Ein hymrwymiadau o ran y Gymraeg
Rydym yn cydnabod y rôl bwysig sydd gan y sector addysg drydyddol ac ymchwil wrth gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru ddwyieithog. O dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, mae gennym ddyletswydd strategol i hyrwyddo astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Fel corff, rydym yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal ein busnes cyhoeddus yng Nghymru. Rydym hefyd yn cydnabod ein rôl o ran hwyluso amgylchedd gwaith dwyieithog i’n pobl.
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd gohebu yn y Gymraeg yn achosi unrhyw oedi.
Byddwn hefyd yn craffu ar ein polisïau a’n cynlluniau i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, ac yn ystyried effaith ein polisïau ar y defnydd o’r Gymraeg yn fewnol ac yn allanol.
Byddwn yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg ac yn derbyn Hysbysiad Cydymffurfio oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg maes o law.