Ein blaenoriaethau
Mae gennym un ddyletswydd strategol ar ddeg a rydym yn datblygu cynllun strategol cyntaf Medr.
Ein blaenoriaethauThis website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.
Rydym yn gyfrifol am gyllido a rheoleiddio’r sector addysg drydyddol yng Nghymru, gan gynnwys: addysg bellach, addysg uwch, gan gynnwys ymchwil ac arloesi, prentisiaethau, dysgu oedolion yn y gymuned, a’r chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
Ar 1 Awst 2024 gwnaethom ysgwyddo’r ystod lawn o ddyletswyddau gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), ac ystod o swyddogaethau gan Lywodraeth Cymru yn gysylltiedig ag addysg drydyddol
Mae ein hystod o gyfrifoldebau yn cynnwys:
Dydyn ni ddim….
Dydyn ni ddim yn darparu grantiau na chyllid yn uniongyrchol i fyfyrwyr nac ymchwilwyr unigol.
Cyllid Myfyrwyr Cymru Cyllid myfyrwyr mewn addysg bellach:Mae gennym un ddyletswydd strategol ar ddeg a rydym yn datblygu cynllun strategol cyntaf Medr.
Ein blaenoriaethauRydym yn rheoleiddio lefelau ffioedd, yn sicrhau bod fframwaith yn ei le ar gyfer asesu ansawdd addysg uwch, ac yn craffu ar berfformiad darparwyr addysg drydyddol.
RheoleiddioUn o brif flaenoriaethau Medr yw hyrwyddo addysg drydyddol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Y GymraegRhaid inni asesu, neu wneud trefniadau i asesu, ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran ddarparwyr a reoleiddir. Rhaid inni hefyd fonitro, a hyrwyddo gwelliant i ansawdd addysg drydyddol.
AnsawddEin nod yw hyrwyddo sylfaen ymchwil ddeinamig a chynaliadwy o fewn sefydliadau addysg uwch.
Ymchwil ac arloesiRydym yn datblygu polisïau mewn ystod o feysydd ac yn annog darparwyr i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y meysydd hyn.
Ar gyfer darparwyr dysguRydym yn cyllido addysg drydyddol ac ymchwil, gan gynnwys y chweched dosbarth mewn ysgolion, prentisiaethau, addysg bellach, addysg uwch ac ymchwil ac arloesi.
CyllidoMae angen inni fod yn hyderus bod y darparwyr a gyllidir gennym yn cael eu cynnal mor effeithlon ac effeithiol ag sy’n bosibl i ddiogelu cyllid cyhoeddus.
Monitro a chydymffurfioDefnyddir gwybodaeth gan ddarparwyr addysg drydyddol i gyfrifo dyraniadau cyllid, i fonitro cynnydd, i lywio polisi ac i gyhoeddi ystadegau ar gyfer y sector trydyddol.
Data a dadansoddiGallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein canllawiau, ein cyhoeddiadau ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio