This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Newyddion

Prifysgolion yng Nghymru ymhlith y rhai sydd wedi mabwysiadu’r polisïau arfer gorau ar gwmnïau deillio

Heddiw mae rhestr newydd yn cael ei rhyddhau o ddarparwyr addysg uwch yn y DU sydd wedi mynd ati’n wirfoddol i fabwysiadu’r polisïau arfer gorau ar gyfer cwmnïau deillio.

Mae’r rhestr, a luniwyd gan gyrff cyllido addysg uwch gwledydd y DU, yn cynnwys dau ddarparwr addysg uwch yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae hyn yn nodi blwyddyn ers cyhoeddi’r Adolygiad Annibynnol o Gwmnïau Deillio Prifysgolion gan Lywodraeth y DU ym mis Tachwedd 2023.

Cwmnïau newydd a gaiff eu creu yn seiliedig ar eiddo deallusol – IP – a gynhyrchwyd trwy ymchwil mewn prifysgol yw cwmnïau deillio.

Mae arfer gorau’n annog darparwyr addysg uwch i fabwysiadu polisïau a chanllawiau sy’n hybu arloesi y gall prifysgolion, buddsoddwyr a chyllidwyr i gyd eu defnyddio.

Rhestr yw hon o’r darparwyr addysg uwch yn y DU sydd wedi mynd ati’n wirfoddol i fabwysiadu’r polisïau arfer gorau ar gyfer telerau bargeinion cwmnïau deillio a amlygwyd yn yr Adolygiad Annibynnol o Gwmnïau Deillio ym mis Tachwedd 2023.

Lluniwyd y rhestr gan Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon, Medr, Research England a Chyngor Cyllido’r Alban, yn seiliedig ar wybodaeth a gyflwynwyd gan sefydliadau.

Bydd y rhestr gyfunol hon yn cael ei diweddaru o bryd i’w gilydd; mae’r isod yn cynnwys darparwyr addysg uwch sydd wedi cadarnhau eu bod wedi mabwysiadu’r polisïau erbyn 1 Tachwedd 2024.

Cymru
Sefydliad / Dolen i’r datganiad mabwysiadu/polisïau
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Abertawe
Lloegr
Sefydliad / Dolen i’r datganiad mabwysiadu/polisïau
Coleg Brenhinol Holloway, Prifysgol Llundain
Coleg Cerddoriaeth Brenhinol Gogledd Lloegr
Coleg Prifysgol Llundain
Coleg y Brenin Llundain
Coleg Ymerodrol Llundain
Prifysgol Birmingham
Prifysgol Brookes Rhydychen
Prifysgol Brunel Llundain
Prifysgol Bryste
Prifysgol Caer Efrog
Prifysgol Caergrawnt
Prifysgol Caerwysg
Prifysgol Caerhirfryn
Prifysgol Caint
Prifysgol Canol Sir Gaerhirfryn
Prifysgol Cranfield
Prifysgol De Montfort
Prifysgol Durham
Prifysgol Fetropolitan Manceinion
Prifysgol Gorllewin Lloegr
Prifysgol Keele
Prifysgol Lerpwl
Prifysgol Lincoln
Prifysgol Loughborough
Prifysgol Manceinion
Prifysgol Newcastle
Prifysgol Northymbria
Prifysgol Nottingham
Prifysgol Nottingham Trent
Prifysgol Reading
Prifysgol Rhydychen
Prifysgol Salford
Prifysgol Sheffield
Prifysgol Southampton
Prifysgol Sunderland
Prifysgol Swydd Bedford
Prifysgol Swydd Sussex
Prifysgol Warwig
Prifysgol Westminster
Prifysgol y Celfyddydau, Llundain
Y Brifysgol Agored
Y Frenhines Mary, Prifysgol Llundain
Y Sefydliad Ymchwil Canser
Ysgol Economeg a Gwyddor Wleidyddol Llundain
Yr Alban
Sefydliad / Dolen i’r datganiad mabwysiadu/polisïau
Prifysgol Aberdeen
Prifysgol Caeredin
Prifysgol Glasgow

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio