Cynllun Strategol 2025-2030

Mae’r Cynllun Strategol yn y nodi ein huchelgeisiau am sector cydweithredol sy’n darparu dysgu ac ymchwil o ansawdd uchel, gan ddiwallu anghenion yr economi a chymdeithas, gwella cyfraddau cyfranogiad mewn addysg drydyddol, a chreu llwybrau mwy hyblyg i ddysgwyr.

Cynllun Strategol 2025-2030

Mae ein Cynllun Strategol yn amlinellu ymateb Medr i flaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil. Mae’r Cynllun hefyd yn ystyried y gofynion deddfwriaethol a osodwyd arnom yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, ac yn disgrifio sut mae Medr yn bwriadu gweithio i’w cyflawni.

Mae’r Cynllun hefyd wedi’i osod yng nghyd-destun yr angen i ni daro cydbwysedd rhwng sefydlu corff newydd ac ateb gofynion deddfwriaethol newydd yn y byrdymor ar y naill law, a phennu ein huchelgais a’n dyheadau ar gyfer y tymor hwy ar y llaw arall.

Cymeradwywyd y Cynllun gan Weinidogion Cymru ar 25 Chwefror 2025.

Mae ein Cynllun Strategol ar gyfer 2025-2030 yn seiliedig ar ymrwymiadau sefydlu a thwf ar gyfer pum nod strategol, yn ogystal â nod sylfaenol:

Gofynnwyd am adborth ynghylch a oedd ein nodau strategol a’n hymrwymiadau arfaethedig yn adlewyrchu’r hyn yr oedd partneriaid a rhanddeiliaid yn credu a fyddai’n creu effaith gadarnhaol ar y sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Gofynnwyd am farn amrywiaeth eang o randdeiliaid, partneriaid cymdeithasol, cyflogwyr a sefydliadau cymunedol fel rhan o’r ymgynghoriad hwn. Bu hefyd yn ymgysylltu â llais y cyflogwr, a chynhaliodd ddigwyddiadau adborth dysgwyr, gan sicrhau bod llais y dysgwr yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad y cynllun.

Yn dilyn yr ymatebion i’r ymgynghoriad, atgyfnerthwyd cyfeiriadau i nifer o agweddau yn y cynllun terfynol, gan gynnwys:

  • anghenion dysgu ychwanegol
  • datblygu partneriaeth gymdeithasol
  • y Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg
  • agwedd fyd-eang o safbwynt Cymreig.

Rydym ar hyn o bryd yn datblygu ei gynllun gweithredol, a fframwaith i fesur a gwerthuso cyflawniad y sefydliad yn erbyn y cynllun hwnnw. Caiff y rhain eu cyhoeddi ar wefan Medr.

Cynllun Strategol 2025-2030

Mae’r Cynllun Strategol yn amlinellu ein hymateb i flaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil.

Cynllun Strategol 2025-2030

Adroddiad ar ymatebion i’r ymgynghoriad

Rydym wedi ystyried pob ymateb i’r ymgynghoriad a’r ymarferion cynnwys ehangach yn llawn, gan eu hystyried wrth ddiwygio’r Cynllun. Mae’r adroddiad hwn sy’n crynhoi’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i fyfyrio ynghylch sut y gwnaed hyn.

Adroddiad ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad

Adroddiad ar weithdai ymgysylltu â rhanddeiliaid Medr

Rhoddodd Edge Foundation gymorth gyda dwy sesiwn ymgysylltu â rhanddeiliaid i gasglu eu barn am Medr.

Mae’r ddogfen hon yn grynodeb o’r canfyddiadau ar draws y gweithdai.

Adroddiad ar weithdai ymgysylltu â rhanddeiliaid Medr

Cynllun Strategol Medr – ymgynghoriad â dysgwyr

Rhoddwyd gomisiwn i Beaufort Research i gynnal ymchwil ansoddol ymhlith dysgwyr yn y sector addysg drydyddol er mwyn: deall beth sy’n bwysig i ddysgwyr ar eu llwybr trwy’r sector addysg drydyddol; archwilio sut bydd Medr yn gwrando ar lais y dysgwr yn effeithiol; cael adborth ar ein nodau strategol; a deall beth yr hoffai dysgwyr eu gweld o ganlyniad i sefydlu Medr. 

Cynllun Strategol Medr – ymgynghoriad â dysgwyr

Newyddion: Cyhoeddi gweledigaeth Medr ar gyfer y sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru

Mae Medr wedi cyhoeddi ei Gynllun Strategol cyntaf i greu sector mwy ‘cydgysylltiedig a chynhwysol’.

“Rydym yn hyderus bod ein gweledigaeth yn cael ei rhannu ledled Cymru, a thrwy symud ymlaen gyda’n gilydd, fel un sector sydd wedi’i uno gan uchelgais a phwrpas cyffredin, y gallwn ddatgloi potensial system sy’n fwy na chyfanswm ei rhannau.”

Darllenwch yr eitem newyddion llawn

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio