Gwenllian Lansdown Davies
Aelod y Bwrdd
Daeth Dr Gwenllian Lansdown Davies yn Brif Weithredwr y Mudiad Meithrin ym mis Medi 2014. Sefydliad gwirfoddol yw’r Mudiad Meithrin, a phrif ddarparydd a galluogydd gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector gwirfoddol. Mae ganddo dros 1,000 o leoliadau (cylchoedd chwarae cyfrwng Cymraeg / grwpiau rhieni a phlant bach / grwpiau ‘Cymraeg i Blant’ a meithrinfeydd) ar hyd a lled y wlad.
Yn 2011, fe’i penodwyd yn Swyddog Cyhoeddiadau i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth lle bu hefyd yn gyfrifol am ei gyfnodolyn ymchwil y Coleg, ‘Gwerddon’.
Ar ôl cael ei hethol i gynrychioli Glan-yr-afon ar Gyngor Sir Caerdydd yn 2004, bu’n gweithio fel Rheolwr Swyddfa i Leanne Wood AS yn y Rhondda cyn cael ei phenodi’n Brif Weithredwr Plaid Cymru yn 2007.
Astudiodd Gwenllian Ffrangeg a Sbaeneg yn Rhydychen a bu’n byw am gyfnod yn Galicia a Brwsel cyn cwblhau MScEcon a doethuriaeth mewn Theori Wleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd lle bu hefyd yn addysgu.
Mae Gwenllian yn Ymddiriedolwr gyda Chronfa’r Loteri Genedlaethol yng Nghymru ac yn gwirfoddoli yn ei Chylch Meithrin lleol fel yr Unigolyn Cyfrifol ar y pwyllgor.
Mae hi’n hanu o Fangor ond bellach yn byw gyda’i gŵr a phedwar o blant yn Llanerfyl, Powys.