Newyddion
Gweminar: Paneli REF 2029 – gwneud cais i fod yn aelod o banel
18 Feb 2025
Ydych chi’n meddwl gwneud cais i fod yn aelod o banel REF, ond yn ansicr ynghylch y gofynion? Neu efallai eich bod yn chwilfrydig am yr hyn y mae aelodau panel REF yn ei wneud...
Ymunwch â ni yn y weminar hon, wedi’i threfnu gan Medr, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Phrifysgolion Cymru, sy’n trafod sut i fod yn aelod o baneli asesu REF 2029.
Anelir y sesiwn hon at rai sy’n gweithio mewn sefydliadau yng Nghymru sy’n arbenigo mewn gwaith ymchwil ac sydd am wybod mwy ynghylch sut i ymgeisio i fod yn aelod o banel REF 2029.
Mae paneli’r REF yn chwarae rhan hollbwysig – maen nhw’n dod ag arbenigwyr ynghyd yn eu disgyblaethau sy’n gyfrifol am asesu ansawdd cyflwyniadau ymchwil y DU.
Ar gyfer REF 2029, anogir pobl o bob cefndir i ymgeisio, hyd yn oed os nad ydych chi’n sicr eich bod yn bodloni pob maen prawf. Mae hyn yn cynnwys profiadau y tu allan i’r byd academaidd, gan gynnwys sectorau eraill, gwaith polisi, a phrofiad yn y gymuned, gan gynnwys profiadau bywyd amrywiol a’r rheiny sydd â dealltwriaeth o arferion ymchwil amrywiol, allbynnau, effeithiau ac arferion ymgysylltu.
Yn y weminar, byddwn yn clywed gan siaradwyr o brifysgolion Cymru fu’n ymwneud â REF 2021. Byddant yn rhannu eu profiadau, gan gynnwys y pethau yr hoffent fod wedi gwybod cyn dechrau, a’u cynghorion i rai sy’n ystyried ymgeisio am REF 2029. Byddwch hefyd yn dysgu beth sy’n rhaid i chi ei wneud i ymgeisio, a hefyd yn cael cyfle i ofyn am gyngor y panel mewn sesiwn holi ac ateb.
Felly os ydych am ddefnyddio eich arbenigedd i gefnogi REF amrywiol a chynhwysol, dewch i glywed mwy gan ein siaradwyr:
Rhaglen:
- Cadeirydd: Vanessa Cuthill, Prifysgol Caerdydd
Aelodau’r panel:
- Helen Griffiths, Prifysgol Abertawe
- Bettina Schmidt, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS)
- Sheldon Hanton, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Does dim angen archebu lle i ymuno â’r sesiwn, dim ond ymuno drwy’r ddolen Teams.
Cysylltwch ag [email protected] am ragor o wybodaeth.
Ynglŷn â REF 2029
Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yw’r dull o asesu ansawdd ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch yn y DU. Mae’n broses adolygu arbenigol, gyda phaneli o arbenigwyr ym mhob maes pwnc academaidd unigol yn asesu cyflwyniadau ymchwil sefydliadau. Ceir adroddiad nesaf y REF yn 2029.

Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw academi genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau a’r gwyddorau.
Daw ein Cymrodoriaeth ag arbenigwyr at ei gilydd o bob maes academaidd a thu hwnt. Defnyddiwn yr wybodaeth gyfunol hon i hyrwyddo ymchwil, ysbrydoli dysg a darparu cyngor polisi annibynnol.

Mae Prifysgolion Cymru yn gorff aelodaeth sy’n cynrychioli buddiannau naw prifysgol Cymru.
Rydym yn datblygu polisi addysg uwch, yn ymgysylltu â gwleidyddion a rhanddeiliaid, ac yn ymgyrchu ar faterion lle mae gan ein haelodau fuddiannau a rennir.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio