Gweithio gyda ni

Rydym yn corff hyd braich newydd Llywodraeth Cymru, yn cyllido, rheoleiddio a goruchwylio: addysg bellach, gan gynnwys colegau a’r chweched dosbarth mewn ysgolion, addysg uwch gan gynnwys ymchwil ac arloesi, addysg oedolion a dysgu oedolion yn y gymuned, a phrentisiaethau a hyfforddiant. 

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i alluogi system addysg ac ymchwil drydyddol sy’n canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, cymdeithas, a’r economi; gyda rhagoriaeth, cydraddoldeb ac ymgysylltu’n greiddiol iddi.  

Ein gwerthoedd

Dysgu – mae dysgu’n greiddiol i bopeth a wnawn. Rydym yn credu bod chwilfrydedd yn hybu
arloesi ac yn helpu i ehangu ein gorwelion.

Cydweithio – gallwn gyflawni llawer mwy gyda’n gilydd nag y gallem fyth ei wneud ar ein pen ein hunain.

Cynnwys pawb – rydym yn frwd dros gynhwysiant, gan geisio creu’r amodau cywir i bawb gyflawni eu llawn botensial.

Rhagori – mae gennym ddyheadau uchel ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru ac rydym felly’n gosod safonau uchel i ni ein hunain er mwyn bod ar ein gorau.

Ochr yn ochr â’ch cyflog, mae Medr yn cyfrannu’n hael at eich pensiwn gwasanaeth sifil.

Rydym hefyd yn darparu:

  • 33 diwrnod o wyliau y flwyddyn (pro rata). 
  • Amgylchedd sy’n hyrwyddo cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys amser llesiant bob wythnos. 
  • Cynllun Beicio i’r Gwaith i wneud perchnogaeth ar feic yn fwy fforddiadwy. 

Gwyddom y gallwch weithiau wynebu heriau neu ddigwyddiadau mewn bywyd sy’n golygu bod angen cymorth ychwanegol arnoch. 

  • Rydym yn darparu rhaglen cymorth-i-gyflogeion gynhwysfawr gyda mynediad o bell at adnoddau a chymorth yn y cnawd pryd bynnag y bo angen hynny.
  • Mae gennym bolisi absenoldeb arbennig sy’n sicrhau bod pawb yn y sefydliad yn cael y cymorth y mae ei angen arnynt yn ystod cyfnodau anodd. 
  • Mae ein pwyllgor chwaraeon, cymdeithasol a llesiant gweithgar yn cynnig ystod o weithgareddau i ddod ynghyd y tu allan i’r lleoliad gwaith.   
  • Bydd gennych hawl i gymryd 5 diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn i wneud gwaith gwirfoddol i gefnogi ein cymunedau.
  • Unwaith y cynigir swydd i chi, byddwn yn dod i’ch adnabod ac yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun cynefino wedi’i bersonoli sy’n ystyried eich profiad, eich sgiliau, eich arddull dysgu a’ch gwybodaeth.
  • Byddwn yn eich helpu i lunio eich cynlluniau datblygu â sgyrsiau ac amcanion gyrfaol wedi’u personoli, gan ystyried nodau cyflawni ochr yn ochr â’ch dyheadau gyrfaol.
  • Rydym yn cynorthwyo ein holl staff i ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg.

Mae gennym ddiddordeb go iawn ynoch chi fel unigolyn a’r hyn y byddwch chi’n ei gynnig i’n sefydliad. Mae ein proses asesu gyfunol wedi’i bwriadu i’n helpu ni i ddod i’ch adnabod chi’n well gan ein galluogi i benodi rhywun a fydd yn ffynnu yn y rôl ac sy’n rhannu ein gwerthoedd ni fel sefydliad.

Rydym yn ymdrechu i greu gweithle amrywiol a chynhwysol ac rydym eisiau eich helpu i ddangos eich potensial llawn beth bynnag fo’r dull asesu a ddefnyddir. Byddwn yn hapus i drafod unrhyw addasiadau i’r broses recriwtio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Cysylltwch â [email protected].

Swyddi gwag

Cyfarwyddwr Ystadegau a Dadansoddi

Byddwch chi’n gyfrifol am arwain o ran cyflawni a datblygu’r gwaith ystadegau a dadansoddi sydd â rôl allweddol i gefnogi dyletswyddau a swyddogaethau strategol Medr. Chi fydd Swyddog Arweiniol Medr ar gyfer Ystadegau, gyda chyfrifoldeb am ei gydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Cyflog: £70,456 – £80,8401

Sesiwn wybodaeth i ymgeiswyr: 14.00, dydd Iau 21 Tachwedd (ar-lein)

Dyddiad cau: dydd Mawrth, 3 Rhagfyr 2024

Mwy ar wefan Swyddi Gwasanaeth Sifil

Swyddog Pobl a Diwylliant (2 CagALl)

Gyda ffocws ar recriwtio, cynefino, llesiant a datblygiad staff, bydd y rolau swyddogion yn gweithio ar draws y meysydd hyn yn ogystal â bod yn rhan o waith prosiect i feithrin diwylliant Medr.

Cyflog: £28,434 – £33,751

Sesiwn wybodaeth i ymgeiswyr: 14.00, dydd Mercher 13 Tachwedd (ar-lein)

Dyddiad cau: dydd Iau, 21 Tachwedd 2024

Mwy ar wefan Swyddi Gwasanaeth Sifil

Uwch Reolwr Cydraddoldeb a Chynhwysiant

Byddwch yn rheoli ymdrechion Medr i hybu cyfle cyfartal a gwella lles staff a myfyrwyr. Byddwch yn cyfrannu at greu system addysg drydyddol fwy teg i bawb a all gael budd ohoni trwy ddatblygu a gweithredu polisi addysg drydyddol o fewn y Tîm Ehangu Mynediad a Chynhwysiant, rhan o’r Gyfarwyddiaeth Profiad Dysgwyr yn Medr. Byddwch yn gweithio ar draws Medr ac yn cydweithio gyda phartneriaid i gyrraedd y nodau hyn.

Cyflog: £45,256 – £52,399

Sesiwn wybodaeth i ymgeiswyr: 14.30, dydd Llun 11 Tachwedd (ar-lein)

Dyddiad cau: dydd Iau, 21 Tachwedd 2024

Mwy ar wefan Swyddi Gwasanaeth Sifil

Rheolwr Caffael

Fel rhan o’r tîm Caffael, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod Medr yn cael gwerth am arian wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau. Byddwch yn goruchwylio cydymffurfiaeth â’r holl reoliadau caffael perthnasol ac yn helpu Medr i fabwysiadu arfer gorau ym maes caffael, gan ddilyn polisïau a gofynion deddfwriaethol cyfredol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ym maes caffael, sydd ar fin cael eu diwygio.

Cyflog: £36,219 – £42,449

Sesiwn wybodaeth i ymgeiswyr: 13.00, dydd Llun 4 Tachwedd (ar-lein)

Dyddiad cau: dydd Mawrth, 12 Tachwedd 2024

Mwy ar wefan Swyddi Gwasanaeth Sifil

Uwch Ddadansoddwr Ystadegol (cyllid prentisiaeth)

Byddwch yn arwain ar gynhyrchu modelau, systemau a gweithdrefnau i ddeillio taliadau, dyraniadau a dadansoddiadau o ddata. Byddwch yn sicrhau bod gan reolwyr contractau, darparwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill fynediad at yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt am gyllido, cyflawni a pherfformiad.

Cyflog: £45,256 – £52,399

Sesiwn wybodaeth i ymgeiswyr: 15.00, dydd Mercher 16 Hydref (ar-lein)

Dyddiad cau: dydd Sul, 27 Hydref 2024

Mwy ar wefan Swyddi Gwasanaeth Sifil

Swyddog Ansawdd a Gwelliant Parhaus

Byddwch yn aelod allweddol o’r tîm, yn croesawu newid; byw ein gwerthoedd a chyfrannu at Medr fel corff uchel ei berfformiad.

Cyflog: £28,434 – £33,751

Sesiwn wybodaeth i ymgeiswyr: 15.30, dydd Mawrth 15 Hydref (ar-lein)

Dyddiad cau: dydd Mawrth, 22 Hydref 2024

Mwy ar wefan Swyddi Gwasanaeth Sifil

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio