Cyhoeddiadau
Medr/2024/03: Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2024/25
17 Oct 2024
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu canllawiau i gefnogi gwrth-hiliaeth a chydraddoldeb hil mewn addysg uwch, a dyraniadau cyllid gwrth-hiliaeth, disgwyliadau o ran cyllid cyfatebol, a gofynion monitro ar gyfer 2024/25.
2. Cyfeirid yn flaenorol at y canllawiau a’r cyllid yma fel ‘cydraddoldeb hil’, ond cyfeirir ato fel cyllid gwrth-hiliaeth ers 2022 a rhyddhau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.
3. Darparwyd y cyllid hwn yn wreiddiol yng Nghylchlythyr CCAUC W22/05HE: Ymgynghoriad ar gyllid i gefnogi cydraddoldeb hil mewn addysg uwch, i ymdrin â gwrth-hiliaeth a chefnogi newid diwylliant mewn addysg uwch, yn unol â datblygiadau polisi hil, mynediad a llwyddiant a’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Roedd y cyhoeddiad cychwynnol yn cynnwys amodau cyllid cyfatebol a’r disgwyliad bod prifysgolion yn ennill siarter cydraddoldeb hil erbyn 2024/25. Cadarnhaodd yr holl brifysgolion wrth CCAUC eu bod yn bwriadu cyflawni’r ymrwymiad hwn erbyn diwedd 2025.
4. Dylid darllen y cyhoeddiad hwn ar y cyd â chylchlythyr CCAUC W23/06HE: Addysg uwch ddiogel a chynhwysol: cefnogi addysg cydraddoldeb ac amrywiaeth.
5. Roedd llythyr cylch gwaith CCAUC 2024-25 (paragraff 10), a gyhoeddwyd cyn pontio i Medr, yn canmol gwaith sector addysg uwch Cymru o ran hybu cyfle cyfartal, gan gynnwys trwy ei waith tuag at y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
6. Mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymedig i Gymru Wrth-hiliol erbyn 2030. Ar adeg ysgrifennu, mae Llywodraeth Cymru’n diweddaru ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i sicrhau y gwneir cynnydd cyflym yn erbyn targedau trosfwaol. Bydd camau gweithredu diwygiedig, gan gynnwys ar gyfer y sector addysg drydyddol. Rydym yn disgwyl i brifysgolion ystyried y camau gweithredu hyn pan gânt eu rhyddhau.
Dyletswyddau a chyfrifoldebau Medr
7. Daeth Medr yn weithredol ar 1 Awst 2024 yn dilyn cau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ar 31 Gorffennaf 2024.
8. Mae dyletswydd strategol ar Medr i hybu cyfle cyfartal mewn addysg drydyddol. Mae Paragraff 3.1 o’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) (fel y’i pasiwyd) yn nodi fel a ganlyn:
“Rhaid i’r Comisiwn hybu –
a) cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn addysg drydyddol Gymreig;
b) cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn gwaith ymchwil ac arloesi a wneir yng Nghymru;
c) cadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol hyd at ddiwedd cyrsiau addysg drydyddol Gymreig;
d) lleihau unrhyw fylchau o ran cyrhaeddiad mewn addysg drydyddol Gymreig rhwng grwpiau gwahanol o fyfyrwyr pan fo’r gwahaniaethau yn codi oherwydd ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol; ac
e) darparu cymorth i fyfyrwyr sy’n gorffen cyrsiau addysg drydyddol Gymreig sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i barhau â’u haddysg drydyddol, dod o hyd i gyflogaeth neu ddechrau busnes”.
9. Mae’r Ddeddf wedyn yn diffinio ‘grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol’ fel a ganlyn:
a) “Mewn perthynas ag addysg drydyddol, grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg drydyddol Gymreig o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol, a
b) Mewn perthynas ag ymchwil ac arloesi, grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn gwaith ymchwil ac arloesi a wneir yng Nghymru o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol.”
10. Mae Paragraffau 3.134 a 3.135 o’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru): Memorandwm Esboniadol yn ei gwneud yn ofynnol i Medr “sicrhau bod amodau cofrestru parhaus pob darparwr cofrestredig yn cynnwys amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gyflawni canlyniadau mesuradwy yn ymwneud â chyfle cyfartal.” Bydd Medr yn datblygu ac yn ymgynghori ynghylch y broses gofrestru i ddisodli’r broses cynlluniau ffioedd a mynediad gyfredol a fydd yn gweithredu rhwng 2025/26 a 2026/27.
11. Yn ogystal ag amodau sy’n ymwneud â chyfle cyfartal, bydd Medr yn cyflwyno amod cofrestru sy’n ymwneud â llesiant a diogelwch staff a myfyrwyr/dysgwyr. Mae Paragraff 3.142 o’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru): Memorandwm Esboniadol yn nodi fel a ganlyn: “Bydd yr amodau cychwynnol a pharhaus yn ymwneud â chefnogaeth ar gyfer a hyrwyddo lles myfyrwyr a staff yn cyflwyno gofynion rheoleiddiol newydd i ddarparwyr y rhagwelwyd y byddent yn cwmpasu materion fel iechyd meddwl, llesiant a diogelwch dysgwyr a staff yn y darparwr. Bydd yn ofynnol i’r Comisiwn nodi a chyhoeddi gofynion y mae’n rhaid i ddarparwyr cofrestredig eu bodloni o ran eu trefniadau mewn perthynas â’r amodau cychwynnol a pharhaus. O ran lles myfyrwyr a staff, rhagwelir y byddai’r ‘trefniadau’ yn cynnwys polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau cymorth ar gyfer llesiant a diogelwch myfyrwyr a staff. Yn y cyd-destun hwn, mae ‘llesiant’ yn golygu llesiant emosiynol ac iechyd meddwl ac mae ‘diogelwch’ yn golygu rhyddid rhag niwed gan gynnwys aflonyddu, camymddwyn, trais (gan gynnwys trais rhywiol), a throseddau casineb.”
12. Bydd Medr yn gweithio gyda phrifysgolion a cholegau yn 2024/25 ac yn ystyried goblygiadau gweithio yng nghyd-destun addysg drydyddol, gan rannu arfer perthnasol fel y bo’n briodol. Roedd CCAUC yn aelod o’r Grŵp Llywio Cymru Wrth-hiliol ar gyfer Addysg Bellach cyn ei gau, i oleuo a chefnogi’r broses o bontio i sefydliad â ffocws ar addysg drydyddol.
13. Wrth i Medr ddatblygu ei bolisïau, byddwn yn gweithio gyda’r sector addysg drydyddol a phartneriaid i gytuno ar flaenoriaethau, terminoleg ac adolygu data. Efallai y byddwn yn cyhoeddi canllawiau atodol lle y bo’n briodol wrth i’r gwaith hwn ddod i fwcl.
Diben cyllid gwrth-hiliaeth
14. Mae’r cyllid hwn wedi’i fwriadu i atal anghydraddoldeb, mynd i’r afael â hiliaeth a rhoi cymorth i wreiddio arfer gwrth-hiliol mewn prifysgolion ac yn y sector addysg drydyddol ehangach, cefnogi newid diwylliant, a chyfrannu at gyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.
15. Dylai’r cyllid gyfrannu at waith prifysgolion i ennill nod siarter cydraddoldeb hil erbyn mis Gorffennaf 2025, fel a amlinellir yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
16. Er bod y cyllid hwn wedi’i fframio o ran hil ac ethnigrwydd, dylai prifysgolion ystyried sut y bydd mynd i’r afael â gwrth-hiliaeth yn croestorri â hil gan gynnwys, ymhlith materion eraill, aflonyddu, trais a cham-drin ar sail hunaniaeth, llesiant ac iechyd meddwl, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a chrefydd a chred.
Dyraniadau ac amodau’r cyllid yn 2024/25
17. Yn 2024/25, mae’r dyraniadau cyllid:
i. yn amodol ar ymrwymiad gan brifysgolion i neilltuo dyraniadau cyllid cyfatebol (fel yn 2022/23 a 2023/24);
ii. yn defnyddio data myfyrwyr HESA ar gyfer 2022/23, sy’n seiliedig ar boblogaeth gofrestru safonol HESA, wedi’i lleihau i gyfrif pennau (h.y. os oes gan fyfyriwr fwy nag un cofrestriad, cânt eu cyfrif unwaith);
iii. yn defnyddio data myfyrwyr sy’n cynnwys y corff myfyrwyr cyfan: pob dull, lefel a gwlad y maent yn hanu ohoni;
iv. yn seiliedig ar ddata HESA ar gyfer 2022/23 sydd wedi cael ei wirio gan y brifysgol;
v. fel sy’n arferol gennym, yn cynnwys data myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru o fewn data a dyraniad Prifysgol De Cymru; ac
vi. yn mynd i fod yn cael eu gwneud fel un taliad ym mis Tachwedd 2024, yn amodol ar gael adroddiadau monitro gwrth-hiliaeth 2023/24.
18. Ein disgwyliadau ar gyfer defnyddio cyllid cyfatebol yw:
i. na ddylai dyraniad Medr arwain at unrhyw leihad yn yr adnoddau a ddarperir ar hyn o bryd gan brifysgolion ar gyfer datblygiadau gwrth-hiliaeth, gan gynnwys eu hymrwymiad i ennill siarter;
ii. bod prifysgolion yn neilltuo adnoddau ychwanegol i gefnogi camau gweithredu gwrth-hiliaeth, y tu hwnt i gyfanswm dyraniad Medr o £1m;
iii. lle mae unrhyw weithgareddau neu wasanaethau gwrth-hiliaeth presennol yn cael eu cyllido trwy’r cynllun ffioedd a mynediad neu o ffynonellau eraill, y gall y gweithgareddau a’r gwasanaethau hyn gael eu cynyddu gan Medr neu gyllid cyfatebol y brifysgol. Lle digwydd hyn, rhaid i’r brifysgol ei gwneud yn glir yn yr holl adroddiadau a ffurflenni monitro gwrth-hiliaeth sut, ac i ba lefel, y mae’r cyllid hwn wedi gwella gweithgareddau a gwasanaethau, a gall hyn fod yn destun gwaith archwilio gennym ni;
iv. bod y cyllid cyfatebol a dyraniad Medr yn arwain at gynnydd yng nghyflymder a chynnydd gwaith i fynd i’r afael â hiliaeth er mwyn gwreiddio arferion gwrth-hiliol, i wella cydraddoldeb hil ac i ennill siarter; ac
v. y gellir defnyddio cyllid cyfatebol neu gyllid Medr i dalu costau tanysgrifiadau aelodaeth perthnasol, hyfforddiant a hwylusir yn allanol neu arbenigedd allanol arall.
19. Mae dyraniadau 2024/25 fel a ganlyn:
Prifysgol | Dyraniad CCAUC yn 2024/25 (gyda therfyn isaf o £50K) £ | Cyllid cyfatebol y Sector yn 2024/25 (dim terfyn isaf) £ | Cyfanswm 2024/25 £ |
---|---|---|---|
Prifysgol De Cymru | 159,031 | 159,031 | 318,062 |
Prifysgol Aberystwyth | 53,590 | 53,590 | 107,179 |
Prifysgol Bangor | 72,491 | 72,491 | 144,981 |
Prifysgol Caerdydd | 218,948 | 218,948 | 437,896 |
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant | 111,507 | 111,507 | 223,014 |
Prifysgol Abertawe | 144,028 | 144,028 | 288,057 |
Prifysgol Metropolitan Caerdydd | 90,446 | 90,446 | 180,891 |
Prifysgol Wrecsam | 51,288 | 51,288 | 102,576 |
Y Brifysgol Agored yng Nghymru | 98,671 | 98,671 | 197,343 |
Cyfanswm | 1,000,000 | 1,000,000 | 2,000,000 |
Adnoddau a Gwybodaeth
20. Mae Universities UK wedi cyhoeddi dau bapur briffio ar grefydd a chred a ddylai oleuo ystyriaethau i gydraddoldeb hil: Tackling antisemitism: practical guidance for universities (Mehefin 2021) a Tackling islamophobia and anti-Muslim hatred: practical guidance for universities (Rhagfyr 2021). Mae’r papurau briffio hyn yn rhan o gyfres changing the culture ehangach Universities UK, sy’n nodi tystiolaeth ac argymhellion mewn ymateb i drais yn erbyn menywod, aflonyddu a throseddau casineb sy’n effeithio ar fyfyrwyr a staff prifysgolion.
21. Ym mis Gorffennaf 2022, fe wnaeth y Sefydliad Polisi Addysg Uwch gyhoeddi Gypsies, Romas and Travellers: The ethnic minorities most excluded from UK education. Mae’r adroddiad yn amlygu heriau i ddysgwyr sy’n Sipswn, Roma a Theithwyr, gan hefyd amlygu arfer gorau sy’n bodoli ledled y DU, gan gynnwys yr adduned, GTRSB[1] into Higher Education Pledge, a gyflwynwyd gan Brifysgol Newydd Swydd Buckingham yn 2021, sy’n nodi ymrwymiad gan lofnodwyr i:
i. enwi pwynt cyswllt ar gyfer myfyrwyr a darpar fyfyrwyr sy’n Sipsiwn, Teithwyr, Roma, Siewmyn a Chychwyr;
ii. monitro data ar fyfyrwyr a niferoedd y staff sy’n Sipsiwn, Teithwyr, Roma, Siewmyn a Chychwyr;
iii. creu diwylliant cefnogol a chroesawgar ar gyfer myfyrwyr sy’n Sipsiwn, Teithwyr, Roma, Siewmyn a Chychwyr;
iv. allgymorth ac ymgysylltiad gyda chymunedau Sipsiwn, Teithwyr, Roma, Siewmyn a Chychwyr lleol; a hefyd
v. cynnwys, dathlu a choffau diwylliannau a chymunedau Sipsiwn, Teithwyr, Roma, Siewmyn a Chychwyr.
[1] Defnyddir GTRSB gan Brifysgol Newydd Swydd Buckingham fel acronym ar gyfer Sipsiwn, Teithwyr, Roma, Siewmyn a Chychwyr. Mae Medr yn bwriadu osgoi defnyddio acronymau i ddisgrifio pobl ond rydym yn cydnabod eu bod yn cael eu defnyddio mewn rhai adnoddau sydd wedi’u cynnwys yn y cyhoeddiad hwn.
22. Mae tair prifysgol yng Nghymru wedi ennill statws Prifysgol Noddfa; mae’r fenter yn cydnabod ac yn dathlu prifysgolion sydd wedi gwneud gwaith tuag at werthoedd ac egwyddorion y Siarter Dinas Noddfa 2022-25, ac sy’n ymgorffori egwyddorion y rhwydwaith Dinas Noddfa (trwy strwythur ‘dysgu, gwreiddio, rhannu’).
23. Mae’r holl Golegau Addysg Bellach yng Nghymru’n sefydliadau ag aelodaeth gyswllt o’r Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Dduon[2](BLG), sy’n darparu ystod o gyfleoedd hyfforddi a datblygu, yn ogystal â Mynegai Cynrychiolaeth Ethnig (ERI) a ddefnyddir gan brifysgolion yn Lloegr, yr Alban a rhai sefydliadau arbenigol.
[2] ‘Mae’r Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Dduon yn defnyddio ‘Pobl Dduon’ fel diffiniad cynhwysol ar gyfer pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol sy’n rhannu profiad personol o effeithiau hiliaeth’.
24. Ym mis Mawrth 2024, fe wnaeth y Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Dduon lansio’r Pecyn Cymorth Gwrth-hiliaeth Addysg Uwch (HEART). Cynllun ac iddo ddeg pwynt ydyw i wreiddio gwrth-hiliaeth mewn systemau addysg uwch (gan gynnwys strategaeth, addysgeg a phrofiad myfyrwyr a staff).
25. Mae Medr a’r Swyddfa Fyfyrwyr ar y cyd yn cyllido Student Space. Mae Student Space yn cyhoeddi cyngor pwrpasol ynghylch llesiant ar gyfer, a chan, fyfyrwyr addysg uwch, ac yn ddiweddar mae wedi cyhoeddi ‘Bywyd fel myfyriwr Du’.
26. Mae Medr yn parhau i weithio gydag AU Ymlaen i gefnogi dwy seminar cydraddoldeb hil yn 2024/25.
Canlyniadau a monitro
27. Dylai gwybodaeth fonitro a chanlyniadau ar gyfer y cyfnod 2024/25 adeiladu ar gynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth 2022/23 a gyflwynwyd i CCAUC ym mis Hydref 2023, a diweddariadau a gyflwynwyd i ni fel rhan o weithgarwch monitro 2023/24. Mae templed monitro ar gyfer cyflwyno gwybodaeth wedi cael ei ddarparu yn Atodiad A. Dylai canlyniadau a gwybodaeth fonitro 2024/25 gynnwys:
i. cynllun gweithredu cydraddoldeb hil y brifysgol ar gyfer 2024/25, gan gynnwys cynnydd a chanlyniadau hyd at fis Gorffennaf 2025; a
ii. datganiad cyllid i roi cyfrif am ddyraniad Medr a chyllid cyfatebol y brifysgol.
28. Rydym hefyd yn ceisio sicrwydd bod yr holl brifysgolion ar y trywydd iawn i gyflwyno cais i AU Ymlaen i ennill siarter cydraddoldeb hil erbyn mis Gorffennaf 2025, fel a ddisgwylir gan y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Rhaid i brifysgolion gadarnhau erbyn 1 Tachwedd 2024 beth yw eu llinell amser ar gyfer cyflwyno cais i ennill y nod siarter a darparu diweddariadau rheolaidd os ceir oedi. Mae templed wedi cael ei ddarparu yn Atodiad B.
29. Rydym yn cydnabod y gall cynlluniau gweithredu siarter cydraddoldeb hil prifysgolion brofi’n gyfrifon boddhaol ar gyfer y mwyafrif o’r cyllid hwn a rhoi digon o sicrwydd i ni ynghylch strwythurau rheoli a llywodraethu, cerrig milltir blynyddol, cyflymder, cynnydd a wnaed ac uchelgais. Lle nad felly y mae hi, byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol.
30. Os bydd Llywodraeth Cymru’n gosod disgwyliadau newydd ar gyfer addysg uwch, neu’r sector addysg drydyddol, yn ystod cyfnod y cyllid, efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth fonitro ychwanegol.
Dyddiadau a ffurflenni monitro ar gyfer 2023/24 a chyllid ac adroddiadau 2024/25
31. Y dyddiad ar gyfer cyflwyno gwybodaeth fonitro 2023/24 yw dydd Gwener 18 Hydref 2024. Ceir gwybodaeth am ganlyniadau yng nghylchlythyr CCAUC W23/20HE: Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2023/24. Ar ôl ei chwblhau, dychwelwch y ffurflen fonitro (Atodiad A o W23/20HE) i [email protected].
32. Dylai prifysgolion gadarnhau eu llinell amser ar gyfer cyflwyno’u cais terfynol i AU Ymlaen am siarter cydraddoldeb hil erbyn dydd Gwener 1 Tachwedd 2024. Ar ôl ei chwblhau, dychwelwch y ffurflen (Atodiad B) i [email protected].
33. Y dyddiad ar gyfer cyflwyno gwybodaeth fonitro 2024/25 yw dydd Gwener 17 Hydref 2025. Ar ôl ei chwblhau, dychwelwch y ffurflen fonitro (Atodiad A) i [email protected] a [email protected].
Asesu effaith ein polisïau
34. Rydym wedi cynnal ymarfer sgrinio ar gyfer asesu effeithiau i helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hybu cydraddoldeb. Rydym yn rhagweld effaith gadarnhaol ar hil, rhyw, anabledd, oedran, crefydd a chred. Rydym wedi asesu’r effeithiau ar nodweddion economaidd-gymdeithasol ac rydym yn rhagweld effaith gadarnhaol ar gymunedau buddiant[3] a chymunedau lle[4].
[3] Cymunedau buddiant yw’r rhai sy’n rhannu hunaniaeth e.e. rhieni unigol, gofalwyr; y rhai sy’n rhannu un neu fwy nag un nodwedd warchodedig e.e. LHDTC+, pobl hŷn; grwpiau o bobl sydd wedi rhannu profiad e.e. digartrefedd, yr un system iechyd/gofal cymdeithasol leol neu wasanaeth lleol.
[4] Cymunedau lle yw’r rhai sy’n rhannu lleoliad daearyddol, (e.e. Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)).
35. Rydym hefyd wedi ystyried effaith y polisi hwn ar y Gymraeg, a darpariaeth Gymraeg yn y sector AU yng Nghymru ac effeithiau posibl tuag at y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Cysylltwch â [email protected] i gael rhagor o wybodaeth am asesiadau effaith
Rhagor o wybodaeth a chyflwyno ymatebion
36. I gael rhagor o wybodaeth a chyflwyno ymatebion, gohebwch ag Orla Tarn ([email protected]).
Medr/2024/03: Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2024/25
Dyddiad: 17 Hydref 2024
Cyfeirnod: Medr/2024/03
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru
Ymateb erbyn: 1 Tachwedd 2024 (Atodiad B); 17 Hydref 2025 (Atodiad A)
Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu canllawiau i gefnogi gwrth-hiliaeth a chydraddoldeb hil mewn addysg uwch, a dyraniadau cyllid gwrth-hiliaeth, disgwyliadau o ran cyllid cyfatebol, a gofynion monitro ar gyfer 2024/25.
Medr/2024/03: Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: 2024/24Atodiadau
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio