Rheolau Sefydlog ar gyfer Cynnal Busnes y Bwrdd
Bydd y ddogfen hon yn darparu fframwaith ar gyfer aelodaeth y Bwrdd, presenoldeb, mynychder cyfarfodydd a datgelu gwybodaeth.
This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.
Cafodd Medr ei sefydlu o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.
Corff a noddir gan Lywodraeth Cymru yw Medr, ac mae’n atebol i Weinidogion Cymru. Mae’n gweithredu ar hyd braich i’r Llywodraeth, ond o fewn fframwaith cynllunio a chyllido strategol wedi’i sefydlu gan Weinidogion Cymru.
Mae’r Bwrdd yn rhoi arweinyddiaeth strategol; yn hyrwyddo safonau uchel ar gyfer arian cyhoeddus; yn monitro perfformiad; ac yn sicrhau bod gweithgareddau Medr yn cael eu cyflawni’n effeithlon ac effeithiol mewn modd sy’n gyson â’r dulliau o weithio a sefydlwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae’r Bwrdd yn cynnwys hyd at 17 o aelodau, wedi’u penodi gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y Cadeirydd, y Dirprwy Gadeirydd (sydd hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi), a Phrif Weithredwr Medr.
Bydd y Bwrdd hefyd yn cynnwys hyd at bedwar aelod cysylltiol heb hawliau pleidleisio, yn cynrychioli dysgwyr a’r gweithlu addysg.
Caiff Aelodau’r Bwrdd eu penodi gan Weinidogion Cymru. Mae’r rhain yn benodiadau a reoleiddir a wneir yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.
Mae Aelodau’r Bwrdd yn cadw at God Ymddygiad, sy’n cynnwys cytundeb i gadw at egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus: anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, didwylledd, gonestrwydd ac arweinyddiaeth.
Mae’n rhaid i Aelodau’r Bwrdd a Phwyllgorau lenwi ffurflen datgan buddiannau ar gyfer y gofrestr gyhoeddus.
Aelodau Bwrdd MedrMae’r Pwyllgorau’n cynghori ein Bwrdd am agweddau neilltuol ar ein gwaith, gan gynnwys ymchwil ac arloesi; profiad myfyrwyr; archwilio a risg; ac asesu ansawdd. Mae gan bob pwyllgor ei gylch gorchwyl ei hun ac mae’n cadw at reolau sefydlog y Pwyllgor.
Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth am gylchoedd gwaith ac aelodaeth y pwyllgorau dros y misoedd nesaf.
Bydd y ddogfen hon yn darparu fframwaith ar gyfer aelodaeth y Bwrdd, presenoldeb, mynychder cyfarfodydd a datgelu gwybodaeth.
Bydd y rhain yn amlinellu strwythur, cylch gorchwyl, trefniadau aelodaeth a gofynion adrodd y pwyllgorau.
Bydd y Cynllun Dirprwyo yn nodi materion a gadwir yn ôl ar gyfer y Bwrdd yn unig, yn ogystal â materion y gellir bwrw ymlaen â nhw ar ran y Bwrdd o dan awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Cadeirydd ac i’r Prif Weithredwr.
Mae Dogfen Fframwaith Llywodraeth Cymru yn sefydlu’r fframwaith bras y bydd Medr yn gweithredu oddi mewn iddo, ac yn diffinio rolau a chyfrifoldebau Gweinidogion Cymru a Medr.
Dogfen ffamwaithAr ôl pob cyfarfod o’r Bwrdd byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r cyfarfod hwnnw, gan amlinellu’r hyn a drafodwyd, a rhannu unrhyw ganlyniadau y gellir eu datgelu.
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio