Y Gymraeg

Un o brif flaenoriaethau Medr yw hyrwyddo addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg.

Mae gennym ran bwysig i’w chwarae er mwyn meithrin diwylliant bywiog lle gall y Gymraeg ffynnu, ac er mwyn cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Byddwn yn annog y galw am gyfleoedd i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a chyfranogiad yn hynny, ac yn sicrhau bod digon o ddarpariaeth i fodoli’r galw hwnnw. Bydd ein cynlluniau’n annog pob dysgwr i feithrin, cynnal a defnyddio’i sgiliau Cymraeg yn ystod ei daith drwy addysg drydyddol, gan ei alluogi i ddefnyddio’r sgiliau hynny yn y gweithle ac mewn cyd-destunau anffurfiol.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio gyda darparwyr i hyrwyddo, datblygu a chynnal cyfleoedd cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg drydyddol. Mae hyn yn cynnwys cynyddu gallu darparwyr i gyflwyno darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, a darparu ystod o ysgoloriaethau i annog dysgwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Coleg wedi’i ddynodi gan Weinidogion Cymru i roi cyngor i Medr i’n helpu i gyflawni ein dyletswydd i hyrwyddo addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym wedi cyd-lofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth, gan ffurfioli’r berthynas hon a nodi sut y byddwn yn cydweithio i gyflawni ein nodau cyffredin.

Ym mis Rhagfyr, croesawyd ein cyngor cyntaf gan y Coleg ynghylch ein dyletswyddau’n gysylltiedig â’r Gymraeg, gan adlewyrchu ein huchelgeisiau cyffredin i annog y galw am addysg drydyddol wedi’i darparu drwy gyfrwng y Gymraeg, a chyfranogiad yn hynny. Byddwn yn parhau i roi ystyriaeth lawn i gyngor y Coleg wrth inni weithredu ein Cynllun Strategol 2025-2030 mewn partneriaeth â’r holl randdeiliaid. 

Yn ogystal â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd Medr yn gweithio gyda phartneriaid eraill, gan gynnwys y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a darparwyr addysg drydyddol, i sicrhau bod darpariaeth ddigonol ar gael ac i gynyddu nifer y dysgwyr addysg drydyddol sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio