Simon Pirotte
Prif Weithredwr
Mae Simon Pirotte wedi bod yn Brif Weithredwr Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ers ei sefydlu ym mis Medi 2023.
Simon oedd Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Penybont o 2013 tan 2023. Mae Simon wedi gweithio yn y sector addysg ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae hyn yn cynnwys gwaith yn y sectorau addysg uwch, addysg bellach ac ysgolion. Bu hefyd yn gweithio fel Pennaeth Adran yn Los Angeles, UDA ar Ysgoloriaeth Fulbright am flwyddyn.
Derbyniodd OBE yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2020 am ei wasanaethau i addysg bellach ac addysg uwch. Yn raddedig o Aberystwyth gydag MSc mewn Rheoli o Brifysgol De Cymru, enillodd Simon wobr Cyfarwyddwr y Flwyddyn y Sector Cyhoeddus 2018 gan Sefydliad y Cyfarwyddwyr (Y DU). Coleg Pen-y-bont ar Ogwr oedd y Coleg AB yn y safle uchaf yn y DU ymhlith 100 Cwmni Gorau’r Times (sefydliadau dielw) i weithio iddynt yn 2017 a 2020. Yn 2019, cafodd Coleg Penybont ei enwi’n Goleg Addysgol Atodol y Flwyddyn y Times.
Ynghyd â’i angerdd dros fyd addysg, mae Simon yn ymroi i fyd y Celfyddydau. Mae’n dysgu Cymraeg.