This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Jayne Woods

Aelod y Bwrdd

Aelod y Bwrdd

Mae Jayne Woods yn gymrawd y Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr, a chanddi ddeng mlynedd ar hugain o brofiad fel gweithiwr cyllid proffesiynol. Mae hi wedi gwasanaethu ar fyrddau gweithredol ers dros ddeng mlynedd, gan ganolbwyntio ar gyllid, risg, llywodraethu ac effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gweithredol.  

Treuliodd Jayne 8 mlynedd fel archwilydd ac ymgynghorydd gyda Deloitte cyn symud ymlaen i ddal nifer o uwch rolau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Ar hyn o bryd mae hi yn aelod o fwrdd ac yn gadeirydd Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Cymwysterau Cymru (penodiad gweinidogol) ac yn aelod annibynnol o’r Pwyllgor Cyfalaf yng Nghyngor Celfyddydau Cymru. Mae hi wedi gwasanaethu fel llywodraethwr a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yng Ngholeg Sir Gâr ac fel aelod cyfetholedig o Bwyllgor Archwilio a Risg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae Jayne yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn byw gyda’i theulu yng Nghaerfyrddin.