Cyhoeddiadau
Medr/2024/04: Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025
23 Oct 2024
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau ar gyfer yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2025 a’r camau gweithredu sy’n ofynnol gan yr holl brifysgolion, colegau a darparwyr addysg uwch eraill sy’n cyfranogi erbyn 29 Tachwedd 2024. Gofynnir i ddarparwyr wneud y canlynol:
– darparu’r manylion cyswllt diweddaraf
– cwblhau’r ffurflen ‘fy opsiynau arolwg’
– cyflwyno templedi sampl NSS 2025 gyda manylion cyswllt myfyrwyr cymwys.
Sylwer nad yw’n ofynnol i’r chwe darparwr yng Nghymru sy’n danysgrifwyr newydd i HESA, sydd â darpariaeth cyrsiau addysg uwch a ddynodwyd yn benodol ac sy’n cyflwyno data ar gyfer y cofnod myfyrwyr am y tro cyntaf yn 2023/24, gyfranogi yn NSS 2025. Byddwn yn cysylltu â’r chwe darparwr hyn ynghylch rhoi’r NSS ar waith iddynt hwy yn y dyfodol.
2. Mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn darparu trosolwg o’r modd y gweinyddir yr arolwg, manylion cyswllt ar gyfer cymorth i ddarparwyr, amserlen yr arolwg a’r trefniadau ar gyfer lledaenu’r canlyniadau.
Cefndir
3. Arolwg ledled y DU a wneir gan fyfyrwyr addysg uwch israddedig ar eu blwyddyn olaf i roi adborth ar eu cwrs yw’r NSS. Fe’i rheolir gan y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS) ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU – Adran yr Economi (Gogledd Iwerddon), Cyngor Cyllido’r Alban a Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru). Mae’r arolwg yn darparu gwybodaeth ar gyfer darpar fyfyrwyr i’w helpu i ddod o hyd i’r cwrs iawn iddynt hwy. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth werthfawr ar gyfer sefydliadau, rhanddeiliaid a llunwyr polisïau.
4. Bydd yr arolwg yn cael ei gyflawni ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU gan:
– Ipsos, a fydd yn gweinyddu’r arolwg.
– CACI, a fydd yn darparu’r porth lledaenu data ar gyfer darparwyr.
5. Mae’r arolwg yn elfen allweddol o’r dirwedd sicrhau ansawdd a rheoleiddio ehangach mewn addysg uwch yn y DU. Mae cyfranogiad yn orfodol i ddarparwyr addysg uwch fel a ganlyn:
– Yng Nghymru, disgwylir i ddarparwyr a reoleiddir neu a gyllidir gan Medr ar gyfer darpariaeth addysg uwch gyfranogi yn yr NSS i sicrhau bod barn eu poblogaethau myfyrwyr amrywiol yn cael ei chynrychioli, yn unol â’u dyletswyddau i hybu cyfle cyfartal, dileu camwahaniaethu, meithrin cysylltiadau da a hybu cydraddoldeb. Bydd deilliannau’r NSS yn darparu gwybodaeth ar gyfer Medr, rheoleiddiwr addysg drydyddol yng Nghymru.
– Yn Lloegr, bydd disgwyl i’r holl ddarparwyr sydd wedi’u cofrestru gyda’r Swyddfa
Fyfyrwyr ac a reoleiddir ganddi gyfranogi yn yr NSS fel un o amodau parhaus eu
cofrestriad.
-Yng Ngogledd Iwerddon, mae cyfranogi yn yr NSS yn un o’r amodau cyllido fel a nodir yn y memoranda ariannol rhwng prifysgolion ac Adran yr Economi (Gogledd Iwerddon). Mae colegau addysg bellach yng Ngogledd Iwerddon yn cymryd rhan yn yr NSS i ateb gofynion sicrhau ansawdd.
– Yn yr Alban, mae cyfranogi’n un o amodau’r cyllid gan Gyngor Cyllido’r Alban ar gyfer darparwyr addysg uwch.
6. Mae’r Swyddfa Fyfyrwyr wedi cadarnhau nad yw’n ofynnol i ddarparwyr yn Lloegr hyrwyddo arolwg 2025 i’w myfyrwyr. Mae’n dal yn ofynnol i ddarparwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon hyrwyddo’r arolwg. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr adolygu unrhyw ymgyrchoedd mewnol, i sicrhau eu bod yn dilyn y canllawiau ynghylch marchnata a hyrwyddo’r NSS ac osgoi dylanwad amhriodol (gweler canllaw arfer da 2025).
7. Yn ystod gwaith maes yr arolwg bydd ymatebion yn cael eu monitro, a bydd camau dilynol wedi’u targedu’n cael eu cymryd i sicrhau y cyrhaeddir trothwyon cyhoeddi. Yn gynnar ym mis Mawrth, yn ogystal â’r camau dilynol wedi’u targedu, bydd yr holl ddarparwyr sydd mewn perygl o beidio â chyrraedd y trothwy cyhoeddi’n cael eu rhoi i mewn i’r cam hybu i anfon negeseuon e-bost atgoffa ychwanegol a neges SMS ychwanegol at eu myfyrwyr sydd heb ymateb. Bydd y cam hybu’n dechrau’n awtomatig os yw cyfradd ymateb darparwr yn is na 43 y cant erbyn canol mis Mawrth, a bydd yn parhau i rai tan ganol mis Ebrill. Mae amserlen y gwaith maes wedi’i nodi yng nghanllaw sefydlu Ipsos i ddarparwyr sydd ar gael ar allrwyd NSS Ipsos.
Arolwg 2025
8. Ar gyfer 2025, bydd holiadur yr NSS yr un fath ag NSS 2024. Bydd yr arolwg yn cael ei gynnal ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd y cwestiwn am ryddid mynegiant yn cael ei ofyn i fyfyrwyr sy’n astudio yn Lloegr yn unig a bydd y cwestiwn am fodlonrwydd ar y cyfan yn cael ei ofyn i fyfyrwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn unig.
9. Mae’r rhestr lawn o gwestiynau a graddfeydd ymateb NSS 2025 i’w chael ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr.
10. Bydd y cwestiynau yn y banciau dewisol a’u graddfeydd ymateb yn aros yr un fath yn 2025 gan ddefnyddio graddfa ymateb Likert.
11. Ipsos sy’n gweinyddu’r arolwg ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU. Mae’n gyfrifol am gysylltu â myfyrwyr, hyrwyddo’r arolwg a darparu data wedi’i lanhau i gyrff cyllido a rheoleiddio’r DU.
12. Fel rhan o’i rôl, bydd Ipsos yn cysylltu’n uniongyrchol â darparwyr ynghylch gweinyddu’r arolwg a bydd yn rhoi cymorth i redeg yr arolwg trwy:
– gynnig arweiniad ar fanylion penodol rhaglen yr arolwg, megis yr wythnos y mae’n dechrau, dethol cwestiynau dewisol a chwestiynau darparwr-benodol
– ar gyfer darparwyr sy’n hyrwyddo’r arolwg:
–* darparu deunyddiau marchnata wedi’u brandio yn null yr NSS a chynghori darparwyr ynghylch cynhyrchu eu deunyddiau eu hunain.
— * hwyluso cynlluniau cymhelliant darparwyr i annog myfyrwyr i gymryd rhan yn yr arolwg.
13. Bydd rhagor o wybodaeth am farchnata a hyrwyddo’r arolwg yn cael ei darparu yn y canllaw arfer da gan Ipsos ar 23 Hydref 2024.
14. Bydd darparwyr yn cael eu gwahodd i ddewis un o bum wythnos pan all Ipsos lansio’r arolwg ar gyfer eu myfyrwyr. Ni fydd unrhyw gyfathrebu gan Ipsos gyda myfyrwyr y tu allan i’r amseroedd y cytunwyd arnynt gyda darparwyr unigol.
15. Bydd amserlen yr arolwg fel a ganlyn:
i. Bydd yr NSS yn lansio ar 8 Ionawr 2025;
ii. Bydd gwaith maes yn digwydd rhwng 9 Ionawr a 30 Ebrill 2025 ac yn cael ei redeg gan Ipsos;
iii. Bydd cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU yn rhyddhau cyhoeddiad yng ngwanwyn 2025 a fydd yn manylu ar y cynlluniau ar gyfer cyhoeddi canlyniadau NSS 2025;
iv. Cyhoeddir dyddiad dros dro ar gyfer cyhoeddi canlyniadau Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr ar 9 Gorffennaf 2025 am 09:30yb;
v. Bydd canlyniadau manwl yn cael cyflenwi i ddarparwyr unigol trwy borth lledaenu newydd a ddarperir gan CACI Limited ar y un dyddiad ac amser;
vi. Bydd canlyniadau’r NSS ar lefel cyrsiau’n cael eu cyhoeddi ar y wefan Darganfod Prifysgol.
16. Mae Ipsos wedi cyhoeddi dogfen ganllaw gynhwysfawr, ‘Sefydlu a pharatoi ar gyfer Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025’, ar gyfer yr holl ddarparwyr sy’n cyfranogi ar 23 Hydref 2024. Dylid darllen y ddogfen ganllaw ar y cyd â’r cyhoeddiad hwn.
17. Ar gyfer NSS 2025, bydd CACI Limited yn darparu canlyniadau’r arolwg ar borth lledaenu data a ddatblygwyd o’r newydd ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU. Mae’r porth canlyniadau’n galluogi darparwyr i gael mynediad at elfennau ychwanegol, heb eu cyhoeddi o’u data, gan gynnwys sylwadau testun agored, data o’r banc ychwanegol o gwestiynau a’r cwestiynau darparwr-benodol, a data islaw’r trothwy cyhoeddi.
18. Bydd porth lledaenu data newydd yr NSS yn lansio ym mis Rhagfyr 2024. Fodd bynnag, bydd Texuna Technologies yn parhau i ddarparu desg wasanaeth wedi’i neilltuo i’r NSS i roi cymorth i ddarparwyr gael mynediad at eu data ac i ymateb i ymholiadau tra bo’r porth newydd yn cael ei ddatblygu.Bydd canllawiau i ddarparwyr am lawrlwytho data hanesyddol o borth lledaenu data’r NSS presennol yn dilyn maes o law.
19. Ar gyfer NSS 2025, bydd CACI Limited yn darpaur canlyniadau’r arolwg ar y porth lledaenu data sydd newydd ei datblygu ar ran o chyrff cyllido a rheoleiddio’r DU. Wrth baratoi ar gyfer lledaenu canlyniadau’r NSS, bydd CACI Limited yn cysylltu â darparwyr yng ngwanwyn 2025 i gadarnhau manylion mewngofnodi defnyddwyr a chadarnhau manylion cyhoeddi canlyniadau NSS 2025 ar y porth.
Y wefan Darganfod Prifysgol
20. Adnodd ar gyfer darpar fyfyrwyr israddedig sy’n chwilio am wybodaeth am gyrsiau israddedig yn y DU yw Darganfod Prifysgol. Fe’i rheolir gan y Swyddfa Fyfyrwyr ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU. Cyhoeddir deilliannau’r NSS ar y wefan Darganfod Prifysgol yn flynyddol. Y trothwy cyhoeddi cyfredol ar gyfer canlyniadau’r NSS yw cyfradd ymateb o 50 y cant a bod o leiaf 10 o fyfyrwyr wedi ymateb.
21. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys data a gymerwyd o arolwg Hynt Graddedigion HESA, a datganiad Darganfod Prifysgol HESA (a adwaenid yn flaenorol fel y datganiad Unistats), sy’n casglu data am gyrsiau. Darperir rhagor o wybodaeth am ddatganiad Darganfod Prifysgol HESA isod.
Ffurflen Darganfod Prifysgol HESA 2024
22. Mae’r holl ddarparwyr yng Nghymru sy’n tanysgrifio i HESA yn cyflwyno datganiad data i HESA i’w gwneud yn bosibl cynnwys data am eu cyrsiau ar y wefan Darganfod Prifysgol. Mae’n ofynnol i’r holl ddarparwyr a reoleiddir neu a gyllidir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer darpariaeth AU a darparwyr â darpariaeth cyrsiau AU a ddynodwyd yn benodol yng Nghymru gyflwyno’r wybodaeth hon i HESA ar gyfer eu darpariaeth.
Camau gweithredu ar gyfer darparwyr
23. Dylai’r holl sefydiladau addysg uwch a cholegau addysg bellach yng Nghymru a reoleiddir a/neu a gyllidir ar gyfer darpariaeth addysg uwch:
a) perthnasol ar gyfer yr NSS erbyn 29 Tachwedd 2024. Dylid darparu’r wybodaeth gan ddefnyddio’r ffurflen ‘Fy manylion’ ar allrwyd yr NSS. Anfonodd Ipsos fanylion mewngofnodi ar gyfer allrwyd yr NSS at brif ac ail gyswllt enwebedig darparwyr ar gyfer yr NSS yn yr wythnos a ddechreuodd ar 30 Medi 2024.
b) cyflwyno eu ffurflen ‘Fy opsiynau arolwg’ wedi’i chwblhau erbyn 29 Tachwedd 2024 trwy allrwyd yr NSS. Mae’r ffurflen hon yn gofyn am ddewisiadau darparwyr o ran yr wythnos yr hoffent i’w harolwg ddechrau, cwestiynau dewisol a manylion unrhyw rafflau i ennill gwobrau.
c) poblogi eu templedi sampl ar gyfer NSS 2025 â’r manylion cyswllt y gofynnir amdanynt ar gyfer yr holl fyfyrwyr ar eu rhestr darged; rhestr o’r holl fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer NSS 2025 yw hon, yn seiliedig ar y data myfyrwyr a gyflwynwyd i gofnod myfyrwyr HESA 2023/24. Dylid darparu manylion erbyn 29 Tachwedd 2024 trwy’r adran ‘Lanlwytho data’r sampl’ ar allrwyd yr NSS. Dylai unrhyw weithred arfaethedig i ychwanegu myfyrwyr at y rhestr darged neu dynnu myfyrwyr oddi arni ddilyn y broses a nodwyd gan Ipsos.
24. Mae cyfarwyddiadau ynghylch sut i ddarparu’r wybodaeth hon wedi cael eu cynnwys yng nghanllaw sefydlu NSS 2025, a fydd yn cael ei anfon at gysylltiadau darparwyr gan Ipsos ar 23 Hydref 2024 ac maent hefyd ar gael ar allrwyd yr NSS. Mae’r canllawiau’n cynnwys gwybodaeth ynghylch gweinyddu’r arolwg, a chyfrifoldebau a dyddiadau allweddol.
25. Atgoffir yr holl ddarparwyr i sicrhau bod cyrsiau wedi’u mapio’n gywir i’r Hierarchaeth Cydgasglu Cyffredin (CAH). Dylai darparwyr ystyried y broses fapio canlyniadol i’r cod CAH3 o ran yr wybodaeth y gall darpar fyfyrwyr gael mynediad ati i oleuo penderfyniadau ynglŷn ag astudio addysg uwch. Gall meysydd pwnc megis Nyrsio, Economeg a Chyllid fod yn feysydd y dylai darparwyr eu hadolygu i gadarnhau eu bod wedi’u codio yn y pwnc CAH3 priodol.
26. Mae canllawiau manwl sy’n ymwneud ag NSS 2025 a’r camau gweithredu y gofynnir i sefyliadau addysg uwch a cholegau addysg bellach yng Nghymru sy’n dychwelyd data myfyrwyr at HESA ac yn cyfranogi yn yr NSS eu cymryd i’w cael yn Atodiad A.
27. Darperir crynodeb o’r camau gweithredu y mae’n ofynnol i ddarparwyr sy’n cyfranogi eu cymryd yn Nhabl 1 isod.
Tabl 1: Camau gweithredu gan ddarparwyr a cherrig milltir allweddol
Dyddiad | Camau gweithredu |
---|---|
23 Hydref 2024 | Ipsos i anfon canllaw sefydlu a chanllaw arfer da NSS 2025 at ddarparwyr. |
29 Tachwedd 2024 | Adolygu a diweddaru manylion cyswllt ar gyfer yr NSS. |
29 Tachwedd 2024 | Cwblhau’r ffurflen ‘fy opsiynau arolwg’. |
29 Tachwedd 2024 | Cyflwyno templedi sampl NSS 2025 gyda manylion cyswllt myfyrwyr cymwys. |
9 Gorffennaf 2025 | Dyddiad dros dro ar gyfer cyhoeddi canlyniadau NSS 2025 ar wefan OfS ac ar gyfer lledaenu canlyniadau manwl i ddarparwyr unigol trwy borth lledaenu data’r NSS. |
Dylanwad amhriodol ar yr arolwg
28. I gynnal cyfanrwydd data’r NSS, mae’n bwysig sicrhau na ddylanwadwyd ar fyfyrwyr sy’n cwblhau’r arolwg gan eu darparwr, nac unrhyw bartïon eraill, i ymateb mewn ffordd nad yw’n adlewyrchu eu gwir farn. Y Swyddfa Fyfyrwyr sy’n gyfrifol am reoli’r broses, ar ran holl gyrff cyllido a rheoleiddio’r DU, i ymdrin ag unrhyw bryderon y dylanwadwyd yn amhriodol ar fyfyrwyr wrth iddynt gwblhau’r NSS.
29. Mae’r gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i honiadau o ddylanwad amhriodol ar ganlyniadau’r arolwg wedi’u bwriadu i gael eu darllen ar y cyd â’r canllaw arfer da a gyhoeddir gan Ipsos, sy’n egluro’r hyn sy’n gyfystyr â dylanwad amhriodol a sut i’w osgoi wrth annog myfyrwyr i gyfranogi. Rydym yn erfyn ar ddarparwyr i sicrhau bod yr holl staff sy’n gyfrifol am weithrediad yr arolwg yn gyfarwydd â chanllaw arfer da Ipsos, ac yn ceisio cyngor lle y bo angen gan Ipsos neu’r Swyddfa Fyfyrwyr ynghylch eu dull o osgoi dylanwad amhriodol. Bydd cynrychiolydd o Medr yn rhan o unrhyw adolygiad o bryder ynghylch dylanwad amhriodol sy’n ymwneud â darparwr addysg uwch yng Nghymru.
30. Mae canllaw i fyfyrwyr ynghylch dylanwad amhriodol ar gael i helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr o werth eu barn onest, beth i’w ddisgwyl o weithgarwch i hyrwyddo’r NSS, yr hyn a ganiateir ac nas caniateir, a ble y dylent fynd i gael cymorth a chefnogaeth os ydynt yn pryderu y bydd eraill yn dylanwadu arnynt. Gofynnir i ddarparwyr hysbysu myfyrwyr ynghylch y canllaw hwn fel rhan o’u cynlluniau ar gyfer y cyfnod cyn lansio’r arolwg. Darperir rhagor o fanylion am hyn yng nghanllaw sefydlu NSS 2025 a gyhoeddwyd gan Ipsos.
Costau
31. Bydd Medr yn talu costau NSS 2025 ar gyfer darparwyr addysg uwch y mae’n eu rheoleiddio ac yn eu cyllido.
Rhagor o wybodaeth
32. The active support of participating providers is crucial to ensuring the survey data is of high quality. We encourage all providers and students’ unions to draw on the resources available and to get in touch if they require additional support:
Ipsos: [email protected] | Gweithrediad yr arolwg, gan gynnwys: paratoi ar gyfer yr arolwg a’i farchnata; rhestrau targed myfyrwyr; cwestiynau dewisol; cynlluniau cymhelliant. |
Texuna Technologies: [email protected] | Canlyniadau manwl darparwyr ar borth lledaenu data’r NSS tan 3 Ionawr 2025, gyda CACI Limited yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am ymholiadau wedi hynny. Bydd yr wybodaeth gyswllt ar gyfer CACI Limited yn cael ei rhannu gyda darparwyr maes o law. |
Y Swyddfa Fyfyrwyr [email protected] | Meysydd megis polisi a datblygiad yr NSS; defnydd pellach o ganlyniadau; honiadau o ddylanwad amhriodol. |
Medr [email protected] | Unrhyw ymholiadau eraill sy’n ymwneud â gweithrediad yr NSS yng Nghymru. |
Asesu effaith ein polisïau
33. Mae’r Swyddfa Fyfyrwyr wedi cynnal ymarfer sgrinio i asesu’r effeithiau. Fel partneriaid yn yr arolwg a reolir gan y Swyddfa Fyfyrwyr, rydym yn gweithio gyda’r Swyddfa Fyfyrwyr i sicrhau bod yr arolwg a’r deunyddiau sydd wedi’u bwriadu ar gyfer myfyrwyr ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg yng Nghymru. Byddwn yn parhau i asesu effaith yr NSS ar y Gymraeg i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cyfranogi’n llawn yn yr NSS yn eu dewis iaith.
Medr/2024/04: Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025
Dyddiad: 23 Hydref 2024
Cyfeirnod: Medr/2024/04
At: Gyrff llywodraethu a phenaethiaid sefydliadau a reoleiddir a/neu a gyllidir darparwyr addysg uwch yng Nghymru | Cyrff cynrychioli myfyrwyr yng Nghymru
Ymateb erbyn: 29 Tachwedd 2024 i Ipsos trwy allrwyd yr NSS
Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau ar gyfer yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2025 a’r camau gweithredu sy’n ofynnol gan yr holl brifysgolion, colegau a darparwyr addysg uwch eraill sy’n cyfranogi erbyn 29 Tachwedd 2024.
Gofynnir i ddarparwyr wneud y canlynol:
– darparu’r manylion cyswllt diweddaraf
– cwblhau’r ffurflen ‘fy opsiynau arolwg’
– cyflwyno templedi sampl NSS 2025 gyda manylion cyswllt myfyrwyr cymwys.
Mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn darparu trosolwg o’r modd y gweinyddir yr arolwg, manylion cyswllt ar gyfer cymorth i ddarparwyr, amserlen yr arolwg a’r trefniadau ar gyfer lledaenu’r canlyniadau.