Newyddion
Datganiad Medr ar gyllid addysg uwch
31 Jan 2025
Dywedodd llefarydd ar ran Medr, y sefydliad sy’n gyfrifol am gyllido a rheoleiddio’r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru:
“Mae prifysgolion ledled y DU yn wynebu cyfnod ariannol eithriadol o heriol oherwydd amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys pwysau cynyddol o ran costau a gostyngiad yn nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol. Nid yw’r sefyllfa’n wahanol yng Nghymru.
“Cawsom wybod gan Brifysgol Caerdydd yr wythnos diwethaf, yn rhinwedd ein swyddogaeth fel y corff rheoleiddio, y byddai’n lansio ymgynghoriad ffurfiol ar ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal dros 90 diwrnod. Rydym yn cydnabod ei bod hi’n gyfnod hynod bryderus i staff, myfyrwyr a darpar fyfyrwyr. Mae Prifysgol Caerdydd wedi rhoi sicrwydd inni y bydd myfyrwyr cyfredol a’r rhai sy’n ymrestru ym mis Medi 2025 yn gallu cwblhau eu cyrsiau.
“Mae ein blaenorioaiethau yn cynnwys gwarchod buddiannau dysgwyr a sicrhau bod y system addysg drydyddol yn bodloni anghenion Cymru nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn ymgysylltu’n agos â holl brifysgolion Cymru i ddeall eu safbwyntiau unigol a’r cynlluniau y maent yn eu rhoi ar waith i sicrhau eu cynaliadwyedd ariannol hirdymor ac ansawdd eu darpariaeth i ddysgwyr.
“Rydym yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymwybodol o’r sefyllfa ar draws y sector addysg drydyddol ac yn disgwyl i bob sefydliad gydweithio’n agos â’r undebau llafur, staff a myfyrwyr ar unrhyw gynigion.”
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio