gyfrannu at yr angen am fwy o amser i gynhyrchu’r dadansoddiad hwn.
    Ni fydd yr ail o’r ffactorau hyn yn effeithio ar fersiynau o’r datganiad hwn yn y dyfodol, a bydd yr oedi a oedd yn gysylltiedig â’r rhaglen Dyfodol Data’n lleihau wrth i’r broses casglu data newydd ymsefydlu’n fwy.
  4. Hygyrchedd ac eglurder
    Cyhoeddwyd rhag blaen fod y datganiad ystadegol hwn ar ddod a hynny ar galendr datganiadau ystadegol Llywodraeth Cymru.
    I gyd-fynd â’r adroddiad hwn ceir dangosfwrdd PowerBI a thaenlen y ceir mynediad atynt ill dau ar wefan Medr.
  5. Cymharedd a chydlyniad
    Gan bod casgliadau data myfyrwyr a staff HESA yn gasgliadau data ledled y DU gyfan, gellir cymharu’r ystadegau hyn â dadansoddiad tebyg o ddata cydraddoldeb ar gyfer darparwyr Addysg Uwch ledled y DU sydd ar gael ar wefan Data Agored HESA.

Sta/Medr/02/2025: Nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff mewn darparwyr addysg uwch: 2016/17 i 2022/23

Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol: Sta/Medr/02/2025

Dyddiad: 30 Ionawr 2025

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad o nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru o flwyddyn academaidd 2016/17 i flwyddyn academaidd 2022/23.

Cyswllt: [email protected]

Sta/Medr/02/2025: Nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff mewn darparwyr AU 2016/17 i 2022/23

Dogfennau eraill

Dangosfwrdd Power Bi

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Sta/Medr/01/2025: Staff mewn sefydliadau addysg uwch: Awst 2023 i Orffennaf 2024

Cyflwyniad

Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu gwybodaeth am staff a gyflogir mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru fel y’i casglwyd yng Nghofnod Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Cyhoeddwyd fersiynau blaenorol o’r gyfres hon gan Lywodraeth Cymru, ac fe’u gwelir ar wefan Llywodraeth Cymru.

Prif bwyntiau
  • Yn gyffredinol, bu cynnydd o 4% yn nifer y staff ym mhrifysgolion Cymru, o 21,815 yn 2022/23 i 22,635 yn 2023/24.
  • Roedd niferoedd y staff yn uwch yn 2023/24 nag yr oeddent yn 2022/23 ym Mhrifysgol Caerdydd (10%), Prifysgol Wrecsam (9%), Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (9%), Prifysgol Metropolitan Caerdydd (5%) a Phrifysgol De Cymru (4%).
  • Roedd niferoedd y staff yn is yn 2023/24 nag yr oeddent yn 2022/23 ym Mhrifysgol Abertawe (1%), Prifysgol Aberystwyth (4%) a Phrifysgol Bangor (8%).
  • Prifysgol Caerdydd oedd yn cyflogi’r nifer fwyaf o staff (7,760) ac yna Prifysgol Abertawe (3,825).
  • Prifysgol Wrecsam oedd y brifysgol leiaf o ran niferoedd staff, gan gyflogi 585 o aelodau staff yn 2023/24.
  • Mae staff wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng contractau academaidd ac anacademaidd ar draws y sector, gyda’r naill a’r llall i gyfrif am 50% o’r holl staff.
  • Roedd 60% o gontractau academaidd yn llawnamser a 74% o gontractau anacademaidd yn llawnamser.
  • O’r rhai ar gontractau anacademaidd roedd 5,130 (45%) mewn galwedigaethau proffesiynol neu dechnegol, roedd 3,745 (33%) mewn galwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol, roedd 1,055 (9%) yn rheolwyr, cyfarwyddwyr neu uwch swyddogion a 735 (7%) mewn galwedigaethau elfennol. Daw’r diffiniadau ar gyfer y grwpiau galwedigaethol hyn o’r naw Prif Grŵp yn Nosbarthiad Galwedigaethol Safonol (SOC) 2020.
  • Roedd 56% o staff ar draws y sector yn fenywod. Fodd bynnag, nid oedd staff benywaidd ond i gyfrif am 49% o gontractau academaidd. Roedd deuparth yr holl staff rhan-amser yn fenywod (65%).
  • Dywedodd 9% o’r staff addysgu academaidd eu bod yn gallu addysgu drwy’r Gymraeg ac, o’r rheiny, roedd hi’n hysbys bod 46% ohonynt yn addysgu yn Gymraeg.

Cyfrifir niferoedd staff drwy ddefnyddio’r hyn sydd gyfwerth â pherson llawn ar 1 Rhagfyr yn y flwyddyn adrodd. Ni chaiff staff ar gontractau annodweddiadol eu cynnwys. Staff annodweddiadol yw’r aelodau hynny o staff y mae eu contractau’n cynnwys trefniadau gweithio nad ydynt yn barhaol, yn cynnwys perthnasoedd cyflogaeth cymhleth a/neu’n cynnwys gwaith i ffwrdd o oruchwyliaeth y darparwr gwaith arferol.

Data

Mae’r data ar gael ar StatsCymru a Data Agored HESA.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae’r ffigurau’n seiliedig ar Gofnod Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Ar gyfer sefydliadau Cymreig mae angen cyflwyno data cofnod staff ar gyfer yr holl staff academaidd, ac ar gyfer staff anacademaidd os nad yw’r contract yn annodweddiadol. Nid oes angen dychwelyd data ychwaith ar gyfer staff asiantaeth, staff hunangyflogedig, contractau anrhydeddus lle nad yw’r contract yn cael ei ystyried yn gontract cyflogaeth a staff nad ydynt yn cael eu cyflogi gan y SAU, ond gan gwmni sydd wedi’i gyfuno â chyfrifon y SAU.

Caiff cyfrifon staff annodweddiadol cyfwerth â pherson llawn (CPLl) eu cyfrifo ar sail gweithgareddau contract a oedd yn weithredol ar 1 Rhagfyr yn y cyfnod adrodd. Caiff cyfrifiadau CPLl staff annodweddiadol eu cyfrifo ar sail yr unigolion nad oes ganddynt ond contractau annodweddiadol nad oeddent yn weithredol yn ystod y cyfnod adrodd.

Ceir rhagor o wybodaeth am y diffiniadau a ddefnyddir yn www.hesa.ac.uk/support/definitions/staff.

Datganiad Cydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Caiff ein harferion ystadegol eu rheoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). Mae’r OSR yn gosod y safonau ar gyfer dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol gadw atynt.

Caiff ein holl ystadegau eu cynhyrchu a’u cyhoeddi yn unol â’n Datganiad Cydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a pholisïau ystadegol eraill.

Mae’r ystadegau swyddogol hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Bydd cydymffurfiaeth ystadegwyr proffesiynol â’r Cod Ymarfer Ystadegau yn fodd i sicrhau hyn. Caiff dyddiadau rhyddhau eu cyhoeddi ymlaen llaw, a chedwir at brotocolau’n gysylltiedig â chyfrinachedd data.

Ansawdd

Daw’r data o Gofnod Staff HESA sy’n casglu data gan ddarparwyr addysg uwch ledled y DU. Pan gyflwynir y data, cânt eu gwirio yn erbyn rheolau ansawdd amrywiol, a chynhelir gwiriadau ansawdd pellach gan ddadansoddwyr sy’n cynhyrchu dadansoddiadau.

Gwerth

Mae’r ystadegau hyn yn rhoi gwybodaeth am y staff sy’n gweithio mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Cyswllt

E-bost: [email protected]

Sta/Medr/01/2025: Staff mewn sefydliadau addysg uwch: Awst 2023 i Orffennaf 2024

Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol: Sta/Medr/01/2025

Dyddiad: 29 Ionawr 2025

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y staff a gyflogir mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru fel y’i casglwyd yng nghasgliad data Cofnod Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.

Sta/Medr/01/2025 Staff mewn sefydliadau addysg uwch: Awst 2023 i Orffennaf 2024

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio