Chris Millward
Aelod y Bwrdd

Yr Athro Chris Millward
Aelod y Bwrdd
Mae’r Athro Chris Millward yn Athro Ymarfer mewn Polisi Addysg ym Mhrifysgol Birmingham
Cyn ymuno â Birmingham yn 2022, bu’n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Mynediad Teg a Chyfranogiad ar fwrdd a gweithrediaeth y corff rheoleiddio addysg uwch yn Lloegr, y Swyddfa Fyfyrwyr.
Rhwng 2006 a 2017, bu Chris yn gweithio i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE) fel Ymgynghorydd Rhanbarthol ac yna fel Cyfarwyddwr Polisi. Bu hefyd yn Bennaeth Rhaglenni Ymchwil ar Fwrdd Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn y DU wrth iddo drawsnewid i Gyngor Ymchwil o 2002 i 2006.
Yn ogystal â’i rôl yn Birmingham, mae Chris yn Gomisiynydd Ysgoloriaethau Marshall, yn Ymddiriedolwr a Chymrawd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol, ac yn Ymddiriedolwr y Gymdeithas Ymchwil i Addysg Uwch.
Tyfodd Chris i fyny yn Stockport a mynychodd ei ysgol wladol leol cyn astudio ym mhrifysgolion Warwick a Manceinion.