This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Rob Humphreys

Aelod y Bwrdd

Aelod y Bwrdd

Ar hyn o bryd, Rob Humphreys yw Cadeirydd Pwyllgor Cynghori Cymru y British Council, a bu’n aelod o Fwrdd y British Council o 2019-2021.

Rob oedd Cyfarwyddwr Y Brifysgol Agored yng Nghymru rhwng 2007 a 2017. Roedd yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion (Cymru) o 2005 i 2007. Cyn hynny, roedd yn ddarlithydd mewn Addysg Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe o 1993 i 2005.

Ef oedd cydlynydd cyntaf Prifysgol Gymunedol y Cymoedd. Roedd y Brifysgol arobryn honno’n cynnig darpariaeth lefel gradd yng nghymunedau hen feysydd glo de Cymru.

Mae wedi bod yn aelod o nifer o adolygiadau a gomisiynwyd gan y Llywodraeth o ffioedd a chyllid addysgu yng Nghymru, gan gynnwys y ddau Adolygiad Rees, ac Adolygiad Diamond.

Fe’i penodwyd ddwywaith yn Gynghorydd Arbenigol (ar addysg bellach ac uwch) i Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin.

Fe’i penodwyd gan Lywodraeth Cymru i gadeirio adolygiad annibynnol o drefniadau llywodraethu’r sector addysg bellach. Cafodd yr adroddiad a ddeilliai o’r adolygiad hwnnw (‘Adolygiad Humphreys’) ei gyhoeddi yn 2011.

Cadeiriodd y broses uno a arweiniodd at un Gymdeithas Addysg y Gweithwyr i Gymru (Addysg Oedolion Cymru bellach).

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi cynrychioli partneriaeth Cymru Fyd-eang mewn trafodaethau â gweinidogion ac uwch arweinwyr addysg uwch yn Fietnam, gan gynnwys cyfrannu at brosiect Banc y Byd yn cynghori Llywodraeth Fietnam ynghylch diwygio addysg uwch.

Mae Rob yn gymrawd etholedig o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn 2016 dyfarnwyd CBE iddo am ei waith ym maes addysg oedolion a gwasanaethau i’r gymuned.

Yn hanu’n wreiddiol o Sir Drefaldwyn, gweithiwr heb sgiliau oedd Rob ar ôl gadael yr ysgol, cyn dychwelyd i fyd addysg fel myfyriwr aeddfed yng Ngholeg Ruskin Rhydychen. Mae bellach yn byw yn Abertawe.